Fel un o gwta lond llaw o gwmnïau yn y byd sy’n cynhyrchu offer monitro ar gyfer fformaldehyd a nwyon gwenwynig eraill, mae’r cwmni arobryn PPM Technology wedi llwyddo i ddatblygu busnes rhyngwladol cadarn. 


Am fod fformaldehyd yn cael ei ddefnyddio cymaint yn rhyngwladol, a hynny ar draws nifer fawr o farchnadoedd a diwydiannau, mae gan PPM gwmpas byd-eang cynyddol ac mae’n gweithredu mewn sectorau fel fferylliaeth, gofal iechyd, ffermio gan gynnwys dofednod, adeiladu, diwydiannau pren, dillad, harddwch a llawer iawn mwy.

Mae PPM yn allforio i dros 40 o wledydd ar draws y byd, ac allforion sydd i gyfrifo am 80% o’i drosiant.

Er bod y pandemig Covid-19 wedi taro’r busnes, mae’r cwmni o Gaernarfon wedi gweld perfformiad cadarn dros y blynyddoedd diwethaf diolch i’r cynnydd mewn gwerthiannau domestig a chynllun twf allforion strategol sy’n archwilio tiriogaethau a sectorau newydd o’r farchnad. Mae gwerthiannau wedi bod yn cynyddu, ac mae’r cwmni’n rhag-weld y bydd y bydd yn edrych ar un o’i flynyddoedd mwyaf proffidiol eto erbyn 2025.

Heddiw, mae marchnadoedd rhyngwladol PPM yn cynnwys Taiwan, De Corea, Singapore, Malaysia, Ewrop a’r Unol Daleithiau.

Canolbwyntio ar yr UDA

“Mae UDA yn ffocws gwirioneddol i ni”, meddai John Brinley Jones, Rheolwr Gyfarwyddwr PPM, “mae hi’n farchnad anodd ac mae lled yr elw yn dynn iawn yno, ond mae hi’n farchnad anferth. Rydyn ni wedi bod yn gweithio yn UDA ers blynyddoedd mawr, ond rydyn ni am wneud mwy o lawer, yn arbennig o fewn y sector dofednod, sy’n gyfeiriad mae ein busnes wedi bod mynd iddo dros y blynyddoedd diwethaf. Mae sector dofednod werth degau o filiynau o ddoleri ac felly byddai chwarae rhan sylweddol yn hynny’n drawsnewidiol i ni fel cwmni.”

Mae PPM Technology’n gweithredu o gyfleuster ar Ystâd Ddiwydiannol Cibyn yng Nghaernarfon, lle mae’n cyflogi 9 aelod o staff. Mae gan y cwmni gynlluniau i recriwtio rhagor o weithwyr; yn y maes cynhyrchu diolch i’r cynnydd mewn gwerthiannau, ac yn y maes gwerthu a marchnata a fydd yn helpu gyda strategaeth allforio’r cwmni.

Sefydlwyd y cwmni ddechrau’r 1990au yn wreiddiol. Sylfaenydd y cwmni oedd Dr Tom Parry Jones, y datblygodd ei Lion Laboratories anadliedydd electronig cynta’r byd. Ar ôl i’r rheolwyr brynu’r cwmni ym 1999, trodd ffocws y cwmni – a newidiodd ei enw i PPM Technology – at fanteisio ar farchnad newydd ar gyfer ei gynhyrchion yn Asia. Mae Tsieina’n farchnad allforio bwysig i’r cwmni ers blynyddoedd, ac mae gwerthiannau’n ymadfer yn y rhanbarth bellach yn sgil gostyngiad yn ystod blynyddoedd cynnar y pandemig oherwydd cyfnodau clo estynedig.

Cefnogaeth i ymweld â marchnadoedd

Dros y blynyddoedd, mae PPM wedi cael amrywiaeth eang o gymorth gan arbenigwyr allforio Llywodraeth Cymru, gan gynnwys cymorth i gymryd rhan mewn teithiau masnach a mynychu arddangosfeydd allweddol, yn ogystal â chyngor cyffredinol ar allforio.

“Mae ymweld â marchnadoedd wedi bod yn hanfodol i ni erioed”, meddai John, “Rydw i newydd ddod nôl o daith ddiddorol Llywodraeth Cymru i Sydney, a phan oeddwn i yno, fe estynnais i’r ymweliad er mwyn cyfarfod â’n dosbarthwr ym Melbourne. Mae cynnal ein perthnasau byd-eang yn allweddol.

“Rydyn ni’n gobeithio ymweld â Tsieina a gwledydd eraill yn y Dwyrain Pell yn ddiweddarach eleni. Dydyn ni ddim wedi bod yno ers nifer o flynyddoedd, felly rydyn ni’n awyddus i ddychwelyd i weld ein partneriaid yno, a meithrin perthnasau newydd hefyd.

“Mae hi’n sicr y bydd 2024 a 2025 yn flynyddoedd mawr i ni yn nhermau ein rhaglenni allforio, a bydd hynny’n golygu llawer o deithio, a bydd Llywodraeth Cymru’n ein cynorthwyo â rhan helaeth o hynny.

“Rydw i wedi bod yn teithio’r byd ers blynyddoedd, ac mae hi’n sicr bod yna sialensiau ynghlwm wrth deithio ar eich pen eich hun, yn arbennig i wledydd nad ydych wedi bod iddynt o’r blaen. Ond pan rydych chi ar daith fasnach, rydych chi’n cwrdd â llwyth o bobl a chwmnïau, ac mae cymaint o’r gwaith wedi ei wneud i chi. Maen nhw’n brofiadau hynod o werth chweil.”
 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen