Mae Fifth Wheel Company yn Rhuallt yn dylunio ac yn adeiladu carafanau teithio pumed olwyn moethus, sy’n cael eu galw yn ‘bentai ar olwynion’ yn aml, ac sy'n gwerthu am rhwng £90-120k yr un.
Mae'r cwmni, sydd eisoes yn allforio i dros chwe gwlad - yr Almaen, Ffrainc, Awstria, y Swistir, Awstralia a Seland Newydd, wedi gosod ei olygon ar gynyddu ei bresenoldeb byd-eang trwy ehangu ymhellach yn Ewrop, a thargedu Canada fel marchnad newydd.
O fewnforio i weithgynhyrchu
Sefydlwyd y busnes teuluol yma dros 20 mlynedd yn ôl. Ar y cychwyn roedd yn mewnforio cerbydau hamdden pumed olwyn o America, cyn troi at gynhyrchu cerbydau tebyg o ansawdd uwch yn ei ganolfan yn y gogledd. Hi yw'r unig weithgynhyrchwr carafanau teithio pumed olwyn sy'n cydymffurfio â gofynion yr UE yn Ewrop.
Uchelgeisiau allforio uwch
Allforion oedd i gyfrif am £2m o drosiant Fifth Wheel y llynedd, oedd 50% yn fwy nac yn 2022. Mae’r cwmni’n darogan y bydd gwerthiannau allforio’n cyrraedd £2.6m yn 2024, sy’n gynnydd o 30%, a hynny diolch yn bennaf i’w raglen allforio sy’n ehangu wrth iddo geisio cynyddu ei rwydwaith o werthwyr ar draws y byd. Mae’r cwmni wrthi nawr yn chwilio am werthwyr i gymryd cyfrifoldeb dros werthu ei gynnyrch ym marchnadoedd Awstralia a Chanada er mwyn diogelu ei safle yn y rhanbarthau hynny, a hynny gyda chymorth ymgynghorwyr masnach Llywodraeth Cymru.
Yr Almaen yw marchnad allforio fwyaf Fifth Wheel o hyd, ac mae’r galw gan ddefnyddwyr yn dal i fod yn gyson uchel yno. Mae’r cwmni wedi addasu cynnyrch o’i gasgliad at ofynion y farchnad Almaenaidd, ac yn ddiweddarach eleni, bydd yn cyflwyno fersiwn hirach o’i Celtic Rambler er mwyn diwallu gofynion y farchnad fyw a phwysig yma.
Bob blwyddyn, mae Fifth Wheel yn mynychu arddangosfa Carafanau Dusseldorf gyda chymorth ariannol Llywodraeth Cymru, a’r flwyddyn nesaf, mae’n bwriadu cefnogi ei werthwr Almaenaidd yn CMT 2025, sef sioe twristiaeth a hamdden fwyaf y byd i ddefnyddwyr, yn Stuttgart.
Dros fôr Iwerydd, marchnad America yw’r farchnad fyd-eang fwyaf ar gyfer cerbydau gwyliau moethus.
“Yn y tymor hwy, mae ein golygon yn sicr ar farchnad UDA”, meddai Gethin Whiteley, Cyfarwyddwr Technegol Fifth Wheel. “Dyna o ble mae’r syniad ‘pumed olwyn’ yn dod – arloesedd o UDA yw hi y syrthiodd gweddill y byd mewn cariad â hi, ac rydyn ni wedi addasu’r cysyniad ar gyfer marchnadoedd Ewropeaidd. Byddwn i wrth fy modd yn cwblhau’r cylch ac yn gwerthu eu creadigaeth eu hunain yn ôl iddyn nhw.”
Yn ôl Gethin, golygon rhyngwladol y cwmni sydd i gyfrif am ei dwf dros y ddau ddegawd diwethaf, ac meddai: “Mae allforio wedi darparu cyfleoedd di-ben-draw i ni dyfu, ac mae hyn wedi bod yn hanfodol wrth helpu i’n cynnal ni trwy gyfnod ariannol cythryblus y blynyddoedd diwethaf.”
Peth arall sydd wedi bod yn hanfodol i lwyddiant allforio’r cwmni yw cymorth arbenigwyr allforio Llywodraeth Cymru, sydd wedi ei gynorthwyo i gyrchu cymorth ariannol a chael cyngor ar farchnadoedd a phartneriaethau posibl.
Ychwanegodd Gethin: “Mae tîm allforio Llywodraeth Cymru wedi darparu gwaith ymchwil cefndir ar werthwyr a busnesau oedd â diddordeb gweithio mewn partneriaeth â ni yn Fifth Wheel, a helpodd hyn ni i gyrraedd marchnadoedd newydd a chyflymu ein siwrnai allforio.”
Cafodd y cwmni gymorth gan gynghorwyr masnachu Llywodraeth Cymru yn sgil Brexit hefyd, i’w gynorthwyo i ffeindio’i ffordd trwy’r dirwedd fasnachu newydd a bodloni’r gofynion newydd o ran cynrychiolwyr gweithgynhyrchwyr awdurdodedig yr UE yn Ewrop.
“Rhoesant gymorth i ni ddysgu am y rheolau newydd yn sgil Brexit a sut roedd yr holl beth yn gweithio”, meddai Gethin. “Mae eu cefnogaeth wedi bod yn hanfodol i’n strategaeth ryngwladol, a fyddem ni ddim lle’r ydym ni nawr heblaw amdano”