Mae ffocws Corgi, cwmni teuluol Cymreig sy'n enwog ar draws y byd am gynhyrchu sanau a dillad gwlân moethus, wedi bod ar allforio ers blynyddoedd maith ac mae ganddo fyddin o gefnogwyr ffyddlon ym mhedwar ban y byd.

Allforion sydd i gyfrif am 60% o drosiant Corgi, ac ymhlith marchnadoedd allforio craidd y cwmni mae UDA, Japan a’r Almaen, a’r UDA yw’r mwyaf o’r rhain. Cyflwynwyd Corgi i’w bartneriaid yn Tsieina a Japan gan Llywodraeth Cymru.

Mae Corgi wedi bod yn creu ei sanau a dillad gwlân mawr eu bri â llaw ym mhencadlys y cwmni yn Rhydaman, Sir Gâr ers 132 o flynyddoedd bellach. 

Sefydlwyd y cwmni yn y pentref bach glofaol lle mae’n dal i weithredu heddiw gan Rhys Jones nôl ym 1893. Ar y cychwyn, siop ddillad annibynnol i daclu'r glowyr lleol oedd hi, ond tyfodd yn gyflym i wasanaethu gwerthwyr dillad ledled y DU.

Ar ôl profi llwyddiant mawr ar lefel ddomestig, dechreuodd y busnes feddwl am ei botensial rhyngwladol, a diwedd y 1940au, tarodd fargen gyda'r brand ffasiwn Americanaidd eiconaidd, Brooks Brothers – gwerthwr dillad hynaf UDA.  

Ffasiwn moethus

Dyna oedd dechrau siwrnai allforio Corgi, a chysylltiad hir y cwmni â'r byd ffasiwn foethus sy’n cynnwys partneriaethau â Ralph Lauren, Burberry a Thom Browne.  

Erbyn y 1980au, roedd Corgi'n allforio'n llwyddiannus i bedwar ban y byd, ac roedd yn llewyrchu gartref hefyd. Ym 1988 dyfarnodd Ei Fawrhydi Tywysog Cymru (Brenin Charles III bellach), a oedd wedi bod yn gwisgo dillad y brand ers blynyddoedd, Warant Frenhinol i’r cwmni.

Siopau’r Palas Brenhinol yw cleient domestig mwyaf Corgi erbyn hyn, ac mae’r brand yn creu nifer o ddyluniadau ar gyfer y Casgliad Brenhinol.

Heddiw, pumed genhedlaeth y teulu Jones sy'n rhedeg y cwmni – y brawd a chwaer Chris Jones a Lisa Wood – ac mae ganddo sylfaen gadarn o gwsmeriaid rhyngwladol sy'n ymestyn ar draws dros 30 o wledydd yn Ewrop, Gogledd America, De America ac Asia.

Mwy o ganolbwyntio ar allforio

Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, mae Corgi wedi dwysáu ei ffocws allforio'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf gan ddechrau allforio i 15 o farchnadoedd newydd gan gynnwys Tsieina, De America, De Affrica, Taiwan, Fietnam ac Awstralia.  Er i flynyddoedd cynnar y pandemig gael effaith negyddol ar berfformiad rhyngwladol y cwmni, mae Corgi wedi ymadfer yn dda, gan dyfu blwyddyn ar ôl blwyddyn, ac â marchnad arbennig o gryf yn Japan.  

Mae'r cwmni wedi cael cymorth gan Llywodraeth Cymru i hybu ei dwf allforio, gan gynnwys cymorth ariannol i fynychu amryw o deithiau masnach ar draws y byd sydd wedi cynnig cyfleoedd i’r cwmni gwrdd â darpar-ddosbarthwyr, y mae llawer ohonynt yn gwsmeriaid erbyn hyn.   

Yn benodol, mae cymorth Llywodraeth Cymru wedi hwyluso twf Corgi yn Japan. Mae ymgynghorwyr masnach wedi bod yn helpu Corgi gyda chyfres newydd o sioeau arddangos mawr yn y wlad, sydd wedi bod yn llwyddiannus dros ben wrth gyrraedd cwsmeriaid newydd - cymaint felly eu bod yn bwriadu efelychu’r model yng Nghorea. 

Targedu Tsieina

Mae Corgi wedi bod yn dwysáu ei weithgarwch yn Tsieina hefyd, ac er mwyn cynnal ei dwf yn y rhanbarth, mae’r tîm wedi bod yn treulio amser yn y farchnad yn meithrin cysylltiadau newydd â dosbarthwyr yn Beijing, Shanghai a Shenzhen, sy’n hyb technolegol blaenllaw. Mae ymgynghorwyr masnachu Llywodraeth Cymru wedi cynorthwyo llawer o’r gweithgareddau hyn. 

Yn ogystal, mae’r brand wedi bod yn gweithio gyda nifer o ddylanwadwyr ffasiwn Tsieineaidd, gan gymryd rhan mewn sesiynau Siopa Byw ar Instagram, lle mae cynnyrch yn cael ei werthu’n uniongyrchol trwy’r ap. Gwerthodd Corgi gwerth dros £50,000 o gynnyrch mewn un sesiwn tair awr a ddenodd 2,000 o wylwyr ar gyfartaledd ar unrhyw adeg yn ddiweddar. Yn dilyn y llwyddiant yma, mae rhagor o bartneriaethau â dylanwadwyr rhyngwladol ar y gweill.

Ar lefel fwy domestig, mae proffil rhyngwladol Corgi wedi cael hwb yn sgil y ffaith fod ei brif gystadleuaeth yn y DU wedi symud ei waith cynhyrchu i gyfandir Ewrop, sy’n golygu taw Corgi yw’r unig wneuthurwr sanau moethus yn y DU bellach, statws y mae’n eithriadol o falch ohono. Mae datblygiadau o’r fath eisoes yn arwain at fusnes newydd ar farchnadoedd Asia, lle mae bri mawr i’r statws ‘Gwnaed ym Mhrydain’.

Dywedodd Chris Jones, cyd-reolwr gyfarwyddwr Corgi:

“Ein strategaeth allforio yw’r peth sydd wedi helpu i gynnal gwytnwch Corgi trwy nifer o flynyddoedd digon ymestynnol. Lle bo rhai marchnadoedd wedi cael ergyd, mae eraill wedi aros yn llewyrchus, neu wedi tyfu. Dyna pam fod allforio’n elfen mor hanfodol o’n busnes.

“Fy nghyngor allweddol i i ddarpar-allforwyr yw ei bod hi’n wirioneddol anodd gweithredu’n rhyngwladol oni bai bod gennych bartner gwych yn y farchnad. Mae gennym ni nifer o berthnasau hirsefydlog yn y farchnad y gallwn ymddiried ynddynt ym mhedwar ban y byd, a chawsom ein cyflwyno i rai ohonynt gan Llywodraeth Cymru. Y partneriaid hyn yw conglfaen ein busnes allforio, a gallem ni ddim â gwneud beth rydyn ni’n ei wneud hebddyn nhw.”

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen