Mae Celtic English Academy, ysgol iaith Saesneg yng Nghaerdydd, wedi gwneud enw rhyngwladol iddi hi hun ers iddi ddechrau addysgu myfyrwyr rhyngwladol 20 mlynedd yn ôl. Erbyn hyn mae'r cwmni'n darparu gwasanaethau ar gyfer dros 1,300 o ddysgwyr y flwyddyn o dros 50 o wledydd gan gynnwys Saudi Arabia, yr Eidal, Sbaen a Japan.

Teithiau masnach tramor yn allweddol i lwyddiant dramor

Sefydlwyd y cwmni yn 2004, ac ar y cychwyn roedd y Celtic English Academy yn dysgu Saesneg i fyfyrwyr a oedd yn mynd ymlaen i astudio fel myfyrwyr rhyngwladol mewn prifysgolion lleol mewn cwta pedair ystafell ddosbarth. Yn 2012, cafodd y cwmni gyllid gan

Llywodraeth Cymru i'w gynorthwyo i fynychu teithiau masnach dramor, gan sbarduno ei ymgyrch allforio a'i gynorthwyo i feithrin enw da dramor.

Ers hynny, mae'r ysgol, sydd ag achrediad y British Council, wedi tyfu'n sylweddol, gan ddenu myfyrwyr o bedwar ban y byd i astudio yn ei chyfleusterau arobryn yng Nghaerdydd.

Heddiw, allforion sydd i gyfrif am 95% o fasnach Celtic, ac mae'r cwmni wedi ehangu i gynnig cyrsiau ar lein a hybrid, yn ogystal â rhaglenni dysgu mewn gwledydd eraill a rhaglenni datblygu athrawon –  amrywiadau sydd wedi helpu i gynnal gwytnwch y cwmni. 

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae Celtic wedi ennill pedwar contract newydd pwysig ar draws Ewrop, Affrica ac Asia, ac mae'n gweld hyn fel yr allwedd i'w gynorthwyo i ddychwelyd at y lefelau a welwyd cyn y pandemig. Mae’r rhain yn cynnwys dau gontract addysgu o bell i ddarparu sesiynau ar lein gyda phartneriaid cenedlaethol yn Kuwait a Fietnam er mwyn cynorthwyo datblygiad athrawon Saesneg.

Archwilio marchnadoedd tramor newydd

Mae’r academi’n awyddus nawr i gynyddu ei bresenoldeb rhyngwladol trwy ganolbwyntio ar America Ladin, Japan a’r Dwyrain Canol fel llwybrau i adfer a thyfu’r busnes. Mae’r ysgol wedi recriwtio staff yn Japan, yr Iorddonen a Brasil, ac mae’n edrych ar gyfleoedd i ddatblygu yn Saudi Arabia mewn ymateb i’r cynnydd yn y galw am addysgu Saesneg yn y rhanbarth. Yn nes at adref, mae gan Celtic English Academy staff dramor yn yr Eidal a Sbaen eisoes, ac mae’n cydweithio’n agos â dosbarthwyr lleol ar draws Ewrop, gyda dros 300 o asiantau tramor sy’n hyrwyddo’r Academi i ddarpar-fyfyrwyr yn eu rhanbarthau.

Yn gynharach eleni, cynhaliodd academi Celtic yng Nghaerdydd weithdy Cymdeithas Ryngwladol y Canolfannau Iaith (IALC) – sef achlysur blaenllaw’r diwydiant ieithoedd teithio, sy’n gweld cannoedd o asiantau teithio i astudio a chynrychiolwyr ysgolion achrededig IALC o dros 30 o wledydd yn dod at ei gilydd ar gyfer sioe fasnach ryngwladol fawr ei bri. Cynhelir y sioe mewn gwlad wahanol bob blwyddyn, ac roedd hyn yn gyfle i Celtic English Academi arddangos ei gwasanaethau i gynulleidfa ryngwladol, yn ogystal â hyrwyddo Cymru’n ehangach er mwyn denu contractau masnachu pellach.

Dywedodd Shoko Doherty, Prif Weithredwr Celtic English Academy: "Mae allforio wrth galon ein gwaith fel busnes. Mae gweithio gyda myfyrwyr ac athrawon o amrywiaeth o wahanol wledydd, yn ogystal â'n pwyslais ar fod yn hyblyg ac addasu i newidiadau, wedi helpu i'n cadw ni'n wydn am nad ydym ni'n ddibynnol ar un farchnad neu ranbarth yn unig.”

Cymorth Llywodraeth Cymru

Mae cefnogaeth Llywodraeth Cymru, trwy Busnes Cymru, wedi bod yn allweddol i lwyddiant Celtic, gan gynnwys darpariaeth y Gronfa Datblygu Busnes Dramor (OBDV), sydd wedi caniatáu i gynrychiolwyr o'r cwmni ymweld â thiriogaethau newydd a mynychu ymgyrchoedd masnach i ddod o hyd i ddarpar-gleientiaid newydd neu ddod â chynhyrchion newydd i farchnadoedd sefydledig.

Yn 2023, defnyddiodd Celtic grant OBDV i ymweld â Tsieina i archwilio’r potensial ar gyfer allforio i’r wlad, yn ogystal ag ymweliad â’r farchnad yn yr Almaen mewn ymdrech i gynyddu ei werthiannau yn y rhanbarth, a arweiniodd at werth £62k o fusnes newydd. Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, dros y flwyddyn ddiwethaf, mae Celtic wedi ymweld â Brasil am y tro cyntaf hefyd, gan agor y drws ar farchnad newydd ar gyfer yr Academi am ei fod wedi llwyddo i ddiogelu gwerth £265k o gontractau yno ers hynny. 

Ychwanegodd Shoko: "Rydyn ni wedi diogelu'r rhan fwyaf o'n busnes trwy deithio dramor a chwrdd â chleientiaid newydd yn uniongyrchol. Mae'r cysylltiadau hyn wedi bod yn hanfodol wrth ddenu myfyrwyr i astudio yn ein hysgol yng Nghymru, ac wrth feithrin perthnasau er mwyn ennill contractau mewnol yn y tiriogaethau targed, felly rydyn ni'n ddiolchgar dros ben i Llywodraeth Cymru am eu cymorth i wireddu hyn.”
 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen