Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei hymweliad marchnad allforio i Gothenburg  a Copenhagen. Mae’r ymweliad hwn, sy’n cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru, yn gyfle cyffrous i fusnesau bach a mawr feithrin cysylltiadau â busnesau yn Nenmarc a Sweden.

Tra'n darparu rhagolygon busnes ar draws pob sector, mae'r ymweliad yn cynnig cyfleoedd penodol ar draws Sgandinafia i'r rhai sydd â diddordeb mewn ynni adnewyddadwy ar y môr, a thrwy ddigwyddiad Dyddiau Gwyddor Bywyd Nordig ym Malmo ar 18-19 Medi, y rhai sydd â diddordeb yn y diwydiannau Gwyddorau Bywyd a gofal iechyd. Mae'r digwyddiad yn agos at ganolfan y Daith Fasnach yn Copenhagen yn ystod y rhan honno o'r ymweliad.  

Pam Sweden?
Sweden yw un o'r gwledydd mwyaf cystadleuol, arloesol a rhyngwladol yn y byd. Mae gan y wlad economi sefydlog, gweithlu medrus a defnyddwyr soffistigedig.

Mae Sweden, y fwyaf o'r bum gwlad Nordig yng Ngogledd-orllewin Ewrop, yn wlad gyfoethog, ffyniannus a datblygedig gydag economi aeddfed a soffistigedig. 

Mae dull Sweden o drafod busnes rhyngwladol yn fodern, yn agored ac yn gyfeillgar. Mae busnesau'n croesawu partneriaethau rhyngwladol, ac mae gweithlu medrus, addysgedig. Mae hyn yn gwneud Sweden yn wlad hawdd i weithredu ynddi. Mae'r gyfradd dreth gorfforaethol yn isel yn ôl safonau rhyngwladol.

Pam Denmarc? 
Mae gan Ddenmarc economi gyfoethog, addysgedig ac agored, sy'n barod i dderbyn cynhyrchion a buddsoddiadau'r DU. Mae'r Daniaid yn brynwyr soffistigedig gydag enw da am dalu cyflenwyr ar amser.

Mae'n rhwydd cyrraedd gwledydd Sgandinafaidd a Baltig yn ogystal ag economïau’r Almaen a Gwlad Pwyl sy’n mynd o nerth i nerth. Mae'n borth i farchnadoedd gogledd Ewrop trwy ei rhwydwaith cryf o deithiau awyr, rheilffyrdd a thraffyrdd.

Mae’r drefn o wneud busnes yn debyg iawn i'r Deyrnas Unedig. Mae Denmarc yn cynnig fframwaith gwleidyddol ac economaidd cefnogol ar gyfer datblygu busnes, yn ogystal â buddsoddiadau lleol a thramor.

Pam Mynd ar Ymweliad? 
Bydd yr ymweliad yn rhoi’r cyfle i chi i arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y farchnad hon.
Trwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa ar y canlynol:

  • Ffordd gost effeithiol o ymweld â'r farchnad. 
  • Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad
  • Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan
  • Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
  • Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
  • Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata ar gyfer yr ymweliad

Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau fel y gallant gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio. Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni. Y gost yw £1,200. Mae hyn yn cynnwys:

  • Hedfan allan ac yn ôl
  • Trosglwyddiadau o fewn y farchnad (os yn teithio gyda’r grŵp)
  • Llety am 5 noson gyda brecwast
  • Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad
  •  Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata

Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni. 

Manylion y Digwyddiad
Pryd – 15-20 Medi 2024
Sectorau - Aml-sector
Ble - Copenhagen, Denmarc, a Gothenburg, Sweden.

Amserlen 
15 Medi – Gadael am Gothenburg
16-17 Medi – Cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd yn Copenhagen.
18 Medi – Gadael am Copenhagen 
18 -20 Medi – Cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd yn Copenhagen.
20 Medi – Dychwelyd i Gymru.

Gwasanaeth Trefnu Cyfarfodydd
Os hoffech elwa i’r eithaf ar eich amser yn y digwyddiad, gallwn gynnig cymorth i drefnu rhaglen o 3-4 o gyfarfodydd i chi gan un o'n hymgynghorwyr busnes. Gallwn drefnu hyn o £500.

Sylwch, os hoffech y gefnogaeth hon, yna rhaid i chi gyflwyno eich cais 10 wythnos cyn i ymweliad y farchnad allforio neu'r arddangosfa ymadael. 

Os cyflwynir eich cais ar ôl yr amser hwn 26 Gorffennaf 2024, yna ni allwn warantu bod digon o amser i ddarparu'r cymorth ychwanegol hwn yn effeithiol. 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw 26 Gorffennaf 2024 (Teithio a chyfarfodydd wedi'u trefnu o flaen llaw)

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno cais yw 30 Awst 2024 (Teithio yn unig)

*Dim ond i’r rheini sy’n gymwys.