Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i ymuno yn ei hymweliad marchnad allforio â San Diego a Los Angeles, UDA. Mae’r ymweliad yn digwydd yr un pryd â Chynhadledd Ryngwladol Bio 2024 (a gynhelir yn San Diego rhwng 5 a 8 Mehefin).
Pam De Califfornia?
Yr Unol Daleithiau yw’r economi fwyaf, mwyaf cystadleuol a mwyaf datblygedig o ran technoleg yn y byd. Dyma’r farchnad allforio fwyaf ar gyfer cynnyrch a gwasanaethau o Gymru o bell ffordd. Gyda lefel isel o rwystrau rheoleiddio, dim rhwystrau ieithyddol a mynediad at y gadwyn gyflenwi fyd-eang, mae’n cynnig potensial anferth i allforwyr o Gymru.
San Diego
Gyda thywydd cynnes drwy’r flwyddyn, 50 milltir o arfordir heulog ac atyniadau byd-enwog, mae San Diego yn gyrchfan boblogaidd iawn i dwristiaid. Ond mae’r metropolis mawr hwn sydd â naws hamddenol hefyd yn gartref i fusnesau sy’n arloesi o ran gwyddorau bywyd, genomeg, biotechnoleg, telathrebu, technoleg dinasoedd clyfar, meddalwedd, electroneg a diwydiannau arloesol eraill, yn benodol Amddiffyn a Diogelwch.
Los Angeles
Mae Talaith Los Angeles yn un o’r economïau mwyaf deinamig yn y byd, gyda diwydiant technoleg o ansawdd uchel sy’n tyfu’n gyflym, economi greadigol sydd ymhlith y gorau yn y byd, cryfder arbennig o ran awyrofod a thrafnidiaeth, sylfaen weithgynhyrchu mwyaf yr Unol Daleithiau, y diwydiant masnach rhyngwladol mwyaf, a busnesau menter cyfalaf sy’n datblygu’n gyflym. Mae’r ddinas yn cynnig cyfleoedd anferthol i allforwyr o Gymru.
Pam mynd?
Bydd yr ymweliad hwn yn gyfle i chi gyflwyno eich cwmni, meithrin cysylltiadau defnyddiol a chynyddu eich allforion yn y sector hwn.
Trwy gymryd rhan yn yr ymweliad hwn byddwch yn elwa ar y canlynol:
- Dull cost effeithiol o ymweld â sioe fasnach fyd enwog.
- Rhwydweithio ac ymwneud â busnesau allweddol a phobl sy’n gwneud penderfyniadau o fewn y farchnad
- Rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth gyda chyfranogwyr eraill
- Cymorth â threfniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
- Cyfle i fynychu digwyddiadau rhwydweithio
- Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunyddiau marchnata
Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi* cwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad marchnad allforio hwn.
Mae'r gost yn £1,800.00*. Mae hyn yn cynnwys:
- Hedfan allan ac yn ôl
- Trosglwyddiadau o fewn y farchnad
- Llety am 6 noson gyda brecwast
- Mynediad i’r sioe fasnach
- Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni.
Manylion y Digwyddiad
Pryd? 3-10 Mehefin 2024
Sectorau? Pob sector
Ble? San Diego a Los Angeles
Trefn
1 Mehefin – Gadael am San Diego
3-5 Mehefin – Cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd yn San Diego
5 Mehefin – Gadael am Los Angeles
5-7 Mehefin – Cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd yn Los Angeles
7 Mehefin – Dychwelyd i Gymru, glanio yn Heathrow, Llundain ar 8 Mehefin
Gwasanaeth Trefnu Cyfarfodydd
Os hoffech elwa i’r eithaf ar eich amser yn y digwyddiad gallwn gynnig cymorth drwy raglen o 3-4 o gyfarfodydd ar eich cyfer a fydd wedi’u trefnu gan un o’n hymgynghorwyr busnes. Gallwn drefnu hyn am £500 neu fwy.
Nodwch: Os hoffech fanteisio ar y cymorth hwn, mae’n rhaid i chi gyflwyno eich cais 10 wythnos cyn yr ymweliad neu’r arddangosfa. Os caiff eich cais ei gyflwyno ar ôl 3 Mai 2024 ni allwn warantu y bydd digon o amser i gynnig y cymorth ychwanegol hwn i chi.