Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei hymweliad marchnad allforio â Money 20/202, Amsterdam.
Mae Llywodraeth Cymru’n cynnig cymorth i fusnesau bach a mawr i fanteisio ar y cyfle cyffrous hwn fydd yn cynyddu’u hallforion trwy feithrin cysylltiadau yn y sector technoleg ariannol o bob rhan o’r byd.
Pam Money 20/20?
Mae Money 20/20 yn dod â phawb sy’n cyfri yn y byd technoleg ariannol ynghyd, o arweinwyr rhyngwladol i fentrwyr newydd, ac o’r cwmnïau mwyaf i fusnesau bach sy’n tyfu.
Yn 2023, daeth dros 8500 o bobl i Money 20/20 o dros 100 o wledydd i glywed dros 350 o siaradwyr. Bydd y gynhadledd yn llawn o syniadau blaengar, areithiau i’ch ysbrydoli, y Goreuon Erioed (GOATs) ac Egni heb ei debyg.
Pam dod gyda ni?
Rydyn ni’n ymuno â gwledydd eraill a rhanbarthau’r DU i greu Pafiliwn y DU, i ddangos pam mae Prydain yn arweinydd byd yn y maes. Ni fydd gan gwmnïau eu lle eu hunain yn y pafiliwn ond fel aelod o Daith Cymru, cewch eich rhestru yng nghatalog sioe Money 20/20 a defnydd llawn o’r stafell gyfarfod, i’ch helpu i gwrdd â chleientiaid hen a newydd.
Dyma fanteision cymryd rhan:
- Ffordd rad o ymweld â'r gynhadledd.
- Rhwydweithio a siarad â busnesau a phenderfynwyr pwysig y farchnad
- Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan
- Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiantaeth deithio benodedig
- Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
- Codi’ch proffil trwy gael eich rhestru ar gatalog Money 20/20 a’ch cynnwys yn nhaflen hyrwyddo Pafiliwn y DU
Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth* i gwmnïau sydd am fynd i Money 20/20.
£1,300* yw’r gost. Mae hyn yn cynnwys:
- Hedfan yno ac yn ôl
- Trosglwyddiadau o fewn y farchnad
- Llety am 3 noson gyda brecwast
- Cymhorthdal i docyn mynediad i Arian 20/20
- Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchna
Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni.
Manylion Y Digwyddiad
Pryd: 4-6 Mehefin 2024
Sector: Technegol ariannol a thechnoleg
Ble: Amsterdam
Trefn
3 Mehefin – Gadael am Amsterdam
4-6 Mehefin – Money 20/20
6 Mehefin – Nôl i Gymru