Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei hymweliad marchnad allforio â Chicago, UDA, a Toronto, Canada. Mae’r ymweliad yn digwydd yr un pryd â digwyddiad MRO Americas 2024 (a gynhelir yn Chicago rhwng 9 a 11 Ebrill 2024).


PAM CHICAGO?
Yr Unol Daleithiau yw’r economi fwyaf, mwyaf cystadleuol a mwyaf datblygedig o ran technoleg yn y byd.
Dyma’r farchnad allforio fwyaf ar gyfer cynnyrch a gwasanaethau o Gymru o bell ffordd. Gyda lefel isel o rwystrau rheoleiddio, dim rhwystrau ieithyddol a mynediad at y gadwyn gyflenwi fyd-eang, mae’n cynnig potensial anferth i allforwyr o Gymru.
Gyda phoblogaeth o bron i 9 miliwn o bobl, a GDP o fwy na $770 biliwn, mae sylfaen gweithgynhyrchu a diwydiannol cryf ac eang gan ardal fetropolitanaidd ehangach Chicago, gyda chryfderau penodol ym maes datrysiadau modurol, awyrofodol a pheirianneg. Fel canolfan ranbarthol ar gyfer canolbarth gorllewin America a thrydedd ddinas fwyaf yr Unol Daleithiau, mae Chicago hefyd yn cynnig cyfleoedd i fusnesau ym meysydd cyllid, technoleg, gwasanaethau proffesiynol, addysg, gwyddorau bywyd a chynnyrch defnyddwyr, bwyd a diod o Gymru

PAM TORONTO?
Canada yw ail wlad fwyaf y byd, ac mae’n unfed economi ar ddeg fwyaf y byd gyda phoblogaeth o 37 miliwn o bobl. Mae hi’n wlad sefydlog ag iddi record gref o dwf economaidd. Mae cysylltiadau masnach cryf gan y DU â Chanada, ac yn y flwyddyn hyd at fis Mawrth 2019 roedd cyfanswm allforion y DU i Ganada yn werth £10.7 biliwn (ONS, 2019).
Mae marchnad ddatblygedig a chystadleuol iawn gan Ganada. Mae ei sylfaen defnyddwyr a busnes cryf yn sensitif. Yn aml mae cynnig rhywbeth newydd neu wahanol yn arwain at lwyddiant.
Tra bo Toronto yn ganolfan wasanaethau ariannol a phroffesiynol enwog, yn ail y tu ôl i Efrog Newydd yn unig, fel un o’r dinasoedd sydd yn tyfu gyflymaf yng Ngogledd America, a chanolfan fasnachol Canada, mae’n gystadleuol ym mhob sector busnes mawr arall o dechnoleg a gwyddorau bywyd i ynni gwyrdd; o ffasiwn a dylunio i fwyd a diod; o gynhyrchu ar gyfer ffilm a theledu i gerddoriaeth a’r cyfryngau digidol. Mae amrywiaeth ddiwydiannol gyfoethog Toronto yn gyrru twf ac arloesedd, ac mae sectorau hybrid sy’n arloesi gan gynnwys technoleg feddygol, technoleg wyrdd a thechnoleg bwyd yn cynnig cyfleoedd sylweddol i allforwyr o Gymru.

PAM MYND?
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y sector hon.
Trwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa o’r canlynol:

  • Ffordd gost effeithiol o ymweld â sioe masnach byd enwog. 
  • Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad
  • Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan
  • Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
  • Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
  • Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata

COST
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio. 
Mae’r gost yn £1,600.00. Mae hyn yn cynnwys:

  • Hedfan allan ac yn ôl
  • Trosglwyddiadau o fewn y farchnad
  • Llety am 6 noson gyda brecwast
  • Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad
  • Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata

Mae’r cynnig ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni yn unig. 


MANYLION Y DIGWYDDIAD
Pryd – 7 – 13 Ebrill 2024 
Sectorau – Pob sector
Ble – Chicago a Toronto


TREFN
7 Ebrill – Gadael am Chicago
8-9 Ebrill – Cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd yn Chicago 
10 Ebrill – Gadael am Toronto
10-12 Ebrill - Cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd yn Toronto
12 Ebrill – Nôl i Gymru 

Gwasanaeth Trefnu Cyfarfodydd
Os hoffech elwa i’r eithaf ar eich amser yn y digwyddiad gallwn gynnig cymorth drwy raglen o 3-4 o gyfarfodydd ar eich cyfer a fydd wedi’u trefnu gan un o’n hymgynghorwyr busnes. Gallwn drefnu hyn am £500 neu fwy.


Nodwch: Os hoffech fanteisio ar y cymorth hwn, mae’n rhaid i chi gyflwyno eich cais 10 wythnos cyn yr ymweliad neu’r arddangosfa. Os caiff eich cais ei gyflwyno ar ôl 2 Chwefror 2024  ni allwn warantu y bydd digon o amser i gynnig y cymorth ychwanegol hwn i chi.


Y dyddiad cau ar gyfer cais yw 2 Chwefror 2024 (Teithio a chyfarfodydd wedi'u trefnu o flaen llaw)
Y dyddiad cau ar gyfer cais yw 8 Mawrth 2024. (Teithio yn unig)


*Dim ond i’r rheini sy’n gymwys.