Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei hymweliad marchnad allforio â Boston, UDA. Mae’r ymweliad yn digwydd yr un pryd â’r BIO International Convention.
Pam yr Unol Daleithiau?
Yr Unol Daleithiau yw’r economi fwyaf, mwyaf cystadleuol a mwyaf technolegol flaengar yn y byd. Dyma’r farchnad allforio fwyaf o bell ffordd ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau o Gymru. Gyda’i rhwystrau rheoleiddiol llac, diffyg rhwystrau ieithyddol a chysylltiadau â chadwyni cyflenwi byd-eang, mae’n cynnig potensial anferthol i allforwyr o Gymru.
Ystyrir Boston fel un o’r llefydd gorau i wneud busnes ynddo yn yr Unol Daleithiau. Ymhlith ei phrif ddiwydiannau y mae cyllid, ymchwil a datblygu mewn uwchdechnoleg, twristiaeth, meddyginiaeth, addysg, pysgota masnachol, prosesu bwyd, argraffu a chyhoeddi, a llywodraeth.
Pam Mynd?
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y sector hon.
Trwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa o’r canlynol:
• Ffordd gost effeithiol o ymweld â sioe masnach byd enwog.
• Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad
• Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan
• Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
• Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
• Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
Cost
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio.
Mae’r gost yn £2,000*. Mae hyn yn cynnwys:
• Hedfan allan ac yn ôl
• Trosglwyddiadau o fewn y farchnad
• Llety am 6 noson gyda brecwast
• Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad
• Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
Mae’r cynnig ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni yn unig.
Manylion Digwyddiad
Pryd - 15 – 17 Mehefin 2025
Sectorau – Nifer o sectorau
Ble – Boston
Trefn
15 Mehefin – Gadael am Boston
16 – 19 Mehefin – Cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd
20 Mehefin – Nôl i Gymru
Gwasanaeth Trefnu Cyfardodydd
Os hoffech elwa i’r eithaf ar eich amser yn y digwyddiad gallwn gynnig cymorth drwy raglen o 3-4 o gyfarfodydd ar eich cyfer a fydd wedi’u trefnu gan un o’n hymgynghorwyr busnes. Gallwn drefnu hyn am £500 neu fwy.
Nodwch: Os hoffech fanteisio ar y cymorth hwn, mae’n rhaid i chi gyflwyno eich cais 10 wythnos cyn yr ymweliad neu’r arddangosfa.
Os caiff eich cais ei gyflwyno ar ôl 6 Ebril 2025 ni allwn warantu y bydd digon o amser i gynnig y cymorth ychwanegol hwn i chi.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau:
4 Ebrill 2025 (Teithio a chyfarfodydd a drefnwyd ymlaen llaw)
18 Ebrill 2025 (Teithio yn unig)
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau o fewn 24 awr - os nad ydych yn derbyn yr e-bost yma neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y daith fasnach cysylltwch â'n blwch Masnach Ryngwladol - internationaltrade@llyw.cymru
*Dim ond i’r rheini sy’n gymwys.