Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei hymweliad marchnad allforio ag Uwchgynhadledd Hydrogen y Byd yn Rotterdam, yr Iseldiroedd.

Pam Uwchgynhadledd Hydrogen y Byd? 
Uwchgynhadledd Hydrogen y Byd yw'r Digwyddiad Hydrogen penodedig mwyaf yn y byd.

Ymunwch â 15,000 o arbenigwyr byd-eang yn y diwydiant i gyfnewid syniadau allweddol ac adeiladu cynghreiriau newydd a fydd yn sbarduno'r don nesaf o ddatblygiadau prosiectau hydrogen i'r 2030au.

Mae Uwchgynhadledd Hydrogen y Byd yn denu dros 15,000 o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant, 2,000 o gynrychiolwyr a thros 350 o siaradwyr.

Uwchgynhadledd Hydrogen y Byd 2025 – Y Platfform Byd-eang lle mae Cytundebau yn Cael eu Gwneud

Pam dod gyda ni?
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y sector hon.

Trwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa ar y canlynol:

•    Ffordd rad o ymweld â'r gynhadledd. 
•    Rhwydweithio a siarad â busnesau a phenderfynwyr pwysig y farchnad
•    Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan
•    Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiantaeth deithio benodedig

Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi* cwmnïau i gymryd rhan yn Uwchgynhadledd Hydrogen y Byd.

Y gost yw £800 sy’n cynnwys:
•    Hedfan allan ac yn ôl a throsglwyddiadau yn y farchnad (os yn teithio’r ddwyffordd gyda’r grŵp craidd)
•    Llety 3 noson gan gynnwys brecwast (Dydd Llun – Dydd lau)
•    Pas ymwelydd 3 diwrnod

Mae’r cynnig hwn ar gael i un gynrychiolydd o bob cwmni.

Manylion y Digwyddiad 
Pryd - 20 – 22 Mai 2025
Sectorau – Hydrogen
Ble – Rotterdam, yr Iseldiroedd

Trefn
19 Mai – Gadael am Rotterdam
20 – 22 Mai – Uwchgynhadledd Hydrogen y Byd / cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd 
22 Mai – Dychwelyd i Gymru.

Gwasanaeth Trefnu Cyfarfodydd
Os hoffech wneud y gorau o'ch amser yn y digwyddiad, gallwn gynnig help un o’n hymgynghorwyr busnes i drefnu rhaglen o 3-4 o gyfarfodydd i chi. Gallwn drefnu hyn am £500 neu fwy.

Sylwch, os hoffech y gwasanaeth hwn, yna rhaid i chi gyflwyno eich cais 10 wythnos cyn ymweliad y farchnad allforio neu'r arddangosfa ymadael.

Os cyflwynir eich cais ar ôl yr amser hwn 7 Mawrth 2025, yna ni allwn warantu bod digon o amser i ddarparu'r cymorth ychwanegol hwn yn effeithiol.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau:
28 Ebrill 2025 

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau o fewn 24 awr - os nad ydych yn derbyn yr e-bost yma neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y daith fasnach cysylltwch â'n blwch Masnach Ryngwladol - internationaltrade@llyw.cymru

*Os bydd lle ar gael.