Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i arddangos gyda ni neu ymweld â World Health Expo Dubai (WHX Dubai) 2025, sef Arab Health gynt.

Pam World Health Expo Dubai (WHX Dubai) 2025?
WHX yw’r sioe fasnach fwyaf yn y Dwyrain Canol i’r sector meddygol, yn denu dros 3,800 o arddangoswyr o 180 o wledydd, yn amrywio o sefydliadau sydd ar flaen y gad yn fyd-eang i gwmnïau bach, a dros 60,000 o ymwelwyr. Mae’n cynnig cyfleoedd allforio da i fusnesau o Gymru yn y sector gwyddorau bywyd.

Pam Mynd ar yr Ymweliad? 
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi i arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y sector hwn.

Drwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa ar y canlynol:

•    Ffordd gost effeithiol o ymweld â'r farchnad. 
•    Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad
•    Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan
•    Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
•    Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
•    Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata

Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio. Ar gyfer y digwyddiad hwn, gallwch gymryd rhan un ai fel arddangoswr neu fel ymwelydd:

Arddangoswr – Cost arddangos yw £5,000* am stondin, a theithio a llety, i ddau gynrychiolydd. Bydd hyn yn cynnwys:

•    Hedfan allan ac yn ôl
•    Trosglwyddiadau o fewn y farchnad (os byddwch yn teithio’r ddwy ffordd gyda’r Grŵp)
•    Llety am 6 noson (gyda brecwast)
•    Tocyn arddangos
•    Stondin arddangos a chofrestru ar gyfer yr arddangosfa a mynediad i’r porthol ar-lein.

Mae’r cynnig hwn ar gael i ddau gynrychiolydd o bob cwmni.

Ymwelydd - Mae'r gost yn £1,300.00*. Mae hyn yn cynnwys:

•    Hedfan allan ac yn ôl 
•    Trosglwyddiadau o fewn y farchnad (os byddwch yn teithio’r ddwy ffordd gyda’r Grŵp)
•    Llety am 6 noson (gyda brecwast)
•    Tocyn i WHX Dubai

Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni.

Manylion y Digwyddiad
Pryd: 7-13 Chwefror 2026
Sectorau: Gwyddorau Bywyd a Thechnoleg Feddygol 
Ble: Dubai

Trefn
7 Chwefror – Gadael am Dubai
9-12 Chwefror – WHX Dubai
13 Chwefror – Nôl i Gymru

Gwasanaeth Trefnu Cyfarfodydd 
Os hoffech elwa i’r eithaf ar eich amser yn y digwyddiad gallwn gynnig cymorth drwy raglen o 3-4 o gyfarfodydd ar eich cyfer a fydd wedi’u trefnu gan un o’n hymgynghorwyr busnes. Gallwn drefnu hyn am £500 neu fwy.

Nodwch: Os hoffech fanteisio ar y cymorth hwn, mae’n rhaid i chi gyflwyno eich cais 10 wythnos cyn yr ymweliad neu’r arddangosfa. Os caiff eich cais ei gyflwyno ar ôl 28 Tachwedd 2025 ni allwn warantu y bydd digon o amser i gynnig y cymorth ychwanegol hwn i chi.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau:
28 Tachwedd 2025 (Teithio a chyfarfodydd a drefnwyd ymlaen llaw)
9 Ionawr 2026 (Teithio yn unig)

*Mae ffi arddangoswr yn destun TAW

*Yn amodol ar fod yn gymwys