Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei hymweliad marchnad allforio â WindEurope yn Madrid, Sbaen.
Pam WindEurope?
Mae Digwyddiad Blynyddol WindEurope 2026 yn achlysur allweddol i'r sector ynni gwynt.
Gyda thros 15,000 o gyfranogwyr, mwy na 500 o arddangoswyr, cynhadledd o'r radd flaenaf uchaf, a chyfleoedd rhwydweithio rhagorol, mae'r digwyddiad yn dangos sut mae gwynt yn ysgogi trawsnewidiad Ewrop i ynni fforddiadwy a chynaliadwy.
Digwyddiad Blynyddol WindEurope 2026 ym Madrid
Pam Mynd ar yr Ymweliad?
Drwy ymuno â Phafiliwn Cymru yn WindEurope, byddwch yn elwa ar y canlynol:
• Ffordd gost effeithiol o arddangos neu ymweld â'r farchnad.
• Bod yn rhan o Bafiliwn Cymru a rhwydwaith ehangach Pafiliwn y DU
• Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad
• Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan
• Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
• Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
• Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
Pecynnau a Chostau
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi* cwmnïau i gymryd rhan yn yr arddangosfa hon.
Pecyn Arddangoswyr – £3,200 (eich cyfraniad ar gyfer dau gynrychiolydd fesul cwmni)
Yn cynnwys:
• Hedfan allan ac yn ôl
• Trosglwyddiadau yn y farchnad (os yn teithio’r ddwyffordd gyda’r grŵp craidd)
• Llety am 4 noson gan gynnwys brecwast (Dydd Mawrth – Dydd Iau)
• Stondin cyd-arddangos ar Bafiliwn Cymru
• Tocyn arddangoswr 3 diwrnod
• Cofnod ar-lein/catalog
• Mynychu digwyddiadau yn y farchnad
• Cael eich cynnwys yn llyfryn marchnata a hyrwyddo Llywodraeth Cymru
• Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunyddiau marchnata eraill
Pecyn ymwelydd – £1,300 (eich cyfraniad ar gyfer un cynrychiolydd fesul cwmni)
Yn cynnwys:
• Hedfan allan ac yn ôl
• Trosglwyddiadau yn y farchnad (os yn teithio’r ddwyffordd gyda’r grŵp craidd)
• Llety am 4 noson gan gynnwys brecwast (Dydd Mawrth – Dydd Iau)
• Tocyn mynediad ymwelydd
• Mynychu digwyddiadau yn y farchnad
• Cael eich cynnwys yn llyfryn marchnata a hyrwyddo Llywodraeth Cymru
• Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunyddiau marchnata eraill
Manylion y Digwyddiad
Pryd – 20-24 Ebrill 2026
Sector – WindEurope
Ble – Madrid, Spain
Trefn
20 Ebrill – Gadael am Madrid
21-23 Ebrill – WindEurope / cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd
24 Ebrill – Dychwelyd i Gymru.
Gwasanaeth Trefnu Cyfarfodydd
Os hoffech wneud y gorau o'ch amser yn y digwyddiad, gallwn gynnig help un o’n hymgynghorwyr busnes i drefnu rhaglen o 3-4 o gyfarfodydd i chi. Gallwn drefnu hyn am £500 neu fwy.
Os hoffech y gwasanaeth hwn, yna rhaid i chi gyflwyno eich cais o leiaf 10 wythnos ymadael.
Os cyflwynir eich cais ar ôl 3 Chwefror 2026, yna ni allwn warantu bod digon o amser i ddarparu'r cymorth ychwanegol hwn yn effeithiol.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau:
3 Chwefror 2026 Lle arddangoswr neu ymwelydd (yn cynnwys teithio a llety, gyda chyfarfodydd dewisol wedi'u trefnu ymlaen llaw)
23 Mawrth 2026 (Teithio a llety yn unig)
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau o fewn 24 awr - os nad ydych yn derbyn hyn, cysylltwch â'r blwch post masnach - internationaltrade@llyw.cymru
*Os bydd lle ar gael.