Hoffai Llywodraeth Cymru eich gwahodd i gymryd rhan yn ei stondin arddangos yn SpaceTech Europe, Bremen.

Ynglŷn â Spacetech Europe
Cynhelir SpaceTech Europe ar 17-19 Tachwedd 2026 yn Bremen, yr Almaen.
SpaceTech Europe yw'r digwyddiad Gofod B2B mwyaf yn Ewrop, gyda dros 800 o arddangoswyr sy'n rhychwantu busnesau newydd i arweinwyr y diwydiant, ac yn denu dros 10,000 o ymwelwyr.

Yn SpaceTech Europe, gallwch ddisgwyl gweld amrywiaeth o dechnolegau gofod a ddefnyddir mewn prosesau gweithgynhyrchu, gwasanaethau profi, cydrannau, a pheirianneg systemau ar gyfer llongau gofod, lanswyr a rhaglenni lloeren.

Pam ddylech chi fynuchu?
Gall arddangos gyda Llywodraeth Cymru fod yn ffordd gost-effeithiol iawn o arddangos eich cwmni, gwneud cysylltiadau gwerthfawr a nodi busnesau posibl yn y sectorau hyn.

Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi* cwmnïau o Gymru i fynychu'r sioe gydag opsiynau hyblyg am brisiau hyblyg.

  • Pecyn Arddangoswr - £3,000
  • Gofod cyd-arddangos wedi'i frandio 
  • Eich cofrestriad ar-lein eich hun i amlygu eich presenoldeb yn y digwyddiad  
  •  Man cyfarfod i'w ddefnyddio ar stondin    
  • Dau docyn mynediad
  • Eich cynnwys yng nghyfleoedd cyfryngau, marchnata a chysylltiadau cyhoeddus posibl Cymru.
  • Eich cynnwys mewn rhwydweithio cysylltiedig â busnesau allweddol a gwneuthurwyr penderfyniadau yn y digwyddiad, gan gynnwys eich cyd-bartneriaid ar y stondin
  • Bydd logisteg y stondin o dan ofal gweithwyr proffesiynol sydd â phrofiad o ddigwyddiadau a marchnata    
  • Wedi'i gynnwys yn eich pecyn arddangoswr mae cymhorthdal 50% tuag at:

- Taith awyren dwy ffordd             

- llety am 4 noson, gan gynnwys brecwast

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau:

11 Medi 2026

Ar ôl i chi gyflwyno'ch cais, byddwch yn derbyn cadarnhad awtomataidd ar ffurf e-bost o fewn 24 awr.  Os nad ydych yn derbyn hwn neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y genhadaeth fasnach, cysylltwch â'n blwch Masnach Ryngwladol yn internationaltrade@llyw.cymru.

*Yn amodol ar fod yn gymwys

*Mae'r prisiau yn ddarostyngedig i TAW.