Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i arddangos gyda ni neu fynychu fel ymwelydd yn arddangosfa MRO Europe.  

Pam MRO Europe? 
MRO Europe yw'r prif ddigwyddiad yn y rhanbarth ar gyfer yr ôl-farchnad Hedfan Masnachol ac mae’n cyfuno cynhadledd lefel uwch ac arddangosfa ryngwladol.

Mae dros 450+ o ddarparwyr datrysiadau yn arddangos yn y sioe, gan ddenu dros 9000 o fynychwyr sy'n cynrychioli cwmnïau hedfan, leswyr, sefydliadau cynnal a chadw, atgyweirio ac adfer (MROs), gweithgynhyrchwyr cyfarpar gwreiddiol (OEMs), cyflenwyr ac arbenigwyr o’r diwydiant.

Pam mynd? 
Bydd yr ymweliad hwn yn creu cyfle i chi gyflwyno eich cwmni, meithrin cysylltiadau defnyddiol a chynyddu eich allforion yn y sector hwn. 
Trwy gymryd rhan yn yr ymweliad hwn byddwch yn elwa ar y canlynol:

•    Dull cost effeithiol o ymweld â’r farchnad 
•    Rhwydweithio ac ymwneud â busnesau allweddol a phobl sy’n gwneud penderfyniadau yn y farchnad 
•    Rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth gyda chyfranogwyr eraill 
•    Cymorth â threfniadau teithio drwy asiant teithio penodedig 
•    Cyfle i fynychu digwyddiadau rhwydweithio 
•    Cewch eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata

Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yn MRO Europe.  Ar gyfer y digwyddiad hwn, gallwch gymryd rhan un ai fel arddangoswr neu fel ymwelydd:  

Arddangoswr
Mae’r gost yn £2,700. Mae hyn yn cynnwys:
•    Lle ar stondin Cymru
•    Hedfan allan ac yn ôl
•    Llety am 3 noson gyda brecwast
•    Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad, yn cynnwys digwyddiadau rhwydweithio i fusnesau
•    Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata


Mae’r cynnig hwn ar gael i ddau gynrychiolydd o bob cwmni.

Ymwelydd
Mae'r gost yn £750. Mae hyn yn cynnwys:

•    Hedfan allan ac yn ôl
•    Llety am 3 noson gyda brecwast
•    Mynediad i’r sioe fasnach
•    Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata 
•    Mynediad i le cyfarfod ar stondin Cymru
•    Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad, yn cynnwys digwyddiadau rhwydweithio i fusnesau

Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni.

Manylion y Digwyddiad
Pryd – 28 – 29  Hydref 2026
Sectorau – Hedfan
Ble – Amsterdam, yr Iseldiroedd

Yr Amserlen 
27 Hydref – Gadael am Amsterdam
28-29 Hydref – MRO Europe / Cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen o gyfarfodydd wedi’u trefnu ymlaen llaw 
30 Hydref – Dychwelyd i Gymru

Gwasanaeth Trefnu Cyfarfodydd 
Os hoffech wneud y gorau o'ch amser yn y digwyddiad, gallwn gynnig cymorth i drefnu rhaglen o 3-4 o gyfarfodydd i chi gan un o'n hymgynghorwyr busnes. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael o £500.

Sylwch, os hoffech y gefnogaeth hon, yna rhaid i chi gyflwyno eich cais 10 wythnos cyn i ymweliad y farchnad allforio neu'r arddangosfa ymadael.

Os cyflwynir eich cais ar ôl 12 Awst 2026 yna ni allwn warantu bod digon o amser i ddarparu'r cymorth ychwanegol hwn yn effeithiol.

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 12 Awst 2026 (Teithio a chyfarfodydd wedi’u trefnu ymlaen llaw)
Codir TAW ar brisiau.

*Yn amodol ar fod yn gymwys.