Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i arddangos gyda ni yn Arddangosfa MRO Americas.
Pam MRO Americas?
MRO Americas yw’r man lle mae cwmnïau hedfan, MROs, cyflenwyr, OEMs, rheoleiddwyr ac arbenigwyr yn y diwydiant yn dod ynghyd i ddiffinio’r diwydiant cynnal a chadw awyrennau. Dyma’r prif ddigwyddiad yng Ngogledd America ar gyfer y diwydiant cynnal a chadw, atgyweirio ac archwilio awyrennau masnachol. Mae’r sioe fasnach hon yn ddigwyddiad rhyngwladol ardderchog lle gallwch gyfnewid syniadau ac arferion da, a meithrin cysylltiadau busnes go iawn.
Pam mynd?
Bydd yr ymweliad hwn yn gyfle ichi gyflwyno’ch cwmni, i feithrin cysylltiadau defnyddiol a chynyddu eich allforion yn y sector hwn.
Drwy gymryd rhan yn yr ymweliad hwn byddwch yn elwa ar y canlynol:
- Ffordd gosteffeithiol o ymweld â’r farchnad
- Rhwydweithio ac ymwneud â busnesau allweddol ac â phobl sy’n gwneud penderfyniadau yn y farchnad
- Rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth gydag eraill a fydd yn rhan o’r digwyddiad
- Cymorth gyda threfniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
- Cyfle i fynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
- Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunyddiau marchnata
Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau gymryd rhan yn MRO Americas. Ar gyfer y digwyddiad hwn, gallwch gymryd rhan naill ai fel arddangoswr neu fel ymwelydd:
Arddangoswr
Mae’r gost yn £4,200.00, sy’n cynnwys:
• Lle ar stondin Cymru
• Hedfan allan ac yn ôl
• Teithio o le i le yn y farchnad
• Llety am 4 noson gyda brecwast
• Mynd i ddigwyddiadau yn y farchnad, gan gynnwys digwyddiadau rhwydweithio ar gyfer busnesau
• Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunyddiau marchnata
Mae’r cynnig hwn ar gael i ddau gynrychiolydd o bob cwmni.
Ymwelydd
Mae'r gost yn £1,600.00. Mae’n cynnwys:
- Hedfan allan ac yn ôl
- Teithio o le i le yn y farchnad
- Llety am 4 noson gyda brecwast
- Mynediad i’r sioe fasnach
- Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunyddiau marchnata
- Cael defnyddio man cyfarfod ar stondin Cymru
- Mynd i ddigwyddiadau yn y farchnad, gan gynnwys digwyddiadau rhwydweithio ar gyfer busnesau
Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni.
Manylion y Digwyddiad
Pryd: 9 – 11 April 2024
Ble: Chicago
Yr Amserlen
- 7 Ebrill 2024 – Gadael am Chicago
- 9-11 Ebrill 2024 – MRO Americas 2024
- 11 April 2024 – Yn ôl i Gymru
Gwasanaeth Trefnu Cyfarfodydd
Os hoffech elwa i’r eithaf ar eich amser yn y digwyddiad, gallwn gynnig cymorth ar gyfer rhaglen o 3-4 cyfarfod ar eich cyfer a fydd yn cael eu trefnu gan un o’n hymgynghorwyr busnes. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael am £500+.
Sylwer: os hoffech fanteisio ar y cymorth hwn, mae’n rhaid ichi gyflwyno’ch cais 10 wythnos cyn yr ymweliad â’r farchnad neu’r arddangosfa. Os caiff eich cais ei gyflwyno ar ôl 2 Chwefror 2023, ni allwn warantu y bydd digon o amser i gynnig y cymorth ychwanegol hwn ichi.