Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i arddangos gyda ni ar stondin Cymru neu i ymuno â ni fel ymwelydd yn MEDICA 2026, Düsseldorf, yr Almaen.  

Pam MEDICA?
MEDICA  yw un o ddigwyddiadau mwya’r byd ar gyfer y sector meddygol, gan ddenu rhagor na 4,800 o arddangoswyr o 165 o wledydd, gan amrywio o fusnesau o fri rhyngwladol i gwmnïau bach, a thros 78,000 o ymwelwyr.  Bydd cyfleoedd allforio da i fusnesau’r sector yng Nghymru.

Pam Mynd ar yr Ymweliad? 
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi i arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y farchnad hon.

Drwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa o’r canlynol:

•    Ffordd gost effeithiol o ymweld â'r farchnad. 
•    Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad
•    Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan
•    Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
•    Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
•    Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata

Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio. Ar gyfer y digwyddiad hwn, gallwch gymryd rhan un ai fel arddangoswr neu fel ymwelydd:  

Arddangoswr - Mae'r gost arddangos un ai yn £4,200 am stondin mawr neu’n £3,000 am uned lai.

•    Hedfan allan ac yn ôl a throsglwyddiadau o fewn y farchnad
•    Llety am 4 noson gyda brecwast (Dydd Sul – Dydd Ian)
•    Tocyn 4 diwrnod i arddangosfa Medica
•    Stondin arddangos a chofrestru ar gyfer yr arddangosfa
•    Cofnod ar-lein/catalog 
•    Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad
•    Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata

Mae’r cynnig hwn ar gael i ddau gynrychiolydd o bob cwmni.

Ymwelydd - Mae'r gost yn £900. Mae hyn yn cynnwys:

•    Hedfan allan ac yn ôl a throsglwyddiadau (un ffordd) o fewn y farchnad
•    Llety am 4 noson gyda brecwast (Dydd Sul – Dydd Iau)
•    Tocyn 3 ymwelydd ddiwrnod i Medica
•    Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad
•    Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata

Cynigir y cyfle hwn i un cynrychiolydd yn unig o bob cwmni.

Manylion Y Digwyddiad 
Pryd – 15-19 November 2026
Sectorau – Gwyddorau bywyd a Medtech
Ble – Düsseldorf, Yr Almaen

Trefn
15 Tachwedd – Gadael am Düsseldorf
16-19 Tachwedd – MEDICA/Cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd 
19 Tachwedd – Dychwelyd i Gymru.

Gwasanaeth Trefnu Cyfarfodydd
Os hoffech wneud y gorau o'ch amser yn y digwyddiad, gallwn gynnig help un o’n hymgynghorwyr busnes i drefnu rhaglen o 3-4 o gyfarfodydd i chi. Gallwn drefnu hyn am £500 neu fwy.

Sylwch, os hoffech y gwasanaeth hwn, yna rhaid i chi gyflwyno eich cais 10 wythnos cyn i ymweliad y farchnad allforio neu'r arddangosfa ymadael.

Os cyflwynir eich cais ar ôl yr amser hwn 4 Medi 2026, yna ni allwn warantu bod digon o amser i ddarparu'r cymorth ychwanegol hwn yn effeithiol. 
 

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau:

4 Medi 2026 -  Arddangoswr a Chynulleidfa gyda Thwristiaeth a chyfarfodydd wedi’u trefnu ymlaen llaw
16 Hydref 2026 -  Teithio yn unig
 

Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau o fewn 24 awr - os nad ydych yn derbyn yr e-bost yma neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y daith fasnach cysylltwch â'n blwch Masnach Ryngwladol - internationaltrade@llyw.cymru 
 

*Os bydd lle ar gael.

*Mae prisiau yn cynnwys TAW.