Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yn ei hymweliad marchnad allforio â Japan Health, Osaka. Japan. Bydd y daith fasnach hon yn cyd-daro â’r Farchnad Allforio yn Osaka a Tokyo.

Pam Japan Health?
Mae Japan Health yn arddangosfa ryngwladol lle mae arbenigwyr gofal iechyd yn cyflwyno eu huwch-dechnoleg gofal iechyd a’u gwasanaethau meddygol i’r byd.Nod Japan yw ysgogi a chynyddu pa mor gystadleuol yw’r gymuned feddygol a’r diwydiant gofal iechyd yn Japan. 
Japan yw’r bedwaredd farchnad fwyaf yn y byd o ran  dyfeisiadau meddygol a hi yw’r ail wlad fwyaf yn y byd o ran y nifer o ysbytai sydd ganddi.

Mae 50% o ddyfeisiadau meddygol yn Japan yn cael eu mewnforio ac mae’r diwydiant Gofal Iechyd yn un o’r sectorau blaenoriaeth ar gyfer strategaeth twf economaidd Llywodraeth Japan.

Bydd Japan Health yn rhedeg ochr yn ochr â ‘World EXPO 2025 Osaka, Japan’, a’r thema yno yw ‘Dylunio Cymdeithas y Dyfodol ar gyfer ein Bywydau’.

Pam Mynd ar yr Ymweliad? 
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi i arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y farchnad hon.

Drwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa o’r canlynol:
•    Ffordd gost effeithiol o ymweld â'r farchnad. 
•    Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad
•    Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan
•    Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
•    Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
•    Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata ar gyfer yr ymweliad

Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â’r ymweliad marchnad allforio â Japan Health. Y gost yw £1.800, sy’n cynnwys: 
•    Hedfan allan ac yn ôl
•    Trosglwyddiadau o fewn y farchnad
•    Llety am 6 noson gyda brecwast
•    Tocyn mynediad i Japan Health 
•    Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad
•    Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata

Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni.

Manylion y Digwyddiad
Pryd: 21 – 28 Mehefin 2025
Sectorau: Pob sector
Ble: Osaka

Trefn
•    21 Mehefin – Gadael am Osaka  
•    23 - 25 Mehefin – Cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd yn Osaka.
•    25 - 27 Mehefin Japan Health 2025 yn Osaka 
•    28 Mehefin – Dychwelyd i Gymru

Gwasanaeth Trefnu Cyfarfodydd
Os hoffech wneud y gorau o'ch amser yn y digwyddiad, gall un o’n hymgynghorwyr busnes eich helpu trwy drefnu rhaglen o 3-4 o gyfarfodydd i chi. Gallwn drefnu hyn am £500 neu fwy.

Sylwch, os hoffech fanteisio ar y cymorth hwn, rhaid i chi gyflwyno’ch cais 10 wythnos cyn i’r ymweliad neu'r arddangosfa ymadael. Os bydd eich cais yn cyrraedd ar ôl 10 Ebrill 2025, yna ni allwn warantu y bydd digon o amser i ddarparu'r cymorth ychwanegol hwn yn effeithiol.


Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau o fewn 24 awr - os nad ydych yn derbyn yr e-bost yma neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y daith fasnach cysylltwch â'n blwch Masnach Ryngwladol - internationaltrade@llyw.cymru.


*Yn amodol ar fod yn gymwys.