Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i arddangos o dan frand Cymru Wales yn Gulfood, Dubai.

Pam Gulfood 2024?

Gulfood yw’r arddangosfa flynyddol fwyaf yn y byd ar gyfer y diwydiant bwyd a diod. Bydd y 28ain arddangosfa hon yn hanes Gulfood yn parhau i uno cymunedau bwyd a diod ledled y byd. Disgwylir mwy na 4000 o gwmnïau o dros 120 o wledydd a thros 150 o bobl ddylanwadol yn y diwydiant a fydd yn sbarduno tueddiadau newydd gan ddod â’r cwmnïau bwyd a diod at ei gilydd.

Pam Mynd?

Bydd yr ymweliad hwn yn rhoi cyfle ichi arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a datblygu eich allforion yn y Dwyrain Canol.

Drwy gymryd rhan, byddwch yn elwa ar:

  • Ffordd gosteffeithiol o ymweld â’r farchnad
  • Bod â phresenoldeb naill ai yn y Neuadd Ryngwladol neu’r Neuadd Cynnyrch Llaeth
  • Rhwydweithio ac ymgysylltu â busnesau allweddol a’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau yn y farchnad
  • Rhannu profiadau a gwybodaeth â chyfranogwyr eraill
  • Cyfle i fynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
  • Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata

Y Gost

Mae gan Bwyd a Diod Cymru stondinau yn y Neuadd Ryngwladol a’r Neuadd Cynnyrch Llaeth. Mae’r gost i arddangos wedi cael cymhorthdal gan Lywodraeth Cymru – gweler yr opsiynau pecyn isod, yn seiliedig ar stondin 4 metr sgwâr:

Pecyn A – Arddangos ar y Stondin Lawn: Cost – £4,999.00 (ynghyd â TAW) yn cynnwys:

  • Tocynnau hedfan dwyffordd a 6 noson o lety a brecwast i 2 berson
  • Lle penodol ym Mhafiliwn Cymru i arddangos eich cynnyrch
  • Paneli graffig sylfaenol a dodrefn stondin
  • Cael eich cynnwys yn nhaflen wybodaeth y sioe ac mewn deunyddiau marchnata
  • Tocynnau arddangoswyr i’r sioe
  • Cymorth ar y safle gan Lywodraeth Cymru a chontractwyr penodol
  • Sylwch fod arddangoswyr yn gyfrifol am anfon eu nwyddau eu hunain

Pecyn B – Ymweliad Allforio: Cost £1,150.00 (ynghyd â TAW) yn cynnwys:

  • Tocynnau hedfan dwyffordd a llety a brecwast i 1 person
  • Cael eich cynnwys yn nhaflen wybodaeth y sioe ac mewn deunyddiau marchnata
  • Tocyn arddangoswr ar gyfer y sioe

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ymweld yw 24 Tachwedd 2023.24 Tachwedd 2023

*Yn amodol ar fod yn gymwys