Mae Cymru Greadigol yn falch o gyhoeddi y byddwn yn arddangos rhai o'n stiwdios a'n datblygwyr mwyaf talentog yn y Gynhadledd Datblygwyr Gemau (GDC) yn 2025.
Rhesymau dros fynychu gynhadledd:
Mae'r Gynhadledd Datblygwyr Gemau yn denu 30,000 o ymwelwyr i'r Ganolfan Moscone yn San Francisco, ac felly dyma un o gynulliadau blynyddol mwyaf y byd o weithwyr gemau proffesiynol a'u cefnogwyr ffyddlon. Mae'n wythnos llawn ysbrydoliaeth, dysgu a rhwydweithio. Mae'r arddangosfa yn denu rhai o'r enwau mwyaf yn y diwydiant ac mae digon o bethau eraill yn digwydd hefyd, gan gynnwys digwyddiadau rhwydweithio, sioeau gwobrwyo, gwyliau, tiwtorialau, darlithoedd, a byrddau crwn dan arweiniad gweithwyr proffesiynol y diwydiant. Mae'r rhain yn ymdrin â phynciau sy'n gysylltiedig â gemau fel rhaglennu, dylunio, sain, cynhyrchu, busnes a rheolaeth, a'r celfyddydau gweledol.
Pam dylech chi fynychu gyda Cymru Greadigol:
Byddwn yn rhoi cyfle i chi arddangos eich cwmni yn y brif neuadd gynadledda ochr yn ochr ag Epic Games, Microsoft, Meta, ac Unity. Byddwch yn creu cysylltiadau gwerthfawr, yn adeiladu eich allforion yn y sector hwn, a byddwn yno i'ch cefnogi trwy:
• talu 50% o'r costau ar gyfer eich costau teithio, llety ac arddangos
• hwyluso'r broses o rwydweithio a siarad â busnesau a phenderfynwyr blaenllaw yn y farchnad.
• rhannu syniadau a gwybodaeth
• eich helpu gyda threfniadau teithio drwy asiant teithio penodedig.
• eich ychwanegwch at ein holl ddeunydd marchnata
• darparu mynediad at system baru busnesau GDC Connect i drefnu cyfarfodydd cyn teithio.
Y Gost:
Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, gall Cymru Greadigol gefnogi cwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad marchnad allforio hwn. Gallwn gefnogi uchafswm o ddau gynrychiolydd fesul cwmni ar gost o £2,300* y pen neu £4,000* i ddau. Bydd hyn yn cynnwys:
- Tocynnau awyren dwyffordd
- Trosglwyddiadau ar ôl cyrraedd y farchnad (os ydych chi'n teithio gyda'r grŵp)
- Llety am 5 noson (â brecwast);
- Pàs arddangos (gan gynnwys mynediad at system baru ar-lein GDC Connect)
- Stondin yn yr arddangosfa, a chofrestriad
Gall unigolion a hoffai fynychu ond nad ydynt am arddangos ymuno â'r daith fasnach am £1,800.
Manylion y Digwyddiad
Pryd: 17 - 21 Mawrth 2025
Sectorau: Datblygu Gemau
Ble: San Francisco, UDA
Amserlen:
16 Mawrth - Gadael Heathrow, Llundain
17-21 Mawrth – Cynhadledd Datblygwyr Gemau (GDC) / Cyfle i gwmnïau gael eu cyfarfodydd eu hunain / rhaglen o gyfarfodydd wedi'u trefnu ymlaen llaw
21 Mawrth – Dychwelyd i Gymru, glanio yn Heathrow, Llundain 22 Mawrth
Gwasanaeth Trefnu Cyfarfodydd:
Os hoffech chi wneud y mwyaf o'ch amser yn y digwyddiad, gallwn gynnig cefnogaeth drwy ein Rhaglen Cyfleoedd Masnach Ryngwladol (ITO). Gall arbenigwyr yn yr ardal drefnu hyd at 4 chyfarfod gyda buddsoddwyr neu gyhoeddwyr posibl. Mae'r gwasanaeth hwn ar gael o £500.
Sylwch, os hoffech gael y cymorth hwn, yna rhaid i chi gyflwyno'ch cais 10 wythnos cyn i'r ymweliad marchnad allforio/arddangosfa adael.
Os caiff eich cais ei gyflwyno ar ôl 20 Rhagfyr 2024, ni allwn warantu y bydd digon o amser i ddarparu'r cymorth hwn yn effeithiol.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau:
20 Rhagfyr 2024 (Teithio a chyfarfodydd a drefnwyd ymlaen llaw)
10 Ionawr 2025 (Teithio yn unig)
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y daith fasnach cysylltwch â Kathryn Wolfe-Adams yn Cymru Greadigol – Kathryn.Wolfe@llyw.cymru
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau o fewn 24 awr - os nad ydych yn derbyn hyn, cysylltwch â'r blwch post masnach - internationaltrade@llyw.cymru
*Cyn belled â'ch bod yn gymwys.