Hoffai Llywodraeth Cymru wahodd eich cwmni i gymryd rhan yng Nghonfensiwn Rhyngwladol BIO yn Boston (UDA).
Mae’r digwyddiad hwn, a gefnogir gan Lywodraeth Cymru, yn cynnig cyfle cyffrous i fusnesau o bob maint i gynyddu eu gweithgareddau allforio a hynny drwy gysylltu â busnesau o bedwar ban byd sydd yn y sector Gwyddorau Bywyd.
Pam Confensiwn Rhyngwladol BIO?
Mae’r Sefydliad Arloesi Biotechnoleg (BIO) yn cynrychioli mwy na 1100 o gwmnïau biotechnoleg, sefydliadau academaidd, canolfannau biotechnoleg gwladol a chyrff cysylltiedig ledled yr Unol Daleithiau ac mewn mwy na 30 o wledydd eraill.
Y llynedd, arddangosodd BIO 2024 bedwar diwrnod o waith rhaglennu ysbrydoledig. Croesawyd mynychwyr o dros 19,600 o gofrestrwyr o 68 o wledydd a chynhaliwyd 61,500 o gyfarfodydd partneru.
Pam mynd?
Bydd yr ymweliad hwn yn rhoi cyfle ichi arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a datblygu eich allforion yn y sector hwn.
Trwy gymryd rhan yn yr ymweliad hwn byddwch yn elwa ar y canlynol:
• Dull cost effeithiol o ymweld â’r farchnad
• Rhwydweithio ac ymwneud â busnesau allweddol a phobl sy’n gwneud penderfyniadau o fewn y farchnad
• Rhannu dealltwriaeth a gwybodaeth gyda chyfranogwyr eraill
• Cymorth â threfniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
• Cyfle i fynychu digwyddiadau rhwydweithio
• Cewch eich cynnwys mewn unrhyw ddeunyddiau marchnata
Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn rhoi cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yng Nghonfensiwn Rhyngwladol BIO. Ar gyfer y digwyddiad hwn, gallwch gymryd rhan naill ai yn arddangoswr neu yn ymwelydd:
Arddangoswr
Y gost yw is £5,200.00. Mae hyn yn cynnwys:
• Lle ar stondin Cymru
• Hedfan allan ac yn ôl
• Trosglwyddiadau yn y farchnad
• Llety am 5 noson gyda brecwast
• Mynd i ddigwyddiadau yn y farchnad gan gynnwys digwyddiadau rhwydweithio i fusnesau
• Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
Mae’r cynnig hwn ar gael i ddau gynrychiolydd o bob cwmni.
Ymwelydd
Y gost yw £2,000.00. Mae hyn yn cynnwys:
• Hedfan allan ac yn ôl
• Trosglwyddiadau o fewn y farchnad
• Llety am 5 noson gyda brecwast
• Mynediad i’r sioe fasnach
• Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata
• Cyfle i ddefnyddio man cyfarfod ar stondin Cymru
• Mynd i ddigwyddiadau yn y farchnad gan gynnwys digwyddiadau rhwydweithio i fusnesau
Mae’r cynnig hwn ar gael i un cynrychiolydd o bob cwmni.
Manylion y Digwyddiad
Pryd:15-20 Mehefin 2025
Sector: Biotechnoleg a fferyllol
Ble: Boston
Amserlen
15 Mehefin – Gadael am Boston
16-19 June – Confensiwn Rhyngwladol BIO / Cyfle i gwmnïau gynnal cyfarfodydd eu hunain / rhaglen o gyfarfodydd a drefnwyd ymlaen llaw
20 Mehefin – Dychwelyd i Gymru
Gwasanaeth Trefnu Cyfardodydd
Os hoffech elwa i’r eithaf ar eich amser yn y digwyddiad gallwn gynnig cymorth drwy raglen o 3-4 o gyfarfodydd ar eich cyfer a fydd wedi’u trefnu gan un o’n hymgynghorwyr busnes. Gallwn drefnu hyn am £500 neu fwy.
Nodwch: Os hoffech fanteisio ar y cymorth hwn, mae’n rhaid i chi gyflwyno eich cais 10 wythnos cyn yr ymweliad neu’r arddangosfa.
Os caiff eich cais ei gyflwyno ar ôl 6 Ebril 2025 ni allwn warantu y bydd digon o amser i gynnig y cymorth ychwanegol hwn i chi.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ceisiadau:
4 Ebrill 2025 (Teithio a chyfarfodydd a drefnwyd ymlaen llaw)
18 Ebrill 2025 (Teithio yn unig)
Unwaith y byddwch wedi cyflwyno eich cais byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau o fewn 24 awr - os nad ydych yn derbyn yr e-bost yma neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am y daith fasnach cysylltwch â'n blwch Masnach Ryngwladol - internationaltrade@llyw.cymru
*Dim ond i’r rheini sy’n gymwys