A ydych chi’n chwilio am gyfleoedd allforio newydd yn y diwydiant ynni carbon glân? 

Hoffai Llywodraeth Cymru eich gwahodd i gymryd rhan yng Nghynhadledd ADIPEC 2024.

Pam ADIPEC?
Mae ADIPEC yn blatfform rhyngwladol sy’n cynnull cynhyrchwyr ynni byd-eang, defnyddwyr, ac arloeswyr i gyflymu datrysiadau cyffrous a chynnydd trawsnewidiol ar gyfer dyfodol ynni.

Dyma arddangosfa allweddol ar gyfer busnesau yn y sector ynni ac mae’n cynnig cyfleoedd allforio da i fusnesau Cymreig gyda thros 2,200 o arddangoswyr o 60 o farchnadoedd, a thros 160,000 o bobl a fydd yn mynychu.

Pam ddylech gymryd rhan yn ADIPEC?
Bydd yn rhoi’r cyfle i chi i arddangos eich cwmni, meithrin cysylltiadau gwerthfawr a sefydlu eich allforion yn y farchnad hon.
 
Drwy fod yn rhan o’r ymweliad, byddwch yn elwa ar y canlynol:

  • •    Ffordd gost effeithiol o ymweld â'r farchnad. 
  • •    Rhwydweithio a chysylltu â busnesau a gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol yn y farchnad
  • •    Rhannu gwybodaeth gydag eraill sy’n cymryd rhan
  • •    Help gyda’r trefniadau teithio drwy asiant teithio penodedig
  • •    Mynd i ddigwyddiadau rhwydweithio
  • •    Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata

Pwy all ymgeisio? 

  • Cwmnïau sy’n gwerthu cynnyrch, gwasanaeth neu gysyniad sy’n cyfrannu at waith trawsnewid Cymru yn wlad sero net.
  • Cwmnïau yn y gadwyn gyflenwi ynni sy’n cefnogi ymdrechion i weithio at effeithlonrwydd ynni neu allyriadau, iechyd a diogelwch, gwelliannau cymdeithasol ac amgylcheddol, neu ddiwygio’r farchnad ynni.
  • Cwmnïau sy’n cefnogi’r gwaith o ddatgomisiynu asedau ynni tanwydd ffosil presennol.
  • Prosiectau Dal a Storio Carbon (CCS), neu brosiectau Dal, Defnyddio a Storio Carbon (CCUS).
  • Rhaid i gwmnïau ddangos eu cyfraniad at waith trawsnewid Cymru i sero net mewn unrhyw negeseuon marchnata neu hyrwyddo.

Y Gost
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth* i gwmnïau i gymryd rhan yn yr ymweliad hwn â marchnad allforio. Ar gyfer y digwyddiad hwn, gallwch gymryd rhan naill ai fel arddangoswr neu fel ymwelydd:  

Arddangoswr - Mae'r gost arddangos naill ai yn £5,400 am stondin mawr neu’n £4,200 am uned fetr sgwâr.

  • Hediad allan ac yn ôl a throsglwyddiadau o fewn y farchnad i’r maes awyr (if you travel with the group)
  • Llety am 6 noson gyda brecwast (Dydd Sul – Dydd Gwener)
  • Tocyn i’r arddangosfa 
  • Stondin arddangos a chofrestriad ar gyfer yr arddangosfa
  • Mynediad ar-lein/catalog 
  • Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad
  • Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata

Mae’r cynnig hwn ar gael i ddau gynrychiolydd o bob cwmni. 

Ymwelydd - Y gost yw £1,500. Mae hyn yn cynnwys:

  • Hediad allan ac yn ôl a throsglwyddiadau o fewn y farchnad i’r maes awyr
  • Llety am 6 noson gyda brecwast (Dydd Sadwrn – Dydd Gwener)
  • Tocyn ymwelydd
  • Stondin Mynediad i Gymru
  • Mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad
  • Cael eich cynnwys mewn unrhyw ddeunydd marchnata

Manylion Digyddiad 
Pan fyddwn yn – 2-8 Tachwedd 2024
Sectorau - Clean Energy
Ble - Abu Dhabi, UAE

Trefn
2 Tachweed 2024 – Gadael am Abu Dhabi
2-7 Tachwedd 2024 – ADIPEC/Cyfle i gwmnïau drefnu eu cyfarfodydd eu hunain / dilyn rhaglen wedi’i threfnu o gyfarfodydd
8 Tachwedd 2024 – Dychwelyd i Gymru

Trefniant Gwasanaeth Cyfarfordydd
Os hoffech wneud y gorau o'ch amser yn y digwyddiad, gallwn gynnig cymorth i drefnu rhaglen o gyfarfodydd 3-4 i chi gan un o'n hymgynghorwyr busnes. Gallwn drefnu hyn am £500 neu fwy.

Sylwch, os hoffech y gefnogaeth hon, yna rhaid i chi gyflwyno eich cais 10 wythnos cyn i ymweliad y farchnad allforio neu'r arddangosfa ymadael. 

Os cyflwynir eich cais ar ôl yr amser hwn 6 Medi 2024, yna ni allwn warantu bod digon o amser i ddarparu'r cymorth ychwanegol hwn yn effeithiol.