Cyfeiriadur Clwstwr Allforio - Ynni adnewyddadwy ac Ynni Glân
Mae'r Clwstwr Ynni Adnewyddadwy ac Ynni Glân yn dwyn ynghyd grŵp eang o gwmnïau sy'n gweithredu ar draws yr holl sectorau ynni adnewyddadwy ac ynni glân, gan ganolbwyntio ar y meysydd canlynol: Ynni ar y Môr – Ynni Gwynt a Morol, Ynni ar y tir, – Ynni Gwynt a Solar, Niwclear, Hydrogen, Peirianneg a gwasanaethau cymorth.
Rydym yn gweithio gyda marchnadoedd o ddiddordeb a chyfleoedd i gysylltu aelodau â darpar gwsmeriaid a phartneriaid; gwneir hyn drwy weithgareddau â ffocws, gan ddod â grwpiau bach ynghyd o amgylch maes sydd o ddiddordeb iddynt.
Mae'r grŵp yn anghystadleuol ac yn gydweithredol. Mae ganddo nifer o allforwyr aeddfed iawn sydd bob amser yn barod i rannu eu profiadau o farchnadoedd rhyngwladol.
Company | Subsector | Description |
---|---|---|
Aeriogen | Peirianneg | Mae Aeriogen Ltd yn cyflawni proses gynhyrchu e-methan dan batent ar gyfer cymryd lle nwyon ffosil naturiol gan ychwanegu gwerth at CO2, lleihau cyfyngiadau ynni adnewyddadwy ysbeidiol a hwyluso gwaith storio ynni ar gyfer yr hirdymor. Mae’r catalydd microbaidd a dyluniad yr adweithydd newydd yn troi CO2 a hydrogen yn nwy ffosil sy’n cyd-fynd yn llwyr â seilwaith nwy presennol a chyfarpar ar gyfer ei ddefnyddio. Mae hyn yn cysylltu gridiau pŵer a nwy ac felly’n galluogi newid sylweddol o ran hyblygrwydd systemau ynni adnewyddadwy. |
Afon Engineering | Peirianneg | Mae Afon Engineering yn arbenigo mewn gwaith saernïo a pheiriannu, gan ddarparu atebion peirianneg wedi'u teilwra i sectorau diwydiant amrywiol. Mae hynny'n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i ynni glân ac ynni adnewyddadwy, gan weithredu'n genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae galluoedd y cwmni yn cynnwys:- Rholio, ffurfio a gwasgu platiau, proffilio plasma manylder uwch gyda chyfleuster befelu 360°, proffilio nwy, torri gan ddefnyddio offer jet dŵr, peiriannu, melino, troi a saernïo cydosodiadau o dan reolaeth cyfrifiadur, fel siafftiau tyrbinau gwynt a strwythurau metel biomas. |
Animated Technologies | Peirianneg | Mae Animated Technologies yn darparu datrysiadau VR ac AR i ddatblygwyr a chwmnïau peirianneg i arddangos neu egluro eu prosiect a'u cynhyrchion. |
BGB Scaffolding | Ynni ar y môr | Mae BGB Scaffolding yn arweinydd byd-eang mewn atebion mynediad arbenigol i'r sector ynni adnewyddadwy ar y môr. Mae BGB yn ymroddedig i feithrin setiau sgiliau arbenigol o fewn y cymunedau lle mae eu swyddfeydd byd-eang wedi'u gwreiddio. Er mwyn gwireddu'r weledigaeth hon, mae BGB wedi sefydlu ymrwymiad i hyfforddi talent leol drwy gyflogi prentisiaid lleol yn y DU; cyflogi llafur undeb yr Unol Daleithiau a chyflogi gweithwyr Taiwan lleol. Mae BGB yn ehangu'r gwasanaeth a gynigir yn y sector ynni adnewyddadwy trwy ddarparu'r: Mynediad Rhaff; Peintwyr ICATS; Arolygiadau; Gweithredwyr Iechyd a Diogelwch. |
Black Fish Engineering | Peirianneg | Wedi ei sefydlu yn 2015/2016, mae Blackfish Engineering yn gwmni ymgynghori peirianneg yn bennaf sy'n arbenigo mewn prosiectau tonnau a llanw. Gweithio ar gyfer rhai enwau mawr ym maes llanw. Gallant ddylunio, modelu swyddogaethol, rheoli a chomisiynu prosiectau adeiladu. |
Carpenter & Paterson Ltd | Peirianneg | Mae Carpenter &Paterson Ltd yn gwmni Prydeinig cwbl annibynnol sydd wedi'i sefydlu yn y DU ers 1956. Maent wedi datblygu eu hystod o offer cefnogi pibellau yn y DU ar gyfer y farchnad fyd-eang, ac maent heddiw yn arweinydd cydnabyddedig yn y farchnad yn y maes hwnnw. |
C & P Engineering | Peirianneg | Contractwr trydanol ac offeryniaeth yw C&P Engineering Services, sy'n arbenigo mewn darparu gwasanaethau trydanol foltedd uchel i'r sectorau ynni môr ac ynni adnewyddadwy. Mae’r gwasanaethau’n cynnwys: Gwasanaethau Dylunio ac Adeiladu Trydanol Foltedd Uchel - 11kV, 33kV &132kV, Rhwydweithiau Preifat, Comisiynu a Chynhyrchu, Gwasanaethau Peirianneg SAP (Uwch Berson Awdurdodedig), Gweithredu a Chynnal a Chadw. |
Cardiff University | Academia | Net Zero Innovation Institute - darparu'r gwaith arloesi hanfodol sydd ei angen i gyflawni sero net. Mae rhan o'r ffordd at sero net wedi'i mapio ond nid yw llawer o'r llwybr yn hysbys. Mae'r sefydliad hwn yn darparu'r arloesedd a'r dechnoleg nad oes gennym eto, ac mae'n ymgysylltu â chymdeithas, diwydiant a llywodraeth ynghylch y ffordd orau o gyflawni hyn. Maent yn defnyddio dull rhyngddisgyblaethol ar draws meysydd gan gynnwys y gwyddorau ffisegol, peirianneg, yr amgylchedd adeiledig, y gwyddorau cymdeithasol, y celfyddydau a'r dyniaethau, biowyddorau a geowyddorau a chynllunio. |
Carey Glass Chester Ltd | Ynni ar y tir | Am fwy na 50 mlynedd, mae Carey Glass wedi bod yn gwthio ffiniau'r hyn sy'n bosibl gyda gwydr. Maent yn buddsoddi yn y bobl, y dechnoleg a'r offer sydd eu hangen i helpu cleientiaid i gwblhau prosiectau sy'n creu argraff ac sy’n perfformio. Maent wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaeth cyflawn i'n cwsmeriaid: ar amser, manylion cywir, gwydr o ansawdd uchel a chyfathrebu ymatebol, gonest a chlir. |
Clenergy EV Ltd. | Ynni ar y tir | Mae Clenergy yn gwmni seilwaith pwyntiau gwefru cerbydau trydan sy'n cael eu gyrru gan dechnoleg, ac yn eiriolwyr Protocol Pwyntiau Gwefru Agored (OCPP). Mae eu datrysiadau yn caniatáu hyblygrwydd llwyr, dewis a rheolaeth i gleientiaid dros bwy sy'n gosod ac yn cyflenwi eu pwyntiau gwefru, yn wahanol i gystadleuwyr rhwydwaith caeedig. |
Comtek | Yr Economi Gylchol | Mae Comtek yn weithgar o fewn yr economi gylchol ac yn anelu at sbarduno newid positif a chreu dyfodol mwy cynaliadwy. Mae Comtek yn cynnig gwasanaethau cyflenwi blaengar sy’n canolbwyntio ar gyfarpar wedi’i adnewyddu sydd o ansawdd uchel, gan alluogi busnesau i estyn oes cyfarpar eu rhwydwaith telathrebu a sicrhau bod cynhyrchion a deunyddiau yn parhau i gael eu defnyddio am gymaint â phosibl o amser. |
Drone Evolution Ltd | Ynni ar y tir | Mae Drone Evolution yn darparu gwasanaethau drôn 'traddodiadol' i gleientiaid ledled y DU gan gynnwys Vodaphone a chwmnïau sefydledig eraill, fe wnaethant greu system drôn wedi'i glymu ar gyfer gweithrediadau diogelwch. Mae'r system glymu, y pecyn pŵer a'r IP o amgylch hyn i gyd yn caniatáu i'r drôn aros yn yr awyr am gyfnodau sylweddol estynedig, gan ei wneud yn ddelfrydol ar gyfer gweithrediadau diogelwch. |
DST-Innovations | Ynni ar y tir | Cwmni deunyddiau gwahanol i'r arfer yw DST . Yn ein cyfleuster yng Nghymru, rydym wedi dod â rhai o feddylwyr rhydd mwyaf y byd mewn cemeg a pheirianneg drydanol ynghyd i ddarparu datrysiadau ecogyfeillgar i gwestiynau cyffredin. Gan ymateb i alw masnachol a galw gan ddefnyddwyr rydym wedi creu datrysiadau arwyddion digidol, goleuo, IOT, chwaraeon, meddygol a batri arloesol a fydd yn newid y marchnadoedd ar gyfer y cynhyrchion hyn; datrysiadau eco-gyfeillgar fydd yn galluogi cyflwyno'r dechnoleg yn fyd-eang. |
Dulas Ltd | Ynni ar y tir | Mae 35 mlynedd o hanes Dulas wedi gweld y cwmni'n arloesi mewn defnydd o ynni adnewyddadwy'r haul, hydro a gwynt yn y DU ac ar draws y byd. Mae'r enw Dulas wedi dod i olygu ymddiriedaeth, ansawdd ac arbenigedd yn y diwydiant. |
Electric Classis Cars | Peirianneg | Sefydlwyd Electric Classic Cars (ECC) yn 2015, gan ddod yn arloeswyr trydaneiddio ceir clasurol; gan lywio'r diwydiant fel arweinwyr marchnad y byd. Mae EEC yn gwneud unedau trosi i system drydan ac yn allforio i farchnadoedd ledled y byd. Mae ECC yn ailddiffinio perchenogaeth ceir clasurol, gan ddangos i'n cwsmeriaid y gallant gael y cyfan; cymeriad eiconig wedi'i baru â dibynadwyedd, cynaliadwyedd, pŵer, perfformiad a dim allyriadau egsôst drwg. |
ESI Technology Ltd | Hydrogen | Mae ESI Technology Ltd wedi gweithgynhyrchu ystod gynhwysfawr o synwyryddion trosglwyddo gwasgedd safonol a phwrpasol ers dros 35 mlynedd, gan ddarparu atebion monitro a rheoli dibynadwy iawn i gymwysiadau sy'n aml yn heriol, gan gynnwys gosodiadau Cefnfor dwfn. Mae'r cwmni'n allforio i farchnadoedd ledled y byd. Gyda ffocws cynyddol ar ynni adnewyddadwy, mae marchnadoedd allweddol yn cynnwys cynhyrchu pŵer, ynni'r môr a hydrogen. |
FRE-Energy Ltd | Ynni ar y tir | Sefydlwyd FRE yn 2009 gan ffermwr, peiriannydd a pheiriannydd electronig i ddod o hyd i ffordd o leihau gwastraff fferm o slyri a sgil-gynhyrchion eraill. Datblygwyd cyfres o dechnolegau sy'n gysylltiedig ag AD sy'n caniatáu ar gyfer safle effeithlon iawn sy'n rhedeg ar effeithlonrwydd brig. Bellach mae safle cychwynnol yn Wrecsam wedi'i ardystio ar gyfer gwastraff bwyd. |
Future Geoscience Ltd | Peirianneg | Ers 2017 mae Future Geoscience Ltd (FGL) yn gwmni menter ar y cyd rhwng PetroStrat Ltd a Hafren Scientific Ltd (gan gynnwys Chemostrat, Origin analytics) i ymgymryd â llifoedd gwaith amlddisgyblaethol o ansawdd uchel, datrysiadau safleoedd ffynhonnau integredig, astudiaethau ansawdd cronfeydd integredig ac astudiaethau rhanbarthol, a siop un stop ar gyfer datrysiadau cronfeydd dŵr stratigraffig a chysylltiedig. |
Grafmarine Energy Limited | Ynni ar y môr | Mae Grafmarine yn fusnes newydd sy'n gweithio tuag at gyflwyno paneli solar arloesol, modiwlau rheoli ynni a storio batris arloesol y gellir eu defnyddio mewn amgylcheddau morol a garw i'r farchnad. Mae'r paneli wedi'u cynllunio i gael eu gosod ar unrhyw arwyneb gwastad, gellir eu cyfuno i greu rhwydwaith o ddyfeisiau a fyddai'n caniatáu i weithredwr morol wneud arbedion sylweddol ar gostau tanwydd fesul taith. |
Intertek Energy & Water | Ynni ar y môr | Mae Intertek Energy & Water Consultancy Services yn gweithredu yn y bôn fel uned fusnes annibynnol o fewn Intertek Group, sydd llawer mwy, a mwy eang. Mae gweithgareddau craidd yn cynnwys – modelu a dadansoddi data, gyda ffocws ar ansawdd dŵr. Eigioneg, ynni morol ac ynni ar y môr, rhyng-gysylltwyr adnewyddadwy, ansawdd dŵr, asesu tonnau. |
Mainstay Marine Solutions Ltd | Ynni ar y môr | Mae gan Mainstay Marine Solutions hanes hir o adeiladu cychod gyda thîm rheoli craidd sydd wedi bod yn dylunio ac yn adeiladu cychod gwaith ers dros 30 mlynedd yn ein cyfleusterau dŵr dwfn yn Noc Penfro, ar ddyfrffordd Aberdaugleddau yn Ne-orllewin Cymru. Caiff eu gallu eu dangos drwy eu cychod tywys, cychod patrôl, cychod teithwyr, cychod cefnogi ffermydd gwynt a dyfeisiau ynni llanw. |
Makefast | Ynni ar y môr | Makefast yw un o brif wneuthurwyr a chyflenwyr y DU o ystod eang o gynhyrchion o ansawdd ar gyfer cychod moethus. Crëwyd y cwmni dros 35 mlynedd yn ôl, ac mae bellach wedi'i leoli yng nghanolbarth Cymru gyda ffatri bwrpasol a thîm o tua 30 o bobl, sydd wedi ymrwymo i gelfyddyd a thechnoleg adeiladu cychod modern. |
Marine Power Systems | Ynni ar y môr | Dechreuodd MPS gyda dim ond syniad ac mae wedi symud ymlaen i fod yn un o ddatblygwyr technoleg ynni morol blaenllaw’r farchnad. Nid yw'r daith hon wedi bod yn hawdd, ond mae wedi bod yn werth chweil iawn datblygu ac uwchraddio ein technoleg i'r cam lle rydym bellach yn adeiladu arddangoswr ar raddfa lawn i brofi ein technoleg cyn masnacheiddio. |
Menter Mon | Ynni ar y môr | Mae Menter Môn yn cydnabod gwerth ein hadnoddau ac yn ceisio ychwanegu gwerth er budd y gymuned. Mae'r rhain yn cynnwys ein hamgylchedd naturiol ac adeiledig, ein treftadaeth ddiwylliannol, ein sectorau amaethyddol a bwyd ac yn bwysicaf oll, ein pobl. |
Mona Lifting | Peirianneg | Mae Mona Lifting yn darparu datrysiadau peirianneg pwrpasol i'r sector ynni, gyda phrosiectau ym meysydd trydan hydro, cynhyrchu pŵer a gweithrediadau morol / llanw. |
M-Sparc | Ynni ar y môr | Mae egni M-SParc yn eich taro o'r eiliad y byddwch chi'n camu i mewn i'r adeilad. Wedi'i agor yn swyddogol yn 2018 fel Parc Gwyddoniaeth cyntaf Cymru, M-SParc yw cartref arloesedd a chyffro yng ngogledd Cymru. Gyda chymorth busnes arbenigol ar gael i'n holl denantiaid, mae ein tîm craidd yma i'ch helpu chi a'ch busnes i ffynnu a thyfu yma yn harddwch gogledd Cymru. |
NiBS | Ynni ar y tir | Mae Northern Industrial Battery Services Ltd yn gwmni pŵer wrth gefn diwydiannol arbenigol sy'n cynnig ystod eang o gynhyrchion a gwasanaethau i'w nifer o gwsmeriaid. Maent yn darparu "gwasanaeth cylch bywyd" cyflawn o'r dyluniad, cyflenwad, profi cyn cyflwyno a gosod, i gynnal a chadw rheolaidd, arolygiadau, profi, dadgomisiynu a gwaredu. |
The Offshore Renewable Energy Catapult | Ynni ar y môr | Mae'r Offshore Renewable Energy (ORE) Catapult yn ffurfio rhan o rwydwaith elitaidd o wyth canolfan dechnoleg ac arloesi a sefydlwyd ac a oruchwylir gan Innovate UK, sy'n cynrychioli buddsoddiad o £1bn yn y sector cyhoeddus a phreifat dros y pum mlynedd nesaf. ORE Catapult yw canolfan arloesi technoleg ac ymchwil flaenllaw y DU ar gyfer ynni gwynt, tonnau a llanw ar y môr. Mae ORE yn darparu ymchwil â blaenoriaeth a ategir gan gyfleusterau profi ac arddangos o'r radd flaenaf, gan gydweithio â diwydiant, y byd academaidd a'r Llywodraeth i leihau cost ynni adnewyddadwy ar y môr a chreu budd economaidd i’r DU. Mae ORE yn cydweithio â phartneriaid rhyngwladol, i weithio gyda'i gilydd i gyrraedd sero net. |
Port of Mostyn | Ynni ar y môr | Mae Mostyn wedi bod y cartref i waith gweithredu a chynnal ffermydd gwynt RWE Npower yn North Hole, Rhyl Flats a Gwynt y Mor drwy gydol eu 25 mlynedd weithredol. Yn ogystal mae Mostyn wedi cael i ddefnyddio gan datblygwyr ffermydd gwynt yn cynnwys RWE Npower a Dong Energy, contractwyr a chynhyrchwyr tyrbinau fel Siemens Wind Power A/S a Vestas Wind Technology; a prif gontractwyr adeiladu yn cynnwys Van Oord a MT Hojgaard A/S. |
RAM Innovations Ltd | Peirianneg | Mae modiwlau pŵer RAM Innovations yn gallu gwella offer trosi pŵer drwy becynnu 3D ar gyfer lled-ddargludyddion sy’n arwain at well effeithlonrwydd ynni, llai o Ymyriant Electromagnetig, llai o ôl-troed, llai o bwysau a gwell gwasgaru thermol. Bydd hyn, yn ei dro, yn cynhyrchu mwy o bŵer fesul troad o ynni gwynt, gan fod y colledion pŵer yn cael eu lleihau yn ystod y broses drosi. |
Reynolds International | Ynni ar y môr | Reynolds International Ltd (RIL) yw prif gwmni ymgynghori geoffiseg annibynnol y DU. Eu prif ffocws yw datblygu fferm wynt ar y môr ond hefyd ar ddatblygiad masnachol bach ar dir. Mae pob ymchwiliad safle, cynllun parodrwydd daeargryn neu asesiad o beryglon rhewlifol yn unigryw i chi. |
Teddington Engineered Solutions | Peirianneg | Mae Teddington yn dylunio a gweithgynhyrchu meginau ac uniadau ehangu a ddefnyddir mewn amrywiaeth eang o sefyllfaoedd er mwyn amsugno dirgryniadau a symudiad thermol mewn pibellau, pympiau, tyrbinau, tanciau a mathau eraill o gyfarpar. Mae eu defnydd wedi dod yn gyffredin mewn systemau egsôst, systemau gyriant, llinellau llif, llinellau prosesu, systemau falf a phob math o bibellau ar gyfer pob math o gyfryngau. |
TCB (Tension Control Bolts) | Peirianneg | Tension Control Bolts Ltd yw'r prif wneuthurwr, dosbarthwr ac allforiwr arobryn Gwobr Kings o wasanaethau Bolt Rheoli Tensiwn Gafaeliad Ffrithiant Cryfder Uchel. Ar gyfer seilwaith adeiladu cyffredinol, y system bolltio TCB wedi’i lwytho ymlaen llaw yw'r dewis gorau posibl ar gyfer peirianwyr. Mae'r cyfuniad o gryfder tynnol uwch TCB ac ystwythder rhyfeddol yn arwain at follt cyffredinol iawn y gellir ei ddefnyddio ym mron pob cysylltiad gwaith dur. |
Tomoe Valve Ltd | Peirianneg | Mae mwy na 60 mlynedd wedi mynd heibio ers i Tomoe Valve, weld potensial falfiau chwarter tro, a datblygu'r falf hon am y tro cyntaf yn Japan. Credwn fod ein busnes, a ddechreuodd gyda gwerthu gwahanol fathau o ddalenni rwber, yn esblygu'n barhaus gyda mathau rheoli cylchol gyda nodweddion rheoli rhagorol, falfiau perfformiad uchel y gellir eu defnyddio o dymheredd uchel a phwysedd uchel i dymheredd cryogenig. |
Vessco Engineering Ltd | Peirianneg | Sefydlwyd Vessco Engineering yn 2006 i gefnogi diwydiannau lleol yn Ne Cymru a'r cyffiniau gyda gwaith saernïo cyffredinol a saernïo blychau talcen. Roedd ein cynwysyddion cyntaf yn unedau bach o fath hidlydd, a phwysedd gweddol isel. Ers hynny rydym wedi sefydlu gweithlu medrus iawn, ac wedi mynd ymlaen i arbenigo ym maes cynwysyddion pwysedd ac offer prosesu. Fe wnaethom ehangu i'r farchnad allforio gyda chleientiaid yn Ghana, Abu Dhabi, Singapore ac Algeria, gan gadw ein sylfaen cwsmeriaid domestig. |
Viridian Consultants Ltd | Peirianneg | Mae Viridian Consultants Ltd yn arbenigwyr mewn datgomisiynu niwclear, synwyryddion nodweddu niwclear, samplu laser, ymgynghoriaeth niwclear ac archwilio nodweddion in situ. |
University of South Wales | Academia | Wedi'i hariannu ar y cyd gan Brifysgol De Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, mae'r Ganolfan Hydrogen yn ganolbwynt ar gyfer ymchwil, datblygu ac arddangos technoleg ynni hydrogen newydd yng Nghymru. Un o brif swyddogaethau'r Ganolfan Hydrogen yw codi ymwybyddiaeth o hydrogen fel cludwr ynni glân a chynaliadwy, gyda'r potensial i oresgyn ein dibyniaeth ar ynni sy'n cael ei fewnforio. Yn ogystal â'r gwaith a ddisgrifir ar dechnoleg hydrogen, ymchwilir effeithiau economaidd a chymdeithasol ynni hydrogen yn y Ganolfan Hydrogen. |
Workplace-Worksafe | Ynni ar y môr | Mae Windfarm Worksafe, sy’n rhan o fenter Workplace-Worksafe diogelwch yn y gweithle, yn dylunio, yn datblygu ac yn gweithgynhyrchu datrysiadau blaengar ar gyfer cludo a chodi cydrannau electronig bregus sy’n cael eu defnyddio ar ffermydd gwynt ar y tir ac ar y môr ar draws y byd. Gall y darnau diogelu cydrannau hyn hefyd gael eu defnyddio mewn sectorau fel y môr/solar, olew a nwy lle y mae angen gosod cydrannau trydanol newydd yn lle hen gydrannau mewn mannau ar draws y byd. |
ZipClip | Peirianneg | Mae ZipClip yn cynhyrchu ac arloesi systemau crog manyleb uchel ar gyfer eich holl ofynion HVAC, Trydanol, Arwyddion a Seismig. Mae ganddynt amrywiaeth o gynhyrchion arloesol wedi'u cynllunio ar gyfer cyflymder sy'n rhwydd i'w defnyddio. Mae'r clip yn cael ei gynhyrchu o aloi sinc o ansawdd uchel. |