Cyfeiriadur Clwstwr Allforio – Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel

Mae'r Clwstwr Gweithgynhyrchu Gwerth Uchel yn dwyn ynghyd fusnesau o'r un anian, gyda dros 50 o aelodau, o allforwyr newydd i'r rhai sy'n brofiadol ac yn llwyddiannus iawn. Mae bod yn aelod o'r Clwstwr yn cynnig dwy fantais allweddol: dealltwriaeth a chysylltiadau.

Mae aelodau'n cael dealltwriaeth o farchnadoedd rhyngwladol gan arbenigwyr yn y farchnad, gan ddeall y cyfleoedd perthnasol a sianeli'r farchnad. Yn ogystal maent yn dysgu am raglenni cymorth, cyfleoedd ariannu, a mwy.

Mae'r clwstwr hefyd yn eich cysylltu'n uniongyrchol â dwsinau o gwmnïau tebyg ym maes gweithgynhyrchu ehangach Cymru, lle gallwch ymuno â thrafodaethau am faterion cyfredol, rheoliadau sy'n newid, yr arferion gorau a materion perthnasol eraill, gan alluogi eich cwmni i ragori ym maes allforio.

CompanySubsectorDescription
Aber InstrumentsCyfarpar ac Offerynnau ElectronigMae Aber Instruments yn gwmni byd-eang llwyddiannus gyda phortffolio o systemau ardystiedig uwch 'sy'n barod ar gyfer gweithgynhyrchu', sydd eisoes yn cael eu defnyddio yn y diwydiannau Bragu, Biotechnoleg, Ynni Bio Adnewyddadwy a Biodanwydd. Arloesodd Aber Instruments ddimensiwn newydd ar fesur biomas drwy ddyfeisio dull unigryw ar gyfer monitro biomas gan ddefnyddio rhwystriant amledd radio.
Aluminium Lighting CompanyPeiriannau a Chydrannau DiwydiannolMae’r Aluminum Lighting Company (ALC) yn fusnes teuluol o bron i dri degawd sy'n cyflenwi atebion alwminiwm o ansawdd uchel ar gyfer mân strwythurau i'r Sectorau Rheilffyrdd, Priffyrdd a Datblygu Preifat. O'u ffatri 45,000 troedfedd sgwâr, mae ALC yn cyflenwi colofnau goleuo alwminiwm allwthiol, polion signal traffig a bracedi cast, ymhlith cynhyrchion amrywiol eraill, i gleientiaid domestig a rhyngwladol.
Bee RoboticsPeiriannau a Chydrannau DiwydiannolMae Bee Robotics yn gwmni preifat wedi'i leoli yng Ngogledd Cymru. Maen nhw wedi ennill enw da ledled y byd fel arweinydd ym maes dylunio a gweithgynhyrchu datrysiadau robotaidd, ar gyfer ymdrin â hylifau mewn labordai yn awtomatig. Mae ystod eu cynhyrchion yn ffrwyth blynyddoedd lawer o ymchwil a datblygu, ac mae'n cynnwys yr atebion  diweddaraf ym maes electroneg, roboteg a meddalwedd.
BIPV Limited t/a BIPVcoYnni AdnewyddadwyMae BIPVco yn wneuthurwr arloesol yn y DU sy'n adeiladu atebion to  ffotofoltäig integredig ar gyfer y sectorau masnachol, diwydiannol a phreswyl. Mae eu systemau gweithgynhyrchu yn hynod arloesol ag allbwn uchel, ac maent wedi cael eu datblygu i fodloni gofynion amrediad o systemau to ffotofoltäig wrth sicrhau effeithlonrwydd gweithgynhyrchu ac ansawdd cynnyrch ar bob cam o'r broses.
Brush PeiriannegMae grŵp Brush yn cefnogi'r ymgyrch fyd-eang i gyrraedd sero net drwy atebion arloesol a chynaliadwy.  Mae'r cwmni'n darparu atebion peirianneg ystwyth ac addasol a chynhyrchion wedi'u peiriannu, wedi'u cynllunio i baratoi seilwaith hanfodol at y dyfodol, sicrhau bod y grid yn gadarn, a sbarduno newid system, wrth gefnogi'r ymgyrch i gyrraedd sero-net.
C R Clarke & Co (UK)Peiriannau a Chydrannau DiwydiannolMae C R Clarke & Co (UK) Limited yn beirianwyr profiadol a brwdfrydig sy'n dylunio a gweithgynhyrchu offer gwresffurfio a saernïo plastig. Ers dros 40 mlynedd mae'r cwmni wedi bod yn datblygu ac yn cynhyrchu amrediad o offer o ansawdd uchel ar gyfer saernïo plastig.
CimteqMeddalwedd Rheoli CymwysiadauMae Cimteq yn cynnig cyfres o feddalwedd sy'n galluogi gweithgynhyrchwyr gwifrau a cheblau i gynllunio, rheoli a symleiddio'r broses ddylunio a gweithgynhyrchu. Mae Cimteq yn rhan o UL Solutions.
Clwyd CompoundersCemegau a Deunyddiau ArbenigolMae Clwyd Compounders yn rhagori ar ddarparu cyfansoddion rwber o'r ansawdd uchaf a'r cymorth a'r gwasanaethau technegol gorau yn y diwydiant. Maent yn cyflenwi'r amrediad llawn o gyfansoddion rwber a chymorth technegol ar gyfer pob math o ddefnydd ar draws nifer o ddiwydiannau.
CokebustersGwasanaethau Amgylcheddol a ChyfleusterauMae Cokebusters yn fusnes rhyngwladol sy'n arbenigo mewn glanhau a sicrwydd tiwbiau a phiblinellau. Fel arweinydd diwydiant, mae Cokebusters yn cynnig gwasanaeth dibynadwy sy'n darparu glanhau mecanyddol, hidlo dŵr, gwirio glendid, archwilio pibellau, uniondeb cynhwysyddion a sicrwydd asedau i'w cleientiaid diwydiannol.
Concrete CanvasDeunyddiau AdeiladuConcrete Canvas Ltd yw'r gwneuthurwr GCCMau cyntaf yn y byd gyda Concrete Canvas® – Concrete on a Roll. Cafodd Concrete Canvas Ltd ei gorffori yn y DU yn 2005 i gynhyrchu ei ddwy dechnoleg sydd wedi ennill gwobrau, Concrete Canvas a Concrete Canvas Shelters. Datblygwyd y cynhyrchion hyn i fanteisio ar dechnoleg deunyddiau unigryw a ddyfeisiwyd yng Ngholeg Imperial Llundain yn 2004.
Continental Diamond Tool LimitedPeiriannau a Chydrannau DiwydiannolMae Continental Diamond Tool Limited yn arbenigwyr mewn Cynhyrchion Llifanu Electroplat ac Offerynnau Diemwnt ar gyfer Garwhau Offer Llifanu. Mae'r cwmni yn arweinydd ym maes offerynnau manwl technegol well ar gyfer amrediad o ddiwydiannau, gan ddylunio cynhyrchion llifanu manwl â'r deunyddiau gorau a'r dechnoleg fwyaf arloesol.
Datascope SystemsMeddalwedd Rheoli CymwysiadauMae DataScope yn un o brif ddarparwyr y DU ar gyfer rheoli mynediad at safleoedd, logisteg, cynllunio digidol ac offerynnau QHSE (ansawdd, iechyd, diogelwch a'r amgylchedd) ar gyfer y diwydiant adeiladu.  O lafur i logisteg, cynllunio i QHSE, mae eu cyfres o atebion rheoli safle deinamig yn helpu cwsmeriaid i ragori ar amser  prosiectau a disgwyliadau cost yn gyson.
Flamgard CalidairPeiriannau a Chydrannau DiwydiannolMae Flamgard Calidair yn un o awdurdodau blaenllaw'r byd wrth ddylunio a gweithgynhyrchu damperi gwresogi, awyru ac aerdymheru o ansawdd uchel a'r offer cysylltiedig. Ffocws y cwmni o hyd yw cyflenwi damperi i gwsmeriaid sy'n darparu diogelwch, dibynadwyedd a gwydnwch mewn amodau heriol.
FSG Tool & DiePeiriannau a Chydrannau DiwydiannolMae FSG Tool & Die yn darparu offerynnau manwl iawn o'r radd flaenaf, diolch i'w gweithwyr medrus iawn, technoleg flaengar ac arloesedd. Mae'r cwmni'n cynnig gwasanaeth cyflawn ar gyfer gwneud offerynnau, o'r cysyniad cyntaf i'r eitem orffenedig, gan gynnwys mowldiau chwistrellu plastig, peiriannu manwl, dylunio a gweithgynhyrchu offerynnau gwasgu ac offer gwresffurfio.
Fuel Active LtdDarnau ac Offer ModurolMae FuelActive yn cynhyrchu ac yn gosod yr uned codi tanwydd Fuelactive®, sy'n atal dŵr, a halogion eraill rhag mynd i mewn i system danwydd. Mae gan uned codi tanwydd FuelActive batent, ac mae'n ateb unigryw, arloesol i'r broblem o danwydd yn cael ei halogi  mewn peiriannau diesel.
Garan InstrumentsCyfarpar ac Offerynnau ElectronigMae Garan yn dylunio ac yn gweithgynhyrchu systemau pwyso llwythau lifftiau yn y DU Gellir gweld y systemau pwyso llwythau lifftiau mewn llawer o wledydd ledled y byd. Mae offerynnau pwyso llwythau a synwyryddion Garan yn sicrhau diogelwch llawer o ddefnyddwyr lifftiau bob dydd, heb sôn am lifftiau nwyddau, codwyr platfformau a lifftiau mynediad anabl.   
Global LasertechCydrannau ElectronigMae Global Laser yn gwmni arbenigol sy'n dylunio ac yn gweithgynhyrchu modiwlau deuod laser ar gyfer amrediad eang o gymwysiadau. Maent yn arbenigo mewn amrediad eang o gynhyrchion laser gweithgynhyrchu cyfarpar gwreiddiol, perfformiad uchel a dibynadwyedd uchel i'w defnyddio mewn llawer o gymwysiadau arbenigol gan gynnwys golwg peiriant, alinio, meddygol, mesur, gwyddonol milwrol.    
H&D Fitzgerald LtdCyfarpar ac Offerynnau ElectronigSefydlwyd H&D Fitzgerald Ltd ym 1988 a nhw yw prif gyflenwr gwasanaethau graddnodi'r byd ym maes mesur dwysedd. Mae'r cwmni'n cynhyrchu safonau dwysedd hylif, yn graddnodi amrediad eang o hydromedrau a mesuryddion dwysedd ac yn cynhyrchu fflotiau colofn graddiant dwysedd, ac offer llenwi colofna graddiant dwysedd awtomataidd.
Haydale GrapheneCemegau a Deunyddiau ArbenigolMae Haydale yn grŵp technolegau a deunyddiau byd-eang sy'n hwyluso integreiddio nanoddeunyddiau i'r genhedlaeth nesaf o dechnolegau masnachol a deunyddiau diwydiannol. Maent yn hwyluso masnacheiddio graffen a deunyddiau uwch  eraill ar gyfer cwsmeriaid ledled y byd.
Hexigone InhibitorsCemegau a Deunyddiau ArbenigolMae Hexigone Inhibitors yn cynhyrchu atalyddion cyrydiad 'cemegol ddeallus'. Mae Intelli-ion® AX1 yn disodli neu'n cyd-gyfuno'n llwyr â chromadau metel trwm, ffosffad a gwenwynig ag ychwanegion gwrth-gyrydu costeffeithiol, perfformiad uchel, cynaliadwy. Eu nod yw gwneud Intelli-ion® yn safon y diwydiant sy'n amddiffyn ein seilwaith a'n trafnidiaeth am gyfnod hirach – gan helpu i wneud cymunedau'n fwy diogel ac yn fwy cynaliadwy.
HWM WaterCyfarpar ac Offerynnau ElectronigMae HWM yn dylunio a gweithgynhyrchu offer monitro a thelemetreg ar gyfer rhwydweithiau dŵr, dŵr gwastraff a nwy, ynghyd â thelemetreg darllen mesuryddion yn awtomatig a chynhyrchion optimeiddio cyfleusterau. Eu prif ffocws ers dros 30 mlynedd fu monitro systemau rhwydweithiau dosbarthu dŵr glân, ond yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf maent wedi ehangu i sectorau newydd sy'n cynnwys mesuryddion defnydd nwy, dŵr a thrydan, monitro rhwydweithiau nwy a monitro carthffosydd, afonydd a llifogydd.
Industrial Automation & ControlGwasanaethau Gweithgynhyrchu ElectronigMae industrial automation & control yn un o brif integreiddwyr systemau annibynnol yn y DU, gydag arbenigedd penodol mewn cymhwyso a gweithgynhyrchu systemau gyriant cyflymder amrywiol, ynghyd â phrofiad helaeth mewn dylunio PLC a SCADA. Gyda'i gilydd mae peirianwyr industrial automation & control yn meddu ar gyfanswm o dros 700 o flynyddoedd o brofiad sy'n dyddio'n ôl i'r 1970au. Mae'r cwmni wedi'i gymeradwyo a'i awdurdodi yn gwmni sy'n hyfedr wrth ddefnyddio a chymhwyso offer a weithgynhyrchir gan brif wneuthurwyr trydanol y byd. Maent wedi cael ei cymeradwyo gan Siemens, ABB, Rockwell, Schneider, Omron, GE, Mitsubishi, a llawer eraill.
InndexMeddalwedd Rheoli CymwysiadauMae innDex yn gwmni technoleg adeiladu sy'n tyfu'n gyflym.  Maent yn cynnig cyfres gynyddol o atebion meddalwedd a chaledwedd integredig drwy ryngwynebau rhaglenni cymwysiadau agored. Yn syml, innDex yw 'Technoleg Adeiladu Pwerus wedi'i symleiddio'. Fel busnes technoleg adeiladu, eu nod yw defnyddio 96% o ddata sy'n cael ei ystyried ar hyn o bryd fel sgil-gynnyrch ac sy'n cael ei wastraffu yn y diwydiant adeiladu, gan gynnig arloesedd fforddiadwy i ddiwydiant lle mae'r elw yn fach.
K SharpGwasanaethau Ymchwil ac YmgynghoriMae K Sharp yn darparu ymgynghoriaeth Ffactorau Dynol, dadansoddi diwylliannol ac ymddygiadol, ac ymgynghoriaeth mabwysiadu technoleg ar gyfer profiad y defnyddiwr, a dylunio rhyngwynebau defnyddiwr, gan greu cynhyrchion, gwasanaethau a phrotocolau sy'n hawdd eu mabwysiadu ac yn ddeniadol i'w defnyddio. Mae K Sharp yn gwella systemau a phrosesau'r cwsmer fel y gallant gyrchu, prosesu, defnyddio a manteisio ar wybodaeth yn fwy effeithiol.
KnitMesh TechnologiesCemegau a Deunyddiau ArbenigolMae KnitMesh Technologies yn darparu atebion rhwyllau wedi'u gwau pwrpasol ar gyfer rhai o ddefnyddiau modurol, hydrogen, electrolysis a defnyddiau technoleg eraill mwyaf heriol y byd. Mae'r rhain yn cynnwys rheoli dirgryniad, gwanhau sain, hidlo hylifau a nwyon yn ogystal â gwarchod rhag EMI/RFI.
Lion LaboratoriesCyfarpar ac Offerynnau ElectronigMae Lion yn arbenigo ym maes dadansoddi alcohol anadl. Maent yn cyflenwi llawer o'r offer a ddefnyddir gan heddlu'r DU, ac yn allforio i ryw 70 o wledydd ledled y byd drwy rwydwaith o ddosbarthwyr lleol. Mae Lion Laboratories yn gwmni sy'n llawn integredig yn fertigol, sy'n gwneud eu holl ymchwil, datblygu cynnyrch peirianneg, gweithgynhyrchu, marchnata a gwerthu eu hunain.
Markes InternationalCyfarpar ac Offerynnau ElectronigMae Markes International yn gwmni arbenigol sy'n gweithgynhyrchu offerynnau ar gyfer canfod cyfansoddion organig anweddol a lled-anweddol lefel hybrin. Mae ganddynt enw da haeddiannol am arbenigedd cymwysiadau ym maes dadsugno thermol, gan gyflenwi amrediad cynhwysfawr o offerynnau, cyfarpar samplu a nwyddau traul sy'n gwella gallu dadansoddol GC-MS.
MM EngineeringCynhyrchion AdeiladuMae MM Engineering yn dîm o arbenigwyr diwydiant sy'n cael eu gyrru gan eu hangerdd i ddarparu cynhyrchion amddiffyn rhag llifogydd a ffrwydradau o'r ansawdd uchaf. Gyda dros ugain mlynedd o brofiad o ddylunio a darparu cynhyrchion amddiffyn llifogydd pwrpasol, maent yn defnyddio eu profiad a'u harbenigedd i greu cynhyrchion sy'n arwain y diwydiant i ddiogelu asedau ein cwsmeriaid.
NDT GroupGwasanaethau Ymchwil ac YmgynghoriMae NDT Group yn cynnig amrediad eang o wasanaethau a thechnegau Profi Annistrywiol mewn sawl diwydiant. Rydym yn gweithredu mewn set amrywiol o ddiwydiannau sy'n cynnwys pŵer a niwclear, awyrofod, petrocemegol, olew a nwy i enwi dim ond rhai. Drwy ddefnyddio technegau ac offer modern a weithredir gan weithwyr medrus iawn, mae NDT Group yn gallu darparu gwasanaeth profi annistrywiol effeithlon iawn o ansawdd uchel.
Nightingale HQYmgynghori TGMae Nightingale HQ yn helpu gweithgynhyrchwyr i newid i dechnoleg ddigidol – o alinio strategol gydag Adolygiadau Digidol i weithredu ymarferol technegol. Mae eu cyfuniad o arbenigedd yn y gwyddorau data, technoleg a gweithgynhyrchu, ynghyd â dull sy'n canolbwyntio'n gryf ar gwsmeriaid yn helpu i gyflymu digideiddio. Maent yn partneru ag amrediad eang o weithgynhyrchwyr ar draws y DU ac Ewrop.
Nortech Control SystemsCyfarpar ac Offerynnau ElectronigMae Nortech yn dylunio, yn cynhyrchu ac yn dosbarthu systemau rheoli mynediad pobl a cherbydau. Maent yn gwmni annibynnol a leolir ym Mhrydain, ac maent wedi bod yn cyflenwi cynhyrchion ac atebion i'r diwydiant diogelwch ers dros 25 mlynedd. Mae gan eu tîm dylunio mewnol brofiad helaeth ym mhob maes datblygu cynhyrchion ac maent yn gweithio'n agos gyda phartneriaid strategol i ddarparu'r atebion technegol gorau.
Philtronics Gwasanaethau Gweithgynhyrchu ElectronigMae Philtronics yn gwneud cynhyrchion electronig o dan gontract. Maent yn allanoli gwasanaethau gweithgynhyrchu cynhyrchion electronig ar gyfer cwsmeriaid y mae angen arnynt nwyddau dibynadwy iawn yn gyflym. Gall y cwmni helpu ar bob cam: o gysyniadau dylunio cynnar, prototeipio cyflym, dylunio ar gyfer gweithgynhyrchu a chydosod, optimeiddio cadwyni cyflenwi, safoni cynnyrch, prosesau cymeradwyo dyluniadau, adeiladu, profi a logisteg; datrysiadau gweithgynhyrchu cyflawn o dan gontract – 'o gysyniad i gyflenwi' sy'n cyd-fynd ag anghenion penodol.
POET SystemsMeddalwedd Rheoli CymwysiadauMae POET Systems Ltd yn helpu gweithgynhyrchwyr i wella cynhyrchiant a pherfformiad gyda'u platfform meddalwedd POET sydd wedi ennill gwobrau. Mae POET yn gyfres o ddangosfyrddau rheoli gweledol sy'n hawdd eu llywio, dangosfyrddau sy'n cyfeirio defnyddwyr yn syth at y cyfleoedd effaith uchel, i lawr i linell, ar lefel modd cynhyrchu a methu, ar draws yr holl ddangosyddion perfformiad proses gan ddefnyddio methodoleg effeithiolrwydd cyffredinol offer.
Pulse PlasticsCemegau a Deunyddiau ArbenigolMae Pulse Plastics Limited yn gwmni arbenigol annibynnol yn y DU sy'n darparu atebion  plastig arloesol. Drwy gyfoeth o wybodaeth ac arbenigedd yn y diwydiant, mae Pulse Plastics yn cynnig gwasanaethau arbenigol sy'n cynnwys Ailbrosesu, Cynhyrchu Cyfansawdd a Gweithgynhyrchu Cynhyrchion Pwrpasol. Mae Pulse Plastics yn ailbrosesu ffrydiau gwastraff gweithgynhyrchwyr i wneud deunyddiau cyfansawdd i'w hailddefnyddio yn y diwydiant plastigau ac yn cynhyrchu deunyddiau ar gyfer nifer o ddefnyddwyr sydd eisiau cynhyrchion o ansawdd uchel.
R-TECH Consultants (T/A R-TECH Materials)Gwasanaethau Ymchwil ac YmgynghoriMae R-TECH Consultants yn darparu cyngor arbenigol o'r radd flaenaf ar ddeunyddiau i amrediad eang o ddiwydiannau. Maent yn arbenigo mewn archwiliadau deunyddiau labordy ynghyd â gwaith cywirdeb peiriannau Gyda'i gilydd mae'r busnesau yn darparu gwasanaeth cynhwysfawr ar gyfer amrediad eang o ddeunyddiau, cymwysiadau a diwydiannau.
Raplas TechnologiesPeiriannau a Chydrannau DiwydiannolMae Raplas yn darparu technoleg argraffu 3D gan ddefnyddio gweithgynhyrchu ychwanegion blaengar. Mae'r cwmni'n cyflenwi peiriannau manwl o ansawdd uchel ac yn gallu cynhyrchu phrototeipiau sengl neu filoedd o ddarnau.
Recco AutomationPeiriannau a Chydrannau DiwydiannolMae Reeco Automation yn darparu atebion mewn systemau awtomeiddio gan ddefnyddio robotiaid cydweithredol.  Mae'r busnes yn canolbwyntio ar ddarparu datrysiadau awtomataidd i'r cwsmer a fydd yn y pen draw yn arbed arian iddynt ac yn lleihau costau cynhyrchu.
Rhino SystemsCynhyrchion AdeiladuCafodd Rhino Doors ei sefydlu yn 1983 ac maent yn gweithgynhyrchu, gosod a chynnal a chadw pob math o ddrysau a gatiau. Mae'r cwmni yn arbenigo mewn drysau llithro, llithro-blygu, plygu a deu-blygu, caeadau rholio, drysau adrannol a drysau personél.
RM GroupPeiriannau a Chydrannau DiwydiannolMae RM Group yn arwain y farchnad cyflenwi peiriannau bagio. Mae'r systemau'n cynnwys trin deunyddiau swmp, pwyso, gosodwyr bagiau awtomataidd, llenwi ffurf a selio, systemau bagio symudol a systemau bagio swmp un tunnell.
Robertson GeologgingCyfarpar ac Offerynnau ElectronigErs 1979 Robertson Geologging Ltd fu prif arloeswr datblygu technolegau a thechnegau logio geoffisegol. Fel gwerthwr mwyaf offer logio twll main y byd, mae Robertson Geo yn dylunio ac yn cynhyrchu bron pob offeryn yn fewnol, gan ddefnyddio arbenigedd a gwybodaeth gyfunol ei staff.
RotothermCyfarpar ac Offerynnau ElectronigMae Rototherm Group wedi bod yn dylunio atebion mwyaf cywir y byd ar gyfer mesur llif, lefel, tymheredd a gwasgedd ers y 1840au. Mae technoleg flaengar y cwmni yn sicrhau bod y busnesau y maent yn partneru â nhw yn gallu mesur yn gywir, yn effeithlon, yn ddibynadwy ac yn ddiogel bob tro. Mae eu atebion ar gyfer mesur yn galluogi cwsmeriaid i wella eu prosesau, cynhyrchion a gwasanaethau a chefnogi arferion busnes cynaliadwy.
Ruth Lee Limited Cyfarpar ac Offerynnau ElectronigMae Ruth Lee Ltd yn gwmni blaenllaw sy'n gwneud manicins ar gyfer hyfforddiant achub rhyngwladol. Maent yn cael eu defnyddio i greu senarios brys realistig iawn, ac mae ganddynt enw da yn fyd-eang.  Mae Ruth Lee hefyd yn dosbarthu amrediad o gynhyrchion Efelychu Tân o dan y brand FireWare. Mae'r rhain yn cynnwys cynhyrchwyr mwg, efelychu sain, a hyfforddwyr diffoddwyr tân.
Safety Letterbox CompanyCynhyrchion AdeiladuMae'r Safety Letterbox Company ar flaen y gad o ran dylunio, nodi gofynion, cydymffurfio a chyflenwi atebion ar gyfer blychau gwybodaeth diogel, blychau post a blychau parsel.  Ers dros 38 mlynedd mae'r cwmni wedi bod yn cyflenwi amrediad eang o flychau post i'r sectorau preswyl a masnachol ar gyfer bron unrhyw ddefnydd, lleoliad a chyllideb.
Securiclad LTDCynhyrchion AdeiladuMae Securiclad yn creu amgylcheddau diogel ar draws amrediad eang o ddiwydiannau, gan ddarparu dull effeithiol, cost-effeithlon o ddiogelu ardaloedd risg uchel. Mae cynhyrchion Securiclad wedi'u cynllunio i ddiogelu asedau gwerth uchel – sy'n amrywio o stoc manwerthu i ddeunyddiau peryglus neu fferyllol, ac maent yn yn galluogi cwmnïau a chyrff llywodraeth i ddiogelu cyfleusterau fel canolfannau data, ystafelloedd rheoli cwmnïau cyfleustodau a safleoedd niwclear.
Tilon UK Ltd

Adeiladu a Pheirianneg

Mae Tilon UK Limited yn cynnwys grŵp o arbenigwyr peirianneg sy'n canolbwyntio ar atebion cynnyrch wedi'u hailgylchu yn greadigol megis byrddau sgaffald, rhwystrau acwstig, rhaniadau a llwybrau cerdded ar gyfer ystod eang o brosiectau diwydiannol, masnachol a phreswyl. Mae'r cynhyrchion yn cynnwys dros 95% o ddeunydd gwastraff wedi'i ailgylchu unwaith y caiff ei gynhyrchu.

Transcontinental Advanced CoatingsCemegau a Deunyddiau ArbenigolMae Transcontinental Advanced Coatings yn arweinydd byd-eang ym maes datblygu, gweithgynhyrchu a dosbarthu technolegau cotio manwl, gan gynnwys papurau â haen, ffilmiau a swbstradau arbenigol ar gyfer delweddu digidol, electroneg, technolegau meddygol ac optegol. Maent hefyd yn darparu ffilmiau arbenigol unigryw a gwasanaethau cotio, gan gynnwys cotio contract, cotio am ffi a throsi.
UnitBirwelcoAdeiladu a PheiriannegMae UnitBirwelco yn gwmni blaenllaw sy'n darparu atebion peirianneg cynhwysfawr. Maent yn arbenigo mewn dylunio, saernïo ac optimeiddio amrediad eang o systemau gwres-ddwys, gan gynnwys gwresogyddion tân, fflachiau, cynwysyddion gwasgedd a sgidiau proses. Mae UnitBirwelco wedi ymroddi i ddarparu rhagoriaeth ym maes dylunio, rheoli prosiectau, gweithgynhyrchu, saernïo, adeiladu a chynnal a chadw gwasanaethau ar gyfer ystod  amrywiol o ddiwydiannau.
United AerospaceCemegau a Deunyddiau ArbenigolMae United Aerospace yn gwmni sy'n dylunio ac yn gwneud cydrannau cyfansawdd ar gyfer unrhyw ddiwydiant. Maent yn gallu cwblhau pob agwedd ar y broses o'r cysyniad i'r eitem orffenedig. Offer, mowldio, trimio CNC, bondio, cyfosod a phaentio / laceru.
Visive GroupCyfarpar ac Offerynnau ElectronigMae Visive Group yn cwmni byd-eang blaenllaw sy'n dylunio ac yn gwneud datrysiadau Tiwb Ymylon LED a Thechnoleg Smart.  Cafodd y cwmni ei sefydlu yn 2000, ac mae eu hamrediad o atebion ymylon LED / effaith amlin a golch-wal yn darparu amrywiaeth o lywiau bywiog ar gyfer ffasadau adeiladu, strwythurau ac arddangosfeydd manwerthu masnachol rhithwir.
Winslow AdapticsCydrannau ElectronigMae Winslow Adaptics wedi ennill enw da byd-eang fel y cwmni i'w ddefnyddio ar gyfer gwneud atebion rhyng-gysylltiedig. Gyda mwy na 40 mlynedd o brofiad, maent yn deall sut i addasu ar ôl helpu cannoedd o gwsmeriaid gweithgynhyrchu cyfarpar gwreiddiol a busnesau bach a chanolig haen uchaf i addasu eu datrysiadau caledwedd a meddalwedd i dechnolegau sy'n newid – gan eu helpu i barhau i fod yn gynhyrchiol ac yn broffidiol.