Mae’r daith fasnach yn cael ei chefnogi gan y prosiect Datblygu’r Farchnad Fwyd Môr, a gafodd dros £1 miliwn yn ddiweddar gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Môr a Physgodfeydd Ewrop. Dyma’r tro cyntaf i daith fasnach bwyd môr o Gymru ymweld â Hong Kong. Yn Seafood Expo Asia, bydd modd i’r cynrychiolwyr ddysgu am gyfleoedd i allforio’u cimychiaid, eu crancod, eu hwystrys, eu cregyn bylchog a bwydydd môr rhagorol eraill Cymru. Hefyd, fel rhan o’r...
Brosiect Ymchwil Sbwriel Morol
Mae Llywodraeth Cymru’n gwahodd cynigion am brosiect Ymchwil Sbwriel Morol. Mae manylion y tendr ar gael ar GwerthwchiGymru nawr.
Taith Fasnach Bwyd Môr, Hong Kong
Mae lle i 10 ar y daith fasnach hon a fydd yn cael ei chynnal yr un pryd â Seafood Expo Asia yn Wanchai, Hong Kong rhwng 4 a 6 Medi.
Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cymeradwyo deddfwriaeth i wahardd microbelenni
Yn sgil hynny, bydd yn drosedd gweithgynhyrchu neu ddarparu unrhyw gynhyrchion gofal personol i'w rinsio i ffwrdd sy'n cynnwys microbelenni plastig. Mae microbelenni yn ronynnau plastig soled sy'n 5mm o ran maint ac nid ydynt yn toddi mewn dŵr. Maent hefyd yn rhy fach i gael eu hidlo allan mewn systemau trin carthion. Mae rhyw 680 o dunelli o ficrobelenni plastig yn cael eu defnyddio mewn cynhyrchion gofal personol yn y DU bob blwyddyn ac...
Dechrau llwyddiannus i 2018 wrth i gamau i erlyn llongau ac unigolion yn nyfroedd Cymru arwain at ddirwyon a chostau o fwy na £136,000
Y troseddau mwyaf cyffredin yr oedd yr erlyniadau hyn yn ymwneud â nhw oedd 9 achos o gasglu cocos yn anghyfreithlon yn ardal y Tair Afon yn ystod 2017. Nod cyffredinol y timau Gweithrediadau yn Is-adran y Môr a Physgodfeydd yw mynd ati i reoleiddio'r materion hynny yr ydym yn gyfrifol amdanynt, gan wneud hynny mewn ffordd gadarn a theg. Er mwyn llwyddo yn hynny o beth, mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn gweithredu...
Prosiect Partneriaeth Moroedd Glân Cymru
Yn ei hymateb i hyn, mae Cymru wedi cyhoeddi ei bod am fod ' Cenedl Ail-lenwi' gynta'r byd trwy ddarparu mwy o ddŵr yfed i bobl mewn mannau cyhoeddus. Cyhoeddodd Gweinidog yr Amgylchedd Hannah Blythyn ar 8 Mai y bydd £15 miliwn o arian ychwanegol yn cael ei neilltuo i helpu Cymru â'i hymdrech i fod y wlad orau yn y byd am ailgylchu. Mae'r mudiad Ail-lenwi a lansiwyd gan City to Sea yn ceisio...
Newidiadau i drefniadau trwyddedu morol a bywyd gwyllt yn rhanbarth môr mawr Cymru
Trwyddedau Morol a sut maen nhw’n gweithio. Yn sgil Gorchymyn Trwyddedu Morol (Dirprwyo Swyddogaethau) (Cymru) 2013 (dolen allanol), sefydlwyd system trwyddedu morol newydd drwy gyfuno a diweddaru trefniadau trwyddedu blaenorol. Gweinidogion Cymru yw’r awdurdod trwyddedu ar gyfer dyfroedd Cymru (hyd at 12 milltir forol o’r lan). Cyflwynwyd y system hon ym mis Ebrill 2011. Cafodd y cyfrifoldeb dros weinyddu trwyddedau morol ei ddirprwyo i Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) (dolen allanol) ym mis Ebrill 2013. Y...
Cymru fydd 'Cenedl Ail-lenwi' gyntaf y Byd
Er mwyn sicrhau mai hi fydd 'Cenedl Ail-lenwi' gyntaf y DU, bydd gwaith yn dechrau i drefnu bod dŵr yfed ar gael yn fwy hwylus mewn mannau cyhoeddus ledled Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda City to Sea ar ddatblygu ymgyrch ail-lenwi i Gymru, a bydd hefyd yn cydweithio'n agos â chwmnïau dŵr yng Nghymru a chyda'n busnesau, ein helusennau a'n digwyddiadau mawr. Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys ymgyrch i newid ymddygiad er...
Ysgrifennydd y Cabinet yn ymweld â Marina Conwy i lansio FPV (Llong Patrolio Pysgodfeydd) Catrin
FPV Catrin is one of three new patrol vessels alongside FPV Rhodri Morgan and FPV Lady Megan that have been commissioned by Welsh Government to replace the current ageing vessels and help maintain effective enforcement of Welsh waters. Speaking at Conwy Marina, Lesley Griffiths said: “I am delighted to be here in Conwy to celebrate the christening launch of our new Fisheries Patrol Vessel Catrin. Our new vessel will ensure we can continue to effectively...
Y Prif Weinidog i gyhoeddi cymorth ar gyfer Marina Caergybi
Bydd Llywodraeth Cymru yn rhoi £100,000 i Gyngor Sir Ynys Môn tuag at y costau clirio, ac i sicrhau bod busnesau yn gallu aros ar agor a denu twristiaid i’r ardal. Achosodd Storm Emma, a darodd arfordir y Gogledd ym mis Mawrth, ddifrod difrifol i’r marina a chafodd tua 75 o gychod eu dryllio. Mae cynnydd sylweddol wedi cael ei wneud yn y broses o glirio’r ardal ers y digwyddiad. Mae 40 o dunelli o...