Cymru a’r Môr
Mae’r golygfeydd godidog a’r diwylliant cyfoethog yn gwneud Cymru’n lle deniadol. Mae’n hardal forol yn fwy na’n hardal dirol ac mae’n bwysig iawn i ni. Mae dros 60% o’r boblogaeth yn byw ac yn gweithio ar yr arfordir.
Mae’n glannau hardd yn gartref i sawl porthladd mawr, harbyrau a chymunedau arfordirol. Mae busnesau arfordirol a morol yn hollbwysig ac yn cyfrannu dros £6.8 biliwn i economi Cymru.
Mae angen gwarchod ein moroedd a’n glannau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Ein gweledigaeth yw sicrhau moroedd glân, iach, diogel, biolegol amrywiol a chynhyrchiol. Mae Cymru’n cynnig nifer o gyfleoedd cyffrous ar gyfer ‘Twf Glas’. Hoffem weld ein busnesau a’n cymunedau arfordirol yn ffynnu o fewn ein gwlad arbennig ac amrywiol.
Gweler y grantiau datblygu sydd ar gael
Newyddion a Tweets