Cyllid a Datblygu Busnes

Cyllid

Gall Llywodraeth Cymru a sefydliadau sy'n bartneriaid ddarparu cymorth amrywiol i unigolion, busnesau a chymunedau sydd â diddordeb buddsoddi mewn gweithgareddau morol a physgodfeydd yng Nghymru.

Rydym yn cynnig cymorth amrywiol o gymorth grant i ddatblygu masnach a busnes. Mae Cymru yn lleoliad delfrydol i fuddsoddi, gyda chefnogaeth i ddatblygu eich busnes a'ch syniadau.

Cynllun Grant Rheoli Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig

Mae ein moroedd yn gartref i rai o'r cynefinoedd a'r bywyd gwyllt mwyaf amrywiol yn Ewrop.

Rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein moroedd:

  • lân
  • iach
  • diogel
  • cynhyrchiol, a
  • bioamrywiol

Mae Ardaloedd Morol Gwarchodedig (MPA) yn ffordd bwysig o warchod rhywogaethau a chynefinoedd. Maen nhw hefyd yn ein helpu i sicrhau Statws Amgylcheddol Da i'n dyfroedd, trwy Strategaeth Forol y DU.

Rydym yn cydweithio â sefydliadau a mudiadau i helpu Cymru i sicrhau bod ganddi rwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig sy'n cael eu rheoli'n dda. Mae ein Cynllun Grant Rheoli'r Rhwydwaith yn ein helpu yn hyn o beth.

Mae pob Awdurdod Rheoli, corff â diddordeb a mudiad trydydd sector yng Nghymru yn cael gwneud cais i Gynllun Grant Rheoli'r Rhwydwaith.

Mae'r cynllun yn cwmpasu prosiectau refeniw sy'n sicrhau manteision neu welliannau i rwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru neu'n ein helpu i ddeall yn well sut mae eu rheoli. 

Mae'r cynllun ar agor o 5 Mai i 30 Mehefin 2025.

Gallwch ddod o hyd i Gynllun Grant Rheoli Rhwydwaith Ardaloedd Gwarchodedig: canllawiau (ar llyw.Cymru)

Mae'r ffurflen i wneud cais i Gynllun Grant Rheoli Rhwydwaith Ardaloedd Gwarchodedig ar gael ar llyw.Cymru.

Cyllid arall

Mae'n bosibl derbyn rhagor o wybodaeth am gyllid busnes a chymorth grant drwy'r dolenni canlynol:

Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru

Cronfa'r Môr a Physgodfeydd Ewrop

Cronfa Cymunedau'r Arfordir

Cynllun Datblygu Gwledig Cymru

Banc Datblygu Cymru

Ardal Canfod Cyllid


Datblygu a Chysylltu â Busnesau

Boed yn chwilio am gymorth i hyrwyddo eich cynnyrch neu eich busnes, neu i gael mynediad at wybodaeth am y farchnad, mae Llywodraeth Cymru yn rhoi amrywiol gymorth drwy amrywiol ddulliau. Mae'r dolenni canlynol yn rhoi gwybodaeth am y prif ddulliau o roi cymorth:

Cymorth sy'n gysylltiedig â physgodfeydd

Prynu bwyd môr yng Nghymru

Pysgod Môr Cymru 

Arloesi gyda bwyd môr a datblygu cynnyrch

Cymorth a Chyngor Cyffredinol ar gyfer Busnesau

Syniadau ac Arloesi gyda Busnesau

Mewnfuddsoddi

Ynni'r Môr

Ardaloedd Menter