Ardaloedd Morol Gwarchodedig
Mae moroedd Cymru yn bwysig inni ac mae ynddynt rai o'r rhywogaethau bywyd gwyllt a'r cynefinoedd mwyaf amrywiol a deinamig yn Ewrop.
Mae ein moroedd yn gartref i amrywiaeth o fywyd morol, gan gynnwys dolffiniaid a morloi, riffiau creigiog a gwelyau morwellt. Mae’r môr ynghlwm wrth ddiwylliant Cymru, ac mae llawer o bobl yn ei ddefnyddio ar gyfer eu gwaith a’u llesiant bob blwyddyn. Mae’n bwysig bod y gweithgareddau hyn yn cael eu cynnal mewn amgylchedd morol cynaliadwy.
Yng Nghymru mae gennym rwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig. Mae’r rheini yn cynnig lefel o amddiffyniad ar gyfer cynefinoedd a rhywogaethau penodol.
Mae gan Gymru 139 Ardal Forol Warchodedig, sy’n cynnwys 69% o’n dyfroedd y glannau (hyd at 12 milltir forol). Mae sawl math o Ardal Forol Warchodedig yn cael eu defnyddio yng Nghymru, sy’n cynnig gwahanol lefelau o amddiffyniad.
Mae rhai enghreifftiau’n cynnwys:
Mae map rhyngweithiol y Cyd-bwyllgor Cadwraeth Natur yn dangos ein rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig.
Mae rhagor o wybodaeth am Ardaloedd Morol Gwarchodedig a’r ffordd maent yn cael eu rheoli ar gov.wales.