Partneriaeth Moroedd Glân Cymru

Mae Partneriaeth Moroedd Glân Cymru yn arwain ar fynd i’r afael â sbwriel morol.   

Mae’r Bartneriaeth yn grŵp o randdeiliad.  Mae’n falch o fod yn rhan o Ymgyrch Moroedd Glân y Cenheddloedd Unedig. Mae partneriaid yn cydlynu ar draws cymunedau, busnesau a’r sector cyhoeddus. 

Mae gwaith y Bartneriaeth yn rhan o’n cyfraniad cenedlaethol tuag at gyflawni Nod 14 Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig: 

“cadw a defnyddio ein cefnforoedd, ein moroedd a’n hadnoddau morol mewn modd cynaliadwy sy’n trawsnewidd arferion, safonau a pholisïau ledled y byd i leihau sbwriel morol a’r niwed y mae’n ei achosi.”   

Mae’r bartneriaeth yn cyflawni Cynllun Gweithredu Sbwriel Morol Cymru

Mae mynd i’r afael â sbwriel morol yn her fyd-eang.  Rydym yn credu bod Cymru yn ddigon bychan i wneud i hyn ddigwydd, ac eto yn ddigon mawr i wneud gwahaniaeth. 

 

Rhestr o bartneriaid (06/03/2020)

 

Mentrau partneriaid, sy'n arloesol ac yn dangos arfer da.

Dolenni cysylltiedig

Partneriaeth Moroedd Glân Cymru: cynnydd

Sbwriel morol

Sbwriel morol: beth y gallwch ei wneud