1. Gwybodaeth am Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru (CMCC)

Mae ein moroedd yn asedau naturiol anhygoel ac yn rhan annatod o'n hanes, ein heconomi a'n ffordd o fyw. Cafodd CMCC ei fabwysiadu ym mis Tachwedd 2019. Mae'n amlinellu gweledigaeth hirdymor ar gyfer datblygu ein moroedd yn gynaliadwy. 
 

Mae Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir yn darparu sylfaen statudol ar gyfer y gyfundrefn seiliedig ar gynllun i reoli dyfroedd arfordirol yn y Deyrnas Unedig. Fe wnaeth pob un o bedair gweinyddiaeth Datganiad Polisi Morol y DU fabwysiadu'r drefn cynllunio morol ym mis Mawrth 2011. Mae'r Datganiad Polisi Morol yn darparu cyd-destun polisi lefel uchel ar gyfer datblygu Cynlluniau Morol:

 

  • mae'n amlinellu fframwaith ar gyfer:
    • paratoi Cynlluniau Morol
    • gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar yr amgylchedd morol
  • mae'n cynnwys gweledigaeth gyffredin y DU o gael 'cefnforoedd a moroedd glân, iach, diogel, cynhyrchiol a bioamrywiol’
  • bydd yn sicrhau cysondeb priodol yn y maes cynllunio morol ledled ardal forol y D

2. Ardal y Cynllun Morol

 

Mae ardal y cynllun morol o amgylch Cymru yn cwmpasu 32,000 km² o fôr, ac arfordir 2,120 km o hyd. Mae'r cyfrifoldeb am reoli gweithgareddau yn nyfroedd Cymru yn cael ei rannu rhwng:

  • swyddogaethau datganoledig (gyda Gweinidogion Cymru yn gweithredu fel awdurdod y cynllun morol), a
  • swyddogaethau a ddargedwir (gyda Llywodraeth y DU yn gweithredu fel yr awdurdod)

Welsh National Marine Plan Area map

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dogfennau perthnasol

Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 - Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 (legislation.gov.uk)

Datganiad Polisi Morol - UK marine policy statement - GOV.UK (www.gov.uk)

Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru https://www.llyw.cymru/cynllun-morol-cenedlaethol-cymru

Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru: trosolwg Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru: trosolwg | LLYW.CYMRU

Animeiddiad yn esbonio'r broses cynllunio morol Cynllunio Morol yng Nghymru - YouTube

Gweminar Trosolwg o Gynllunio Morol yng Nghymru 1. Trosolwg o Gynllunio Morol yng Nghymru a Chynllun Morol Cenedlaethol Cymru - YouTube

 

3. Gweledigaeth, amcanion a pholisïau cyffredinol CMCC

Dyma ein gweledigaeth ar gyfer ardal glannau a môr mawr cynllun morol Cymru:

Mae moroedd Cymru yn lân, yn iach, yn ddiogel, yn gynhyrchiol ac yn fiolegol amrywiol:

  • trwy reoli ar sail ecosystem. Mae adnoddau naturiol yn cael eu rheoli'n gynaliadwy. Mae ein moroedd yn iach ac yn gydnerth ac yn cynnal economi gynaliadwy a ffyniannus
  • trwy sicrhau 
    • mynediad i
    • dealltwriaeth o, a
    • mwynhad o'r amgylchedd morol a threftadaeth ddiwylliannol y môr,

mae iechyd a llesiant yn gwella;

  • trwy Dwf Glas mae mwy o swyddi a chyfoeth yn cael eu creu. Mae hyn yn helpu cymunedau'r arfordir i fod yn fwy 
    • cydnerth
    • ffyniannus, a
    • theg

gyda diwylliant bywiog

  • trwy ddefnyddio technolegau carbon isel yn gyfrifol. Mae ardal forol Cymru yn gwneud cyfraniad cadarn at: 
    • ynni
    • diogelwch, a
    • thargedau allyriadau newid yn yr hinsawdd

Bydd y weledigaeth yn cael ei gwireddu drwy 13 amcan y Cynllun.

Gallwch ddod o hyd i Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru: gweledigaeth, amcanion a pholisïau (cyfeiriad cyflym) (ar llyw.cymru).

4. Polisïau Trawsbynciol Cyffredinol y Cynllun

Mae CMCC yn cynnwys 25 o bolisïau cyffredinol a pholisïau sectorau y mae'n rhaid eu hystyried wrth wneud pob penderfyniad perthnasol. Mae'r nodau cyffredinol yn cefnogi datblygiad cynaliadwy ardal forol Cymru. Maent yn cyfrannu at y saith nod llesiant a amlinellir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae polisïau cyffredinol yn ymdrin â sawl maes, gan gynnwys:

  • twf economaidd cynaliadwy
  • cydfodolaeth
  • mynediad
  • y Gymraeg
  • llifogydd
  • cydnerthedd
  • sbwriel morol
  • ansawdd dŵr 

Mae rhagor o fanylion ar gael am y 25 polisi cyffredinol. Ewch i Gynllun Morol Cenedlaethol Cymru: gweledigaeth, amcanion a pholisïau (cyfeiriad cyflym) (ar llyw.cymru).

Mae rhagor o wybodaeth am y polisïau sectorau ar gael yma

5. Polisïau sectorau

Mae rhagor o wybodaeth am y polisïau sectorau ar gael yma

Mae’r polisïau sectorau wedi'u hamlinellu ar gyfer y mathau amrywiol o weithgarwch sy'n digwydd yn ein moroedd

Mae gan y rhan fwyaf o sectorau:

  • bolisïau cefnogi i hyrwyddo twf cynaliadwy:
    • trwy gefnogaeth gyffredinol, neu
    • mewn ardaloedd sydd â photensial da ar gyfer gweithgareddau yn y dyfodol
  • polisïau diogelu i helpu i sicrhau bod pob sector:
    • yn ystyried anghenion ei gilydd
    • yn osgoi peryglu ardaloedd pwysig ac yn hybu cydfodolaeth

Mae SAF-01a yn bolisïau sy'n seiliedig ar awdurdodiad.

Mae SAF-01b yn bolisïau sy'n seiliedig ar weithgareddau.

Mae rhagor o fanylion am bob sector wedi'u cynnwys ym mhob un o'r adrannau.

Trosolwg o gynnwys Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru - YouTube

Cynnwys technegol Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru - YouTube

 

 

6. Rhoi'r Cynllun Morol ar waith

Rolau a chyfrifoldebau

Gweinidogion Cymru yw awdurdod y cynllun morol. Maent yn gyfrifol am lunio polisi a pharatoi cynlluniau morol yng Nghymru. Mae eu rôl yn cynnwys:

  • creu cynlluniau morol a'u hadolygu
  • goruchwylio'r broses o roi cynlluniau morol ar waith
  • monitro ac adrodd ar effeithiolrwydd cynllunio morol

Mae datblygwyr yn gyfrifol am sicrhau bod eu cynigion yn cydymffurfio â'r cynllun hwn. Mae eu rôl yn cynnwys:

  • ymgysylltu'n gynnar â rhanddeiliaid perthnasol
  • ystyried y cynllun yn gynnar wrth ddatblygu prosiect
  • defnyddio polisïau'r cynllun i lunio cynigion
  • darparu gwybodaeth sydd ei hangen er mwyn i'r awdurdod cyhoeddus perthnasol asesu cynigion
  • casglu a rhannu tystiolaeth lle bo hynny'n briodol

Mae awdurdodau cyhoeddus yn gyfrifol am asesu a yw cynigion yn cydymffurfio â'r cynllun. Mae eu rôl yn cynnwys:

  • hyrwyddo ymgysylltiad cynnar rhwng rhanddeiliaid
  • gwneud penderfyniadau awdurdodi neu orfodi sy'n cydymffurfio â'r cynllun, neu
  • gyhoeddi rhesymau os nad yw unrhyw benderfyniad yn cydymffurfio â'r cynllun
  • rhoi ystyriaeth ffafriol i gynigion sy'n cyfrannu at weledigaeth ac amcanion y cynllun
  • sicrhau bod tystiolaeth a chanllawiau perthnasol ar gael i helpu i roi'r cynllun ar waith

7. Adnoddau sydd ar gael i helpu i roi'r cynllun ar waith

Rydym wedi cynhyrchu llawer o adnoddau i helpu i roi'r cynllun ar waith. Mae'r adnoddau hyn yn gallu helpu datblygwyr ac awdurdodau cyhoeddus i asesu a yw'r cynigion yn cydymffurfio â CMCC.

8. Canllawiau gweithredu

Rydym wedi datblygu canllawiau gweithredu. Mae angen darllen y canllawiau hyn ochr yn ochr â CMCC. Maent yn cynnwys mwy o fanylion am bolisïau CMCC er mwyn sicrhau eu bod yn cael eu rhoi ar waith:

  • yn effeithiol, ac
  • yn gyson

Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru: canllawiau gweithredu (ar llyw,cymru)

Sut i gymhwyso Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru (ar YouTube)

9. Porthol Cynllunio Morol Cymru

Mae porthol cynllunio morol Cymru yn galluogi unrhyw un i weld mapiau ar-lein. Mae'r mapiau’n dangos dosbarthiad gweithgareddau pobl ac adnoddau naturiol ym moroedd Cymru. Mae'r porthol yn adnodd cynllunio rhyngweithiol. Bwriad y porthol yw cefnogi'r broses cynllunio morol drwy:

  • godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o'r data morol sydd ar gael
  • darparu dealltwriaeth o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer cynllunio morol sydd ar gael ar hyn o bryd
  • rhoi cyfle i bartïon â diddordeb wneud sylwadau ar: 
    • y sylfaen dystiolaeth, ac
    • anghenion tystiolaeth ofodol eraill

Wrth i'r sylfaen dystiolaeth ddatblygu, byddwn:

  • yn ychwanegu haenau newydd, ac
  • yn diweddaru haenau data presennol

Fideo gwybodaeth am Borth Cynllunio Morol Cymru (ar YouTube)

Porthol Cynllunio Morol Cymru (ar llyw.cymru)

10. Cynllunio morol a chynllunio ar y tir

Bydd yr adnoddau canlynol yn eich hysbysu:

  • pryd, a
  • sut

y dylech ystyried CMCC mewn gwaith cynllunio ar y tir.

Cynllunio y môr a'r tir: ffeithlun (ar llyw.cymru)

Ystyried cynlluniau morol o fewn caniatadau cynllunio ar y tir: ffeithlun (ar llyw.cymru)

11. Datganiadau technegol

Mae Datganiadau Technegol Cynllunio Morol wedi'u datblygu ar gyfer y sectorau isod. Diben y dogfennau hyn yw

  • galluogi defnyddwyr y cynllun morol i ddeall meysydd sy'n bwysig i weithgarwch mewn sectorau penodol
  • darparu canllawiau ar weithredu polisi diogelu Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru ar gyfer y sectorau hyn

Datganiad technegol cynllunio morol: polisi diogelu ar gyfer cychod hamdden (ar llyw.cymru)

https://www.llyw.cymru/datganiad-technegol-cynllunio-morol-polisi-diogelu-ar-gyfer-porthladdoedd-morgludo

https://www.llyw.cymru/datganiad-technegol-cynllunio-morol-polisi-diogelu-ar-gyfer-ceblau-tanfor

12. Canllawiau lleoliadol ar gyfer sectorau

Rydym wedi datblygu canllawiau lleoliadol sectorau ar gyfer ynni ffrwd lanw, ynni’r tonnau a dyframaethu. Mae'r adroddiadau’n darparu tystiolaeth, dadansoddiad a data gofodol yn ymwneud â datblygiadau ar gyfer y sectorau hyn. Mae data gofodol ar gael drwy Borthol Cynllunio Cymru.

Canllawiau lleoliadol ar gyfer sectorau: ynni ffrwd lanw (ar llyw.cymru)

Canllawiau lleoliadol ar gyfer sectorau: ynni'r tonnau (ar llyw.cymru)

Canllawiau lleoliadol ar gyfer sectorau: dyframaethu (ar llyw.cymru)