Mae tri chwarter o fflyd pysgota gweithredol ar raddfa fach y DU wedi cofrestru â’r Gwasanaeth hyd yma ac mae dros 5,000 o ddalfeydd eisoes wedi’u cofnodi.

Gallwch ddefnyddio’r ap (a ddatblygwyd ar gyfer dyfeisiau Apple ac Android), ynghyd â fersiwn ar gyfer y we, ar ffôn symudol, llechen neu gyfrifiadur. 

Mae’r ap yn eich galluogi i gofnodi data hyd yn oed pan fydd y gwasanaeth oddi ar-lein. Caiff yr wybodaeth ei storio ac yna ei hanfon yn awtomatig pan fydd signal. 

I’r bobl sy’n dymuno cyflwyno manylion eu dalfa dros y ffôn mae canolfan gyswllt ar gael o 9am hyd 5pm, o ddydd Llun hyd ddydd Gwener. Ar adegau eraill bydd gwasanaeth wedi’i awtomeiddio ar gael a fydd yn galluogi pysgotwyr i gyflwyno manylion eu dalfeydd. 

Rhif ffôn y ganolfan gyswllt yw 0300 0203 788 (nid yw galwadau i rifau 03 yn costio mwy na galwad ar raddfa genedlaethol i rif 01 neu 02 ac mae’n rhaid iddynt gael eu cynnwys tuag at unrhyw funudau cynhwysol yn yr un modd â galwadau 01 a 02). 
I gael rhagor o wybodaeth am fanteision cofnodi manylion dalfeydd a chanlyniad yr ymgynghoriad diweddar ewch i wefan Defra

I wybod mwy ewch i wefan Gov.UK

Canllawiau Ychwanegol

Cofnodion Dalfeydd o Rywogaethau dan Gwota 

Mae pysgotwyr yng Nghymru wedi mynegi pryderon mewn perthynas â chofnodi dalfeydd o rywogaethau dan gwota cyn glanio. O’r herwydd mae Llywodraeth Cymru wedi estyn yr amserlen ar gyfer cofnodi manylion rhywogaethau dan gwota i 24 awr, sy’n cyfateb i’r amserlen ar gyfer rhywogaethau nad ydynt dan gwota.  

Glanio Pysgod Cregyn i Botiau Storio

Os byddwch yn cwblhau taith bysgota lle byddwch yn glanio’n uniongyrchol i bot sgorio, dylech gwblhau a chyflwyno’r cofnod o’r ddalfa gan nodi’r hyn yr ydych wedi’i roi yn y pot storio. Mae gan y gwasanaeth cofnodi dalfeydd adran ar gyfer cofnodi’r pysgod cregyn sydd wedi’u rhoi mewn potiau storio.

Nid oes yn rhaid i chi gwblhau cofnod ar wahân o’r ddalfa pan fyddwch yn gwagio’r pot storio. 
 

 

 

Rhannwch y dudalen hon

Argraffwch y dudalen