Yn sgil hynny, bydd yn drosedd gweithgynhyrchu neu ddarparu unrhyw gynhyrchion gofal personol i'w rinsio i ffwrdd sy'n cynnwys microbelenni plastig. Mae microbelenni yn ronynnau plastig soled sy'n 5mm o ran maint ac nid ydynt yn toddi mewn dŵr. Maent hefyd yn rhy fach i gael eu hidlo allan mewn systemau trin carthion. Mae rhyw 680 o dunelli o ficrobelenni plastig yn cael eu defnyddio mewn cynhyrchion gofal personol yn y DU bob blwyddyn ac...