Barod i allforio? Rydyn ni yma i helpu

Rydym yn cefnogi cannoedd o fusnesau bob blwyddyn gyda'u taith allforio, trwy helpu i ddod o hyd i farchnadoedd newydd, nodi cyfleoedd newydd a goresgyn rhwystrau logistaidd a rheoleiddiol.

Ydych chi’n gwerthu cynnyrch a gwasanaethau o ansawdd ac yn awyddus i ehangu eich busnes? Os ydych chi’n newydd i allforio, neu os ydych chi’n allforio eisoes, rydyn ni yma i’ch cynorthwyo i ddod o hyd i gwsmeriaid newydd mewn marchnadoedd newydd.

Mae mynd â’ch busnes i farchnadoedd rhyngwladol yn agor drysau newydd, ond gall y broses fod yn heriol hefyd. Mae ein gwasanaethau sydd wedi’u teilwra yn gwneud allforio’n haws, a byddwn yn eich arwain bob cam o’r ffordd.


Astudiaethau achos

Fe wnaeth ein hymchwil marchnad manwl arbed amser ac adnoddau gwerthfawr i Frontier Medical Group

Gwyddorau Bywyd

Manteisiodd Dulas ar ein gweithdai a’n hyfforddiant, a bellach mae staff cymwys yno yn delio â’u hallforion.

Ynni Glân, Ynni Adnewyddadwy a Gwyddorau Bywyd

Sicrhaodd Finalrentals gyfleoedd allforio gyda’n cefnogaeth. Mae’n cyngor allforio wedi’i deilwra yn golygu na fydd yn rhaid ichi dreulio cymaint o amser yn ymchwilio.

Fintech

Profiad o lwyddiant

Mae Rhaglen Allforio Llywodraeth Cymru wedi cefnogi cannoedd o fusnesau i wneud gwerthiannau Allforio gwerth £100miliwn a mwy.

Wyddoch chi? O ganlyniad i’n cymorth ar gyfer teithiau masnach, mae Helix Operations wedi sicrhau pum cytundeb newydd dros sawl blwyddyn gyda thair gwlad Ewropeaidd, sydd â gwerth cyfunol o €13miliwn. Mae allforion bellach yn cyfrif am 65% o refeniw’r cwmni, a defnyddir cynnyrch y cwmni mewn 51 o wledydd gan gynnwys yr Almaen, Norwy, Ffrainc, Latfia, yr Iseldiroedd, Colombia a ledled UDA ac Awstralia.


Astudiaethau achos

Mae ein hastudiaethau achos a straeon cleientiaid yn dangos ein hymroddiad i helpu busnesau o bob maint i dyfu'n fyd-eang.

Dylunio, Arloesi a Gwasanaethau Creadigol

Gweithgynhyrchu

Dylunio a Gweithgynhyrchu

Gweithgynhyrchu

Allforio o Gymru i’r Byd

Sut i gael Mynediad at Gymorth

  • Cysylltwch â ni: Defnyddiwch ein ffurflen ar-lein neu ffoniwch Linell Gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 i drafod eich amcanion. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
  • Digwyddiadau: Ymunwch â’n gweithdai, ein gweminarau a’n teithiau masnach er mwyn rhoi hwb i’ch profiad ac i rwydweithio.
Lanwythwch eich llyfryn allforio

Llinell Gymorth Busnes Cymru

03000 6 03000

Mae'r llinellau ar agor rhwng 10yb a 4yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Rydym yn croesawu galwadau'n Gymraeg.