Y Gweilch yn y Gymuned
Darparu, Ysbrydoli, Galluogi, Ysgogi
Ein prif nod yw defnyddio pŵer chwaraeon a brand y Gweilch i alluogi pobl o fewn ardal y Gweilch i wneud dewisiadau cadarnhaol yn eu bywydau
-
Rydyn ni eisiau chwarae rhan bwysig wrth wella bywydau pobl, beth bynnag yw eu hoedran, gallu neu rywedd
-
20,000 o fuddiolwyr wedi eu targedu bob blwyddyn
-
4 Thema Strategol: Addysg, iechyd, Chwaraeon a Chynhwysiant
-
Ein pwrpas cymdeithasol yw creu swyddi ac ystod o gyfleoedd gwirfoddoli sy’n gwneud gwahaniaeth o fewn cymunedau trwy alluogi pobl i wella sgiliau fel hunanhyder ac arweinyddiaeth
"Mae Busnes Cymdeithasol Cymru wedi bod yn gefnogol dros ben wrth alluogi fy sefydliad i dyfu ein swyddogaethau busnes a sicrhau bod gennym yr holl bolisïau a gweithdrefnau perthnasol ar waith. Mae'r gallu i fanteisio ar gyngor a chymorth mentora sefydliad annibynnol wedi bod yn amhrisiadwy ar adegau ansicr".
Paul Wapham, Rheolwr y Sefydliad
Ein meddylfryd ni yw bod busnesau cymdeithasol sydd ag amcanion cymdeithasol yn haeddu mwy o gefnogaeth gan gymunedau a chwsmeriaid lleol na busnesau sydd â’r brif swyddogaeth o wneud arian
I gael mwy o wybodaeth am ein cymorth teilwredig, rhad ac am ddim, ffoniwch 03000 6 03000 a gofynnwch am Fusnes Cymdeithasol Cymru. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.