Theatr Soar

Cyfoethogi bywydau ym Merthyr trwy’r celfyddydau

Yn dilyn llwyddiant heb ei debyg y prosiect adnewyddu capel, daeth Canolfan Soar yn gwmni cyfyngedig trwy warant ac fe’i hail-agorwyd yn 2011 gyda Theatr flaenllaw Soar. Mae prif incwm y ganolfan yn dod o sesiynau grwpiau theatr a dawns, gwersi cerddoriaeth a grwpiau cymunedol â diddordeb mewn archwilio’r iaith Gymraeg a diwylliant lleol.

“Mae Canolfan Cydweithredol Cymru wedi ein helpu ni gydag ochr ariannol pethau ac wedi ein helpu ni i ailstrwythuro’r sefydliad ar gyfer twf. Rhaid i ni ddiolch iddyn nhw i gyd a’n holl fuddsoddwyr am wneud y prosiect trawsffurfio hwn yn bosibl, a sicrhau y bydd yr adnodd arbennig hwn ar gael i bobl Merthyr am flynyddoedd i ddod.”

Lisbeth McLean, Canolfan Soar

People at theatre

 


Os yw busnes cymdeithasol o’r farn ei fod wedi datblygu model busnes sy’n haeddu cael ei ddyblygu, efallai y gall helpu eraill i gyflwyno budd cymdeithasol ac felly cynyddu ei effaith gymdeithasol yn fawr iawn. Mae gan Busnes Cymdeithasol Cymru arbenigwyr mewn rhyddfreinio cymdeithasol a all helpu i wneud hyn yn realiti.

I gael mwy o wybodaeth am ein cymorth teilwredig, rhad ac am ddim, ffoniwch 03000 6 03000 a gofynnwch am Fusnes Cymdeithasol Cymru