Tafarn a Bwyty Tyn-Y-Capel
Busnes y mae’r gymuned yn berchen arno
- Mae dros 100 o bobl wedi prynu cyfranddaliadau cymunedol yn y fenter
-
Cynnydd o 40% mewn refeniw yn dilyn cyflogi rheolwr amser llawn
Mae Tyn-Y-Capel yn rhedeg cynllun cyfranddalwyr cymunedol. Mae’n gweithredu strwythur democrataidd, ac mae gan bob cyfranddaliwr bleidlais ar sut caiff y cwmni ei redeg.Ers 2012, mae’r fenter, yn y Mwynglawdd, Wrecsam, wedi symud o fod yn un a oedd yn cael ei chydlynu a’i rhedeg yn bennaf gan wirfoddolwyr i fod yn gyflogwr â thâl. Mae’r cwmni bellach yn cyflogi wyth o staff craidd a 20 staff achlysurol, ac mae pob un ohonynt yn byw o fewn 2 filltir i’r dafarn. Dyfarnwyd y wobr fawreddog Tystysgrif Rhagoriaeth y Trip Advisor iddi yn 2015.
“Mae cymorth Busnes Cymdeithasol Cymru wedi bod yn hanfodol i Dafarn a Bwyty Tyn-y-Capel. Yn benodol, prynu cyfranddaliadau ffafriol i gynorthwyo â chostau sefydlu, benthyciad yn y 12 mis diwethaf i gynorthwyo a datblygu’r busnes, a mentora a chyngor gwerthfawr swyddogion y ganolfan, yn enwedig o ran adnoddau dynol.”
John Rosier, Tafarn a Bwyty Tyn-y-Capel
Mae cyfranddaliadau cymunedol yn ffordd arloesol i gymunedau gymryd perchnogaeth dros wasanaethau ac asedau lleol, a thrawsffurfio’r ffordd y cânt eu darparu. Mae gan Busnes Cymdeithasol Cymru arbenigwyr mewn sefydlu cynlluniau cyfranddalwyr cymunedol.
I gael mwy o wybodaeth am ein cymorth teilwredig, rhad ac am ddim, ffoniwch 03000 6 03000 a gofynnwch am Fusnes Cymdeithasol Cymru