Yn rhan o’r broses gychwyn, bydd angen i chi greu strwythur cyfreithiol newydd ar gyfer eich busnes cymdeithasol.
Mae strwythur busnes sefydliad yn gategori cyfreithiol sy’n diffinio sut mae eich cwmni’n cael ei gydnabod gan yr awdurdodau cyfreithiol. Gall hyn gael effaith tymor hir ar y ffordd rydych yn cynnal eich busnes, felly mae’n hollbwysig ei gael yn iawn.
Strwythur cyfundrefnol menter gymdeithasol
Mae’n bwysig dewis y strwythur cyfreithiol ar gyfer eich busnes cyn i chi ddechrau masnachu, gan ei fod yn effeithio ar nifer o ffactorau, gan gynnwys:
- Cost sefydlu eich busnes cymdeithasol
- Sut y bydd y busnes yn cael ei gynnal wrth symud ymlaen
- Eich trethi a’ch rhwymedigaethau
- Pa mor hir y bydd y busnes yn gweithredu
Yn aml, mae pobl yn ei chael hi’n anodd dewis rhwng yr amryw strwythurau cyfreithiol posibl ac yn methu goresgyn y maen tramgwydd hwn.
Rydym wedi llunio canllaw isod i’r mathau o strwythurau cyfundrefnol ar gyfer mentrau cymdeithasol a sut i ddewis yr un iawn i’ch busnes chi.