SPPOT

Woman and dog

Helpu pobl ac anifeiliaid anwes trwy gyfleoedd a hyfforddiant

Ein cenhadaeth

  • Lleihau arunigedd cymdeithasol yr henoed, pobl anabl a phobl agored i niwed trwy ddarparu gwasanaethau lles a hyfforddi cŵn o ansawdd.
  • Wedi sicrhau £68,000 o gyllid i helpu i hyfforddi mwy o wirfoddolwyr

  • 16 o gerddwyr a gwarchodwyr cŵn gwirfoddol wedi cael eu hyfforddi o fewn blwyddyn

Mae SPPOT yn fenter unigryw yn Sir Benfro, sy’n darparu cyfleoedd hyfforddi achrededig a llwybrau clir i gyflogaeth yn y sector gwirfoddol ar gyfer pobl sydd bellaf i ffwrdd o’r farchnad swyddi. Mae’r grantiau a’r incwm a gynhyrchir o gyrsiau hyfforddi cŵn wedi rhoi llwyfan i SPPOT fod yn gwmni buddiannau cymunedol llwyddiannus a hunangynhaliol.

“Fe wnaeth Busnes Cymdeithasol Cymru ariannu Barry Shires MBE i fod yn fentor busnes i ni. Fe wnaeth ein cynorthwyo i wneud cais am gyllid oddi wrth Sefydliad Rank, ac arweiniodd at grant gwerth £68,000 dros dair blynedd ar gyfer cyllid craidd. Diolch i Busnes Cymdeithasol Cymru, rydym hefyd wedi cael cymorth amhrisiadwy gan Nia Marshall yn Landsker, mewn rheoli gwirfoddolwyr a sefydlu ein contractau cyflogaeth cyntaf.”

Kerri Bee, Rheolwr Gweithrediadau a Datblygu, SPPOT

Woman and 2 dogs

 


Mae gan fenter sy’n cael ei rhedeg yn dda strategaeth tymor canolog i dymor hir, sy’n sicrhau bod ganddi gyfalaf digonol i’w galluogi i ganlyn ei chynllun datblygu busnes. Mae amrywiaeth o ffynonellau cyllid gwahanol ar gael i fusnesau cymdeithasol, o fenthyciadau, cynigion cyfranddaliadau cymunedol a buddsoddiadau cymdeithasol.

I gael mwy o wybodaeth am ein cymorth teilwredig, rhad ac am ddim, ffoniwch 03000 6 03000 a gofynnwch am Fusnes Cymdeithasol Cymru