Rheoli pobl: Cyflogi a rheoli staff
Meysydd o Gyfraith Cyflogaeth y dylid eu hystyried:
Dylid rhoi contract cyflogaeth wedi'i lofnodi i bob cyflogai sy'n nodi telerau ac amodau eu cyflogaeth.
Os bydd sefyllfa cyflogaeth cyflogai yn newid (e.e. newid yn y rôl neu'r oriau gweithio), cofiwch ddiweddaru'r contract cyflogaeth yn unol â hynny drwy gyhoeddi llythyr amrywio contract.
Tâl salwch statudol, neu SSP, yw'r isafswm y mae'n rhaid i chi ei dalu'n gyfreithiol i'ch cyflogeion os ydynt i ffwrdd o'r gwaith oherwydd salwch. Fe'i telir i weithwyr sy’n absennol oherwydd salwch am o leiaf bedwar diwrnod yn olynol.
Canllawiau pellach:
Mae'r rheoliadau hyn yn nodi nifer o hawliau gweithwyr y bydd angen i chi fel cyflogwr eu hystyried.
Mae'n cynnwys:
- Yr hawl i seibiannau yn ystod oriau gwaith
- Uchafswm yr oriau mewn wythnos waith
- Uchafswm yr oriau i weithwyr nos
- Isafswm y seibiannau rhwng sifftiau
- Isafswm y seibiannau wythnosol
- Yr hawl i wyliau â thâl.
Canllawiau pellach:
Mae'r Cyflog Byw Cenedlaethol yn uwch na'r Isafswm Cyflog ac mae'n seiliedig ar gost byw.
Telir y Cyflog Byw Gwirioneddol yn wirfoddol gan dros 6,000 o gyflogwyr yn y DU ac fe'i cyfrifir yn ôl costau byw yn seiliedig ar fasged o nwyddau a gwasanaethau cartref.
Canllawiau pellach:
Cyfraddau Isafswm Cyflog Cenedlaethol a Chyflog Byw Cenedlaethol
Mae'n ofynnol i chi wneud didyniadau o’r gyflogres o gyflog eich cyflogeion. Mae hyn yn cynnwys didyniadau treth (Talu Wrth Ennill ac Yswiriant Gwladol) yn ogystal â didyniadau eraill fel ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr a chyfraniadau pensiwn.
Canllawiau pellach:
Mae gan rieni, a phobl eraill sy'n cyfuno gwaith â gofalu am ddibynyddion, hawliau penodol wedi'u diogelu gan y gyfraith. Mae'r rhain yn cynnwys gwahanol fathau o absenoldeb a'r hawl i gael eu hystyried ar gyfer gweithio hyblyg.
Bydd angen i chi ddatblygu polisïau ynghylch dull eich busnes o ymdrin â rhieni a gofalwyr, absenoldeb mamolaeth, absenoldeb tadolaeth, absenoldeb rhiant, absenoldeb mabwysiadu ac ati.
Bydd yn ofynnol i'ch busnes dalu tâl mamolaeth / tadolaeth statudol.
Canllawiau pellach:
Os bydd angen i chi ddiswyddo staff o'u swyddi, bydd angen i chi ddilyn proses benodol gan gynnwys cyfnod ymgynghori. Bydd yn rhaid talu tâl dileu swydd statudol i staff cymwys. Dylai busnesau sicrhau bod ganddynt ddigon o gronfeydd wrth gefn i dalu tâl dileu swydd os bydd eich busnes cymdeithasol yn cau.
Canllawiau pellach:
Mae rheoliadau penodol yn bodoli ar gyfer gweithgareddau gofal, e.e. gwasanaethau gofal plant a gofal yr henoed sy'n nodi bod yn rhaid i ddarparwyr ddarparu digon o staff cymwys, medrus a phrofiadol sydd â chymwysterau addas i ddiwallu anghenion y bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth. Bydd angen cadw at gymarebau staff i ddefnyddwyr os bydd eich busnes yn gweithio yn y meysydd hyn.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan Arolygiaeth Gofal Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru.
Canllawiau pellach:
Gofynion cyflogwyr:
Unwaith y byddwch yn dechrau cyflogi staff, bydd angen i chi gofrestru fel cyflogwr gyda CThEM.
Canllawiau pellach:
Mae'n ofynnol i chi wneud didyniadau o’r gyflogres o gyflog eich cyflogeion. Mae hyn yn cynnwys didyniadau treth (Talu Wrth Ennill ac Yswiriant Gwladol) yn ogystal â didyniadau eraill fel ad-daliadau benthyciadau myfyrwyr a chyfraniadau pensiwn
Canllawiau pellach:
Gallwch naill ai redeg a rheoli eich system gyflogres eich hun neu is-gontractio i drydydd parti, e.e. eich cyfrifwyr i reoli eich cyflogres ar eich rhan.
Mae CThEM yn gweithredu proses Gwybodaeth Amser Real (RTI) lle caiff manylion tâl a didyniadau cyflogeion eu huwchlwytho'n uniongyrchol o wybodaeth y gyflogres.
Unwaith eto, dylai eich cyfrifwyr allu rhoi cyngor ar sefydlu system gyflogres a'r broses RTI neu ymgymryd â'r gwaith ar eich rhan.
Bydd angen talu didyniadau misol o dâl (Talu Wrth Ennill, Yswiriant Gwladol, didyniadau benthyciadau myfyrwyr ac ati) i CThEM bob mis ac unrhyw ddidyniadau pensiwn i'r darparwr pensiwn perthnasol.
Canllawiau pellach:
Mae angen i'ch busnes fod ag yswiriant digonol gan gynnwys yswiriant atebolrwydd cyhoeddus ac yswiriant atebolrwydd cyflogwyr. Mae'r ail fath yn orfodol os ydych yn cyflogi staff, gweithwyr llawrydd, a gwirfoddolwyr.
Canllawiau pellach:
Mae'r Ddeddf Cydraddoldeb yn sicrhau cysondeb yn yr hyn y mae angen i gyflogwyr a gweithwyr ei wneud i wneud eu gweithleoedd yn amgylchedd teg ac er mwyn cydymffurfio â'r gyfraith. Mae'n amddiffyn pobl rhag gwahaniaethu yn y gweithle.
Canllawiau pellach:
Mae angen i chi amddiffyn pobl sy'n dod i gysylltiad â'ch busnes cymdeithasol rhag cael eu cam-drin mewn unrhyw ffordd. Mae hyn yn berthnasol i'ch staff, eich gwirfoddolwyr a'ch cymuned o ddefnyddwyr.
Bydd angen i chi gael polisïau, prosesau ac adroddiadau diogelu priodol ar waith i reoli hyn.
Mae diogelu yn arbennig o bwysig lle mae eich busnes cymdeithasol yn delio â phlant, pobl ifanc neu oedolion sydd mewn perygl neu'n gweithio mewn sefyllfaoedd bregus.
Mae angen i chi nodi eich dull o amddiffyn pobl rhag niwed gan gynnwys defnyddio gwiriadau'r DBS (y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) lle bo hynny'n briodol.
Canllawiau pellach:
Datblygwch bolisïau a gweithdrefnau AD sy'n gymesur â maint a natur eich busnes, gan nodi eich dull ar gyfer:
- Recriwtio
- Sefydlu
- Cyfnodau Prawf
- Cyflog a Threuliau
- Rhoddion a Lletygarwch
- Diswyddo
- Gweithdrefnau Disgyblu a Chwyno
- Salwch
- Absenoldeb Rhiant
- Diogelu a'r DBS (Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd).
Canllawiau pellach:
Dechreuwch yma:
Rheoli Adnoddau Dynol mewn Busnesau Cymdeithasol
A thyfwch yma:
Yn yr adran hon:
- Sicrhau cydymffurfiaeth: Systemau a chofnodion llywodraethu
- Sicrhau cydymffurfiaeth: Systemau a rheolaethau ariannol - gofynion sefydlu
- Sicrhau cydymffurfiaeth: Systemau a rheolaethau ariannol - gofynion parhaus
- Sicrhau cydymffurfiaeth: Systemau a gweithdrefnau AD
- Sicrhau cydymffurfiaeth: Systemau AD - Sylw ar 'Reoli pobl'
- Sicrhau cydymffurfiaeth: Rheoli asedau ac adnoddau - Sylw ar 'Asedau'