PS Facilities Management

Man cleaning a mirror

Hyrwyddo iechyd meddwl a lles cadarnhaol

  • Nod Gofal Enterprises Ltd yw gweithredu portffolio o fusnesau sy’n gyfrifol yn gymdeithasol, sy’n cynhyrchu elw ar gyfer ail-fuddsoddi yn ei weithgareddau elusennol a chreu cyfleoedd ar gyfer y rheiny sydd bellaf o’r farchnad swyddi.

  • Rhagweld cynnydd o 150% mewn refeniw ym mlwyddyn ariannol 2015/16

  • Ar y llwybr cywir i gyflwyno gwerth £750,000 o wasanaethau erbyn diwedd Mawrth 2016

Mae PS Facilities Management yng Nghaerdydd yn gwmni glanhau a chynnal a chadw eiddo masnachol arobryn, y mae ei gwsmeriaid, ei staff a’r cymunedau lle mae’n gweithio o’r pwys mwyaf iddo. Yr elusen, Gofal, sy’n berchen arno, a gweledigaeth y cwmni yw bod yn fusnes cymdeithasol arweiniol, gan arwain y ffordd mewn rheoli cyfleusterau.

“Mae’r cymorth a ddarparwyd gan Busnes Cymdeithasol Cymru wedi cynorthwyo PS Facilities Management i ddatblygu strategaeth gwerthiant gliriach yn ogystal â dadansoddi cystadleuwyr y farchnad. Mae’r ganolfan hefyd wedi ein cynorthwyo gyda’n cynlluniau arallgyfeirio ar gyfer y dyfodol.”

Matthew Cole, Rheolwr Gyfarwyddwr, PS Facilities Management

Man cleaning a mirror

 


I gynorthwyo strategaeth ehangu, mae gan fusnesau cymdeithasol yr opsiwn i sefydlu cwmnïau cangen ac is-gyrff annibynnol. Mae gan dîm Busnes Cymdeithasol Cymru brofiad helaeth mewn helpu i ddatblygu is-gyrff masnachu.

I gael mwy o wybodaeth am ein cymorth teilwredig, rhad ac am ddim, ffoniwch 03000 6 03000 a gofynnwch am Fusnes Cymdeithasol Cymru