Prosiect Down to Earth

Hi-vis with Down to Earth project logo on back

Hyfforddiant cynaliadwyedd ymarferol

  • dros 200 o fuddiolwyr y flwyddyn ar draws y prosiect
  • uwchsgilio 500 o bobl y flwyddyn o gefndiroedd dan anfantais

Mae Down to Earth wedi bod yn cyflwyno rhaglenni hyfforddi a datblygu ers 10 mlynedd ac mae’n ennill enw da’n gyflym fel enghraifft o arfer gorau am weithio gyda phobl sy’n byw mewn amgylchiadau heriol, trwy natur, adeiladu cynaliadwy a’r awyr agored. Ar hyn o bryd, mae’n gweithio ar adeiladu ail safle yng Ngŵyr i helpu gyda’i ehangiad. Mae Down to Earth yn bwriadu datblygu rhaglen newydd ar gyfer sefydliadau masnachol yng Nghymru trwy gynnig hyfforddiant, cynadledda a dysgu profiadol unigryw.

“Mae Busnes Cymdeithasol Cymru wedi bod yn amhrisiadwy yn darparu cymorth ymgynghorol/cyfreithiol pan oedd ei angen arnom - ar fyr rybudd ac ar gyfer datblygu strategol. Heb eu cymorth, byddem wedi’i chael hi’n anodd cyflwyno un o’n prif geisiadau am grant, a arweiniodd at ganlyniad cadarnhaol.”

Mark McKenna, Cyd-sefydlydd/Cyfarwyddwr, Prosiect Down to Earth

Man working in mud and rock area

 


Mae arallgyfeirio yn cynnwys chwilio am gyfleoedd newydd y tu allan i gynhyrchion a chwsmeriaid presennol. Mae’n anoddach na’r opsiwn ‘mwy o’r un peth’, gan ei fod yn cynnwys datblygu a chyflwyno cynhyrchion a gwasanaethau y tu allan i’r ‘cylch cyfforddus’ presennol.                                                                                  

I gael mwy o wybodaeth am ein cymorth teilwredig, rhad ac am ddim, ffoniwch 03000 6 03000 a gofynnwch am Fusnes Cymdeithasol Cymru. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.