Partneriaeth Parc Caia Cyf

Man crafting a stool out of wood

Curiad calon y gymuned

Mae'r holl ficrofusnesau sy'n cael eu cyflwyno gan ein braich fasnachol (Mentrau Cymuned Wrecsam) - gan gynnwys meithrinfa gofal dydd, ffreutur, gwasanaeth ailgylchu, siop grefftau, Pryd ar Glud, llogi ystafell ar gyfer digwyddiadau - yn gwbl hunangynhaliol

  • Mae unrhyw elw a wneir yn cael ei fuddsoddi mewn digwyddiadau elusennol sy’n fuddiol I Barc Caia a Wrecsam

  • 2015 Y flwyddyn yr agorwyd ein ffreutur, a greodd 5 o swyddi

  • 67 Nifer y plant yr ydym yn darparu ar eu cyfer ym Meithrinfa Sparkles

  • O ganlyniad i’r cymorth a dderbyniom gan Fusnes Cymdeithasol Cymru, rydym wedi datblygu fframwaith rhagolygon ariannol cynhwysfawr, sy’n ein helpu i gynllunio ar gyfer y dyfodol yn fwy effeithiol

"Mae Busnes Cymdeithasol Cymru wedi rhoi anogaeth, cefnogaeth, cyngor a chymorth ymarferol i ni o'r cychwyn cyntaf. Pan oeddem yn barod i ehangu ein gweithgareddau masnachu, cawsom gymorth ganddo i wneud hynny. Mae'n dda gwybod ei fod yno i droi ato os bydd arnom ei angen".

Alison Hill, Uwch-swyddog

 

Group of elderly people in a room

 

 

 

 


Byddwch yn rhan o’r chwyldro. Os ydych yn ddeinamig, yn uchelgeisiol ac ag ysbryd busnes, cysylltwch â Busnes Cymdeithasol Cymru, a fydd yn rhoi’r cyngor a’r adnoddau angenrheidiol i chi dyfu eich busnes a herio’r byd.

I gael mwy o wybodaeth am ein cymorth teilwredig, rhad ac am ddim, ffoniwch 03000 6 03000 a gofynnwch am Fusnes Cymdeithasol Cymru.