Partneriaeth Fern

Children in nursery

Helpu cymunedau i Ddechrau'n Deg

Ers 2014, Mae Partneriaeth Fern wedi mynd o nerth i nerth ac wedi cyflawni llawer mwy na’i fwriad o agor dau gyfleuster crèche sy’n codi ffi mewn ardaloedd sy’n cael eu heffeithio gan amddifadedd cymdeithasol.

  • £85,000 y swm rydym wedi ei sicrhau mewn cyllid i gynorthwyo ein mentrau cymunedol

  • 7 y swyddi a grëwyd y llynedd gyda chymorth Busnes Cymdeithasol Cymru

  • Rydym yn angerddol dros adeiladu partneriaethau

  • Ein nod yw darparu gofal plant fforddiadwy o safon uchel i deuluoedd

“Trwy gymorth Busnes Cymdeithasol Cymru, mae'r broses o ehangu a datblygu The Fern Partnership wedi bod yn un lwyddiannus a chadarnhaol! Mae'r berthynas broffesiynol ond cyfeillgar y mae ein Swyddogion Datblygu Busnes yn ei chynnig wedi bod heb ei hail, ac rydym yn ffodus iawn o gael eu cefnogaeth barhaus. Awgrymodd Eleanor Roosevelt y dylech wneud 'un peth bob dydd sy'n codi ofn arnoch'. Fel tîm, rydym yn gwneud rhywbeth sy'n codi ofn arnom y rhan fwyaf o ddiwrnodau, ond gyda'n gilydd, a chyda chefnogaeth Busnes Cymdeithasol Cymru, mae'r ofnau dyddiol wedi lleihau! Gydag ysfa, brwdfrydedd a phenderfyniad i lwyddo, mae Busnes Cymdeithasol Cymru wedi bod yn amhrisiadwy yn ystod y broses, ac rydym yn hynod ddiolchgar iddo".

Michelle Coburn-Hughes, Sylfaenydd a Chyfarwyddwr Busnes, The Fern Partnership

Children playing in school

 


Mae arallgyfeirio’n golygu chwilio am gyfleoedd newydd y tu allan i’r cynnyrch a’r cwsmeriaid presennol. Yn naturiol, mae’n fwy anodd gan ei fod yn cynnwys datblygu a chyflwyno cynnyrch neu wasanaethau y tu allan i’r man cyfforddus sy’n bodoli eisoes.

I gael mwy o wybodaeth am ein cymorth teilwredig, rhad ac am ddim, ffoniwch 03000 6 03000 a gofynnwch am Fusnes Cymdeithasol Cymru. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg.