Hope Rescue

Cŵn wedi’u hachub yn dod â gobaith i’r gymuned

Dog walkers sat on wal

Yn 2005, sefydlodd Hope Rescue ei hun fel Cwmni Elusennol i achub ac ailgartrefu cŵn crwydr.  Roedd y mwyafrif o’r cŵn a gafodd help yn gŵn crwydr o ffaldau awdurdodau lleol yn ne Cymru, a fyddai fel arall wedi cael eu dinistrio ar ôl cwblhau eu saith niwrnod statudol yn y ffald. Ethos Hope Rescue yw “ni chaiff dim un ei adael ar ôl, ni waeth beth yw ei oed, ei frid neu gyflwr meddygol".

Mae Hope Rescue yn teimlo’n frwd mai eu rôl yw nid mynd i’r afael â chanlyniadau perchnogaeth  anghyfrifol yn unig, ond mynd i’r afael â’r gwir achosion hefyd a lleihau nifer y cŵn sydd angen mynediad at y system lles anifeiliaid. Maen nhw hefyd yn credu yn y rôl fugeiliol a therapiwtig gwerthfawr y gall cŵn ei chwarae yn eu cymuned leol. Mae eu gwaith estyn allan “Hope yn y Gymuned” yn cynnwys:

  • Cynllun seibiant cŵn sy’n cynorthwyo perchnogion mewn argyfwng (er enghraifft, perchnogion cŵn sy’n dioddef cam-drin domestig, digartrefedd neu arhosiad mewn ysbyty) i gadw eu hanifeiliaid anwes.
  • Darparu bwyd anifeiliaid anwes a nwyddau eraill i fanciau bwyd a sefydliadau cymorth, i helpu perchnogion cŵn sydd ar incwm isel neu sy’n byw ar y strydoedd
  • Darparu cyfleoedd gwirfoddoli a phrofiad gwaith i bob sector y gymuned
  • Sefydliadau’n ymweld, fel ysgolion arbennig, canolfannau dydd a chartrefi preswyl â chŵn, i roi i bobl fuddion cymdeithasol a therapiwtig rhyngweithio ag anifeiliaid
  • Ymgyrchu ar gyfer newid deddfwriaethol
  • Hyrwyddo perchnogaeth gyfrifol trwy brosiectau addysg a chymunedol

Ar ôl gweithredu o gynelau preswyl masnachol a chartrefi maeth am 12 mlynedd, cododd gyfle i brynu Canolfan achub yn Llanharan, Rhondda Cynon Taf. Fe wnaeth Busnes Cymdeithasol Cymru helpu Hope Rescue i sefydlu braich fasnachu perchnogaeth lawn a rhoi arweiniad ar TAW, cyngor ar adnoddau dynol a marchnata, a chymorth datblygu cynaliadwy.  Gyda’r ddarpariaeth hon oddi wrth Busnes Cymdeithasol Cymru a pherthynas weithio agos â’r WCVA, llwyddodd Hope Rescue i gael cyllid trwy gronfa Twf Busnesau Cymdeithasol, a gwnaethant brynu’r eiddo ym mis Mawrth 2017.

Mae gan y Ganolfan le ar gyfer 40 o gŵn achub, ac 18 erw o goetir preifat, dau badog ymarfer corff, canolfan hyfforddi dan do ac ystafell drin. Mae hefyd yn cynnig llety masnachol i’r cyhoedd ar gyfer hyd at 20 o gŵn, sy’n cynorthwyo cynaliadwyedd ariannol yr elusen. 

Trwy gymorth Busnes Cymdeithasol Cymru a chyllid WCVA, mae Hope Rescue wedi creu saith swydd newydd, sef:

  • 2 x Cynorthwy-ydd Lles Anifeiliaid
  • Rheolwr Codi Arian
  • Rheolwr Trawsnewid
  • Pennaeth Lles a Mabwysiadu
  • Cynorthwy-ydd Lles a Mabwysiadu
  • Swyddog Cyllid

Tricia Morgan, Cynghorydd Busnes, Busnes Cymdeithasol Cymru 

Trwy gymorth Busnes Cymdeithasol Cymru, llwyddodd Hope Rescue i sicrhau cyllid i brynu’r tir a’r eiddo gofynnol i sefydlu’r ganolfan achub. Fe wnaeth sefydlu braich fasnachol y busnes ganiatáu iddyn nhw fasnachu’n rhydd ac ail-fuddsoddi elw yn ôl i mewn i’r elusen, gan ganiatáu iddi barhau i gyflwyno gwaith elusennol.  Rwyf wedi bod yn ffodus iawn gweld Hope Rescue yn tyfu fel busnes o fewn y flwyddyn ddiwethaf; mae’n profi bod cymorth Busnes Cymdeithasol Cymru yn gwneud gwahaniaeth, ac mae gweld busnesau yn cyflawni eu nod yn gwneud fy ngwaith yn werth chweil.

Paula Rowe, Hope Rescue 

Mae Tricia o Busnes Cymdeithasol Cymru wedi bod yn ffynhonnell amhrisiadwy o gymorth wrth i ni drawsnewid ein helusen trwy brynu ein canolfan achub gyntaf, a sefydlu cwmni masnachu masnachol. Fe wnaeth hi ein galluogi ni i gyrchu cyngor arbenigol mewn amrywiaeth o feysydd gwahanol, o adnoddau dynol i gyllid, o bolisi amgylcheddol i iechyd a diogelwch. Ni allwn ni ddiolch i Busnes Cymdeithasol Cymru ddigon am y gwahaniaeth enfawr y mae eu cymorth wedi’i wneud. Mae Tricia wedi bod yn gymaint o help i ni, rydym ni’n ei hystyried yn ffrind yn ogystal â chynghorydd.

Women and her dog