Gwreiddiau Gwydn: Yr achos dros berchenogaeth gan y gweithwyr yn y sector preifat yng Nghymru

Classroom with students holding their hands up

Nid yw cynifer â thri chwarter y busnesau bach a chanolig (BBaChau) yng Nghymru wedi cynllunio ar gyfer trosglwyddo eu busnes yn y dyfodol. Mae ymwybyddiaeth o'r angen i gynllunio ar gyfer olyniaeth yn isel, ac nid yw llawer o berchenogion busnes yn ymwybodol o'r materion sy'n gysylltiedig â chynllunio'n strategol ar gyfer olyniaeth, nac ychwaith o'r amserlenni y mae angen eu hystyried.

Warning sign

75%

Mae'n bosibl nad oes gan gynifer â thri o bob pedwar o BBaCHau yng Nghymru gynllun olyniaeth ar waith

 

Warning sign

Ymwybyddiaeth

Mae gan lawer o berchenogion BBaChau ddealltwriaeth gyfyngedig o'r goblygiadau manwl o ran treth, y gyfraith, a diwydrwydd dyladwy sy'n gysylltiedig â gwerthu eu busnes, yn ogystal â disgwyliadau afrealistig o ran pris eu busnes.

 

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd ddydd Gwener 30 Mehefin 2017, i gyd-fynd â Diwrnod Perchenogaeth gan y Gweithwyr, dathliad ledled y DU o berchenogaeth gan y gweithwyr, yn dangos nad yw cynifer â thri o bob pedwar o Fusnesau Bach a Chanolig (BBaChau) yng Nghymru wedi cynllunio ar gyfer trosglwyddo eu busnes yn y dyfodol.

Mae'r adroddiad, 'Gwreiddiau a Gwydn: Yr achos dros berchenogaeth gan y gweithwyr yn y sector preifat yng Nghymru', a gomisiynwyd gan Busnes Cymdeithasol Cymru mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru mewn ymateb i dystiolaeth anecdotaidd sy'n awgrymu nad yw BBaCHau yng Nghymru yn mynd ati i gynllunio ar gyfer eu holyniaeth. Ymgymerodd yr Asiantaeth Ymchwil, Wavehill, ag arolwg o dros 300 o fusnesau ledled Cymru, er mwyn canfod eu parodrwydd ar gyfer trosglwyddo eu busnes, ynghyd â sut y byddent yn disgwyl mynd ati i wneud hynny.

Dangosodd yr arolwg mai ychydig iawn o ymwybyddiaeth sy'n bodoli ledled Cymru o'r angen i gynllunio ar gyfer perchenogaeth busnesau yn y dyfodol, ac nad yw llawer o berchenogion busnes yn ymwybodol o'r materion sy'n ymwneud â chynllunio ar gyfer olyniaeth, nac ychwaith o beryglon peidio â dechrau'r broses yn ddigon cynnar.

Mae'r adroddiad yn galw am ystyriaeth ddifrifol o berchenogaeth gan y gweithwyr fel opsiwn hyfyw i berchenogion sydd am gynllunio eu strategaeth ymadael. Dywed y gall proses raddol o drosglwyddo rheolaeth i berchenogaeth gan y gweithwyr sicrhau bod perthnasoedd â'r gweithwyr, cwsmeriaid, cyflenwyr a'r gymuned leol yn cael eu cynnal ar ôl i'r sylfaenydd ymadael yn llwyr.

Mae'r ymchwil yn awgrymu bod yna gyfle i ymgorffori perchenogaeth gan y gweithwyr mewn prosesau cynllunio busnes BBaChau tymor hwy yng Nghymru. Mae ehangu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o berchenogaeth gan y gweithwyr fel dull o ymdrin ag olyniaeth busnes, yn cynnig ffordd i lawer mwy o berchenogion BBaChau fanteisio ar werth eu busnes mewn modd sy'n creu buddion iddynt eu hunain, i'w cyflogeion, yn ogystal ag i'r economi leol.

O ran cymorth, ymhlith y rhanddeiliaid hynny a gafodd eu cyfweld ar gyfer yr astudiaeth hon, Busnes Cymdeithasol Cymru, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, ac a ddarperir gan Ganolfan Cydweithredol Cymru, oedd y dewis cyntaf amlwg ar gyfer cymorth ym maes perchenogaeth gan y gweithwyr yng Nghymru.

Daw'r adroddiad i'r casgliad bod eithriadau treth a gyflwynwyd yn ddiweddar, yn ogystal â'r ffocws ar dwf busnes yng Nghymru, yn cefnogi dulliau ar gyfer datblygu perchenogaeth gan y gweithwyr fel rhan annatod o'r cynnig olyniaeth busnes ehangach yng Nghymru.

Cyhoeddir yr adroddiad ar yr un diwrnod ag y mae'r Gymdeithas Perchenogaeth gan y Gweithwyr, y corff ar gyfer y DU sy'n hyrwyddo a datblygu Perchenogaeth gan y Gweithwyr, yn cynnal ei phumed Diwrnod Perchenogaeth gan y Gweithwyr. Y diwrnod hwn yw'r dathliad cenedlaethol o berchenogaeth gan y gweithwyr, sy'n gyfle i godi ymwybyddiaeth o'r effaith gadarnhaol y mae'r sector yn ei chael ar economi'r DU, yn ogystal â'r manteision economaidd y mae'n eu cynnig iddi. Mae'r Gymdeithas Perchenogaeth gan y Gweithwyr yn honni bod busnesau sy'n eiddo i'r gweithwyr yn cyfrannu £30 biliwn CMC at economi'r DU bob blwyddyn.

Dywedodd Derek Walker, Prif Weithredwr Canolfan Cydweithredol Cymru:

“Mae perchenogaeth gan y gweithwyr yn cynnig dull o ymdrin ag olyniaeth sy'n deg i bawb. Gall perchenogion busnes adael eu busnes gan wybod eu bod wedi cael pris teg amdano, a'u bod hefyd wedi diogelu dyfodol eu gweithwyr. Mae'r gweithwyr yn gallu cymryd rheolaeth dros eu tynged eu hunain, a gellir rhoi sicrwydd i'r cyflenwyr a'r cwsmeriaid o ran cyflenwad parhaus."

“Dengys tystiolaeth fod busnesau sy'n eiddo i'r gweithwyr yn wydn, ac yn llawer mwy tebygol o dyfu yn ystod cyfnodau economaidd anos. Pan fydd gweithwyr yn cadw perchenogaeth o fusnes, mae'n llawer mwy anodd i'r busnes hwnnw gael ei werthu i gystadleuwyr allanol wedi hynny, sy'n golygu ei fod yn gallu parhau i dyfu, gan aros wedi'i wreiddio'n gadarn yn y gymuned y cafodd ei ddechrau.”

I gael rhagor o wybodaeth am berchenogaeth gan y gweithwyr, ewch i http://bit.ly/rooted-and-resilient. Mae crynodeb gweithredol o 'Gwreiddiau Gwydn: Yr achos dros berchenogaeth gan y gweithwyr yn y sector preifat yng Nghymru' ar gael i'w lawrlwytho o dydd Gwener 30 Mehefin ymlaen.