Gwnewch gais nawr
Mae’r broses ymgeisio yn fyr ac yn syml. Os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, bydd tîm Canolfan Cydweithredol Cymru yn hapus i’ch cynghori chi. Ffoniwch ni ar 02920 807 133.
I wneud cais am wobr:
- Cofrestrwch eich diddordeb mewn rhoi cynnig ar y Gwobrau trwy lenwi ein ffurflen Survey Monkey fer (dolen allanol)
- Ar ôl i chi lenwi’r ffurflen Survey Monkey, cliciwch ar ‘Done’. Bydd y ffurflen/ffurflenni cais a’r pecyn gwybodaeth yn cael eu hanfon atoch mewn neges e-bost trwy awards@walescooperative.org. Darllenwch y rhain yn ofalus gan eu bod nhw’n cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gwblhau eich cais.
- Cwblhewch eich cais a chadw eich ffurflen fel SEAwardsWales_Enw’r Sefydliad
- Anfonwch eich ffurflen a dogfennau ategol mewn neges e-bost at awards@walescooperative.org
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn yr holl geisiadau yw 5pm, dydd Gwener, 17 Gorffennaf 2015.
Bydd pob ymgeisydd yn clywed a fydd ef neu ei sefydliad wedi cyrraedd y rhestr fer erbyn Awst 2015.
Os oes angen unrhyw help arnoch i lenwi’r ffurflen neu os hoffech drafod a yw eich menter gymdeithasol yn gymwys, cysylltwch â thîm Canolfan Cydweithredol Cymru ar 02920 807 133.