Eurosource
Cyflenwyr cynhyrchion piblinellau byd-eang
Ym mis Gorffennaf 2015, brocerwyd pryniant gan bum rheolwr yn Eurosource, gyda phob aelod o’r tîm yn gwneud buddsoddiad personol sylweddol i brynu cyfranddaliadau oddi wrth y rhanddeiliad blaenorol. Mae wedi sicrhau y gall y tîm rheoli newydd sydd wedi’i leoli yn Aberbargod ganolbwyntio ar ddatblygiadau arloesol i helpu ddatblygu a thyfu eu busnes.
“Mae’r buddsoddiad gan UK Steel a’r cymorth gan Ganolfan Cydweithredol Cymru wedi bod yn amhrisiadwy yn ystod y proses brynu. Mae gan y tîm newydd gynlluniau ehangu uchelgeisiol ac mae’n gobeithio gallu symud tuag at ymagwedd perchnogaeth gweithwyr ehangach wrth i’r busnes ddatblygu.”
Karl Williams, Eurosource
Mae llawer o fusnesau llwyddiannus yn methu oherwydd nad yw olyniaeth yn cael ei drafod yn ddigonol. Gall hyn arwain at golli swyddi, colli contractau cyflenwyr a busnesau’n cau. Mae gan Busnes Cymdeithasol Cymru arbenigedd mewn cynllunio olyniaeth ac arwain busnesau trwy’r broses brynu gan weithwyr.
I gael mwy o wybodaeth am ein cymorth teilwredig, rhad ac am ddim, ffoniwch 03000 6 03000 a gofynnwch am Fusnes Cymdeithasol Cymru