Elite Paper Solutions

Workers with shredded paper

Amddiffyn ein pobl a’n hamgylchedd

Rydym yn darparu gwasanaeth ailgylchu a rhwygo gwastraff papur cyfrinachol wedi’I deilwra i sefydliadau’r sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol mewn nifer o siroedd yn Ne Cymru.

  • Mae natur y busnes hwn yn cynnwys tasgau sy’n cynnig cynhwysiant llawn i bobl ag anableddau neu sy’n ddifreintiedig

  • 20 tunnell o wastraff papur wedi ei ailgylchu i GiG Cymru yn 2016

  • 41 unigolyn wedi derbyn ein help i gael cyfleoedd am gyflogaeth â thâl

  • Mae gennym gynlluniau clir a chadarn a ddylai ein galluogi i dyfu, yn seiliedig ar weithlu amrywiol

"Mae'r gefnogaeth gan Busnes Cymdeithasol Cymru wedi bod yn amhrisiadwy wrth i ni sefydlu ffocws ein busnes, o'i gymorth ymarferol i'w sgiliau cyfeirio mewn meysydd arbenigedd. Mae ei hygyrchedd wedi bod heb ei ail, ac mae wedi ein cynorthwyo ac, yn aml, ein hysgogi, i ddatblygu. Yn ogystal â bod o fudd i fusnesau newydd, credaf fod ei gefnogaeth hefyd o fudd i'r busnesau sefydledig hynny sy'n wynebu heriau, a hynny trwy eu cynorthwyo i roi atebion ar waith".

Andrea Wayman, Elite Paper Solutions

2 men working a factory machine

 


O gyngor ar sefydlu’r math cywir o fusnes i hyfforddiant ar faterion llywodraethu a chynllunio busnes, mae Busnes Cymdeithasol Cymru yn darparu’r arbenigwyr a’r gwasanaethau i helpu eich busnes.

I gael mwy o wybodaeth am ein cymorth teilwredig, rhad ac am ddim, ffoniwch 03000 6 03000 a gofynnwch am Fusnes Cymdeithasol Cymru.