Dulas
Menter Gymdeithasol y Flwyddyn yng Nghymru a’r DU 2016
Rydym yn gwmni cydweithredol bach wedi ei leoli ym Machynlleth, ac r ydym wedi bod yn cyflwyno atebion ynni adnewyddadwy i fusnesau, perchnogion tir ac elusennau ers dros 34 mlynedd
-
Yn 1994, cyflwynom ein system hydro cyntaf yng Ngogledd Cymru
-
Wedi tyfu o gwmni cydweithredol i 7 o weithwry i 75
-
O argaeau dŵr yn Awstria i oergelloedd brechlynnau ynni solar yn Zambia, ein bwriad yw darparu’r ymgynghori a’r arloesedd mecanyddol sydd eu hangen ar ein cleientiaid i fynd yn wyrdd
-
Ein bwriad? Rydyn ni eisiau darparu seilwaith ynni i rai o ranbarthau mwyaf anghysbell a pheryglus y byd
"Roedd cael ein cydnabod am ein hathroniaeth fusnes foesegol yn foddhad mawr i ni, ac mae'r wobr hefyd yn bwysig i'n cwsmeriaid, sy'n awyddus i fasnachu â chwmnïau egwyddorol. Mae Busnes Cymdeithasol Cymru yn ffynhonnell hollbwysig o wybodaeth, ac yn eiriolwr mor werthfawr dros fusnesau tebyg i'n busnes ni, busnesau sy'n ceisio mynd i'r afael â'r heriau sy'n effeithio arnom ni i gyd".
Alistair Marsden, Cyfarwyddwr Gwerthu a Marchnata, Dulas Ltd
Cynyddu trosiant. Cynyddu elw. Arallgyfeirio. Ehangu. Cydweithredu. Cydweithio. Trawsffurfio. Beth bynnag rydych chi eisiau ei wneud, mae Busnes Cymdeithasol Cymru yn darparu’r arbenigwyr a all helpu. Ni yw’r gweithrediad cenedlaethol ledled Cymru ar gyfer busnesau cymdeithasol a mentrau cydweithredol.
I gael mwy o wybodaeth am ein cymorth teilwredig, rhad ac am ddim, ffoniwch 03000 6 03000 a gofynnwch am Busnes Cymdeithasol Cymru.