Categorïau’r gwobrau
Mae Gwobrau Mentrau Cymdeithasol Cymru 2015 yn cynnwys 5 categori. I wneud cais am wobr, cofrestrwch eich diddordeb.
- Menter Gymdeithasol Cymru y Flwyddyn – bydd y wobr hon yn cael ei rhoi i’r fenter gymdeithasol sy’n cael ei beirniadu fel yr un fwyaf arloesol, ysbrydoledig neu uchelgeisiol yng Nghymru. Mae’r categori hwn yn agored i fentrau cymdeithasol sydd wedi bod yn masnachu ers mwy na dwy flynedd. Caiff Menter Gymdeithasol Cymru y Flwyddyn ei noddi gan BIC Innovation.
- Un i’w gwylio – bydd y wobr hon yn dathlu mentrau cymdeithasol mwy newydd gyda’r potensial i dyfu a chael effaith wirioneddol ar eu cymuned neu’r economi leol. Mae’r categori hwn ar gyfer mentrau cymdeithasol sydd wedi bod yn masnachu ers llai na dwy flynedd. Noddir gan Landsker
- Prynu’n Gymdeithasol / Meithrin y Farchnad – mae’r wobr hon wedi’i hanelu at fusnesau a sefydliadau sy’n cynorthwyo twf a datblygu mentrau cymdeithasol, trwy ddefnyddio ymagweddau caffael a phrynu cyfeillgar i fentrau cymdeithasol. Noddir gan Legal and General
- Menter Ieuenctid Ysbrydoledig – mae’r categori hwn yn canolbwyntio ar fentrau cymdeithasol dan arweiniad pobl ifanc neu brosiectau mentrau cymdeithasol sy’n cynnwys arweinyddiaeth pobl ifanc. Noddir gan Syniadau Mawr Cymru
- Hyrwyddwr Menter Gymdeithasol – mae’r wobr hon yn cydnabod unigolyn neu dîm bach sydd wedi darparu cyfraniad ysbrydoledig at fenter gymdeithasol a/neu’r sector ehangach. Noddir gan NatWest.
Cofrestrwch eich diddordeb yn y gwobrau (dolen allanol).