Canolfan Hamdden Splash Magic

Both y gymuned yn fyw ac yn iach

  • Mae dros 200,000 o bobl wedi bod yno ers iddi ailagor

  • Mae wedi treblu nifer ei staff â thâl rhan-amser ac amser llawn i 23

Ar fin mynd i’r wal, rhoddwyd bywyd newydd i Ganolfan Hamdden Plas Madoc diolch i’r gymuned leol. Ers ei hailagor o dan berchnogaeth gymunedol fel Splash Magic ym mis Rhagfyr 2014, mae’r ganolfan hamdden wedi mynd o nerth i nerth, wedi creu swyddi lleol a darparu cyfleusterau i bobl Wrecsam. O ysgrifennu ceisiadau cyllid i gyngor ar sefydlu ymddiriedolaeth gymunedol, derbyniodd Ymddiriedolaeth Gymunedol Splash gymorth hanfodol gan bartneriaid allweddol i’w helpu i achub ac adfywio Canolfan Hamdden Plas Madoc.

“O ysgrifennu ceisiadau am gyllid i gyngor ar sefydlu ymddiriedolaeth gymunedol, derbyniodd Ymddiriedolaeth Gymunedol Splash gymorth hanfodol gan Busnes Cymdeithasol Cymru i’w helpu i achub ac adfywio Canolfan Hamdden Plas Madoc.”

Callum Edwards, Cynorthwy-ydd Cysylltiadau Cymunedol, Canolfan Hamdden Splash Magic

Mother and child in a pool

 


Mae busnesau cymdeithasol yn fodel credadwy i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus. Os yw eich cymuned yn awyddus i ddod â gwasanaeth cyhoeddus i berchnogaeth gymunedol, mae gan Busnes Cymdeithasol Cymru'r arbenigedd i’w wneud yn realiti.

I gael mwy o wybodaeth am ein cymorth teilwredig, rhad ac am ddim, ffoniwch 03000 6 03000 a gofynnwch am Fusnes Cymdeithasol Cymru